Brenhiniaeth Gwlad Belg

(Ailgyfeiriad o Brenhinoedd Gwlad Belg)

Y frenhiniaeth sydd yn teyrnasu dros Deyrnas Gwlad Belg yw brenhiniaeth Gwlad Belg. Brenhiniaeth boblogaidd ydyw, hynny yw mae teitl y teyrn yn cyfeirio at y bobl yn hytrach nag at y diriogaeth: Brenin neu Frenhines y Belgiaid (Iseldireg: Koning(in) der Belgen, Ffrangeg: Roi / Reine des Belges, Almaeneg: König(in) der Belgier). Hyd yn hyn, dim ond brenhinoedd sydd wedi teyrnasu dros y wlad. Brenhiniaeth gyfansoddiadol ydy llywodraeth Gwlad Belg, ac yn ôl y cyfansoddiad mae'n rhaid i'r teyrn dyngu llw i lywodraethu gyda pharch at gyfraith y wlad ac i ddiogelu sofraniaeth a chyfanrwydd tiriogaethol ei deyrnas rhag bygythiadau allanol.

Brenhiniaeth Gwlad Belg
Enghraifft o'r canlynolbrenhiniaeth gyfansoddiadol, safle a etifeddwyd, teitl bonheddig Edit this on Wikidata
Deiliad presennolPhilippe, brenin Gwlad Belg Edit this on Wikidata
Deiliaid a'u cyfnodau 
  • Philippe, brenin Gwlad Belg (21 Gorffennaf 2013)
  • Gwefanhttps://www.monarchie.be Edit this on Wikidata
    Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
    Ystondord Fawr Arfbais frenhinol Gwlad Belg

    Sefydlwyd y frenhiniaeth gyfansoddiadol gan y Gyngres Genedlaethol yn sgil Chwyldro Gwlad Belg ym 1830. Yn Chwefror 1831 enwebwyd y Tywysog Louis, Dug Nemours, i gymryd yr orsedd, ond gwrthodwyd hynny gan ei dad Louis Philippe I, brenin Ffrainc. Dros dro, penodwyd Érasme-Louis Surlet de Chokier yn Rhaglyw Gwlad Belg, ac o'r diwedd enwebwyd Leopold, Tywysog Saxe-Coburg a Gotha a Dug Sachsen, yn frenin cyntaf y Belgiaid. Tyngodd Leopold ei lw gerbron Eglwys Saint-Jacques-sur-Coudenberg ym Mrwsel ar 21 Gorffennaf 1831.

    Yn sgil goresgyniad Gwlad Belg gan yr Almaen Natsïaidd yn ystod yr Ail Ryfel Byd, penderfynodd y Brenin Leopold III ildio ac hynny heb dderbyn cyngor ei weinidogion. Aeth y llywodraeth yn alltud am weddill y rhyfel, ond arhosodd Leopold yng Ngwlad Belg dan feddiannaeth yr Almaenwyr. Wedi'r rhyfel, cafwyd dadl ffyrnig ynglŷn ag ymddygiad Leopold, ac ym 1951 fe ymddiorseddai. Am gyfnod bu gweriniaetholdeb ar dwf yng Ngwlad Belg, er enghraifft yn ystod streiciau 1960–61. Wrth i deyrnasiad y Brenin Baudouin fynd rhagddi, tyfodd cefnogaeth dros y frenhiniaeth unwaith eto.[1]

    Rhestr brenhinoedd Gwlad Belg

    golygu

    Cyfeiriadau

    golygu
    1. Robert Stallaerts, Historical Dictionary of Belgium (Lanham, Maryland: The Scarecrow Press, 2007), t. 118.
      Eginyn erthygl sydd uchod am Wlad Belg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.