Thomas Jones (ysgolhaig)
Ysgolhaig amryddawn a chyfieithydd o Gymru oedd Thomas Jones (1910 – 17 Awst 1972), gyda diddordeb arbennig mewn llenyddiaeth Gymraeg, llên gwerin Cymru a llenyddiaeth yr Oesoedd Canol.
Thomas Jones | |
---|---|
Ganwyd | 1910 Alltwen |
Bu farw | 17 Awst 1972, 1972 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | cyfieithydd |
Gwobr/au | Uwch Ddoethor |
- Am bobl eraill o'r un enw, gweler Thomas Jones.
Ganed Thomas Jones yn Yr Allt-wen, Morgannwg yn 1910. Cafodd ei addysg brifysgol yng Ngholeg Prifysgol Aberystwyth lle daeth yn aelod o staff yr Adran Gymraeg.
Ei waith fel ysgolhaig
golyguYmddiddorai mewn ystod eang o bynciau, yn cynnwys cyfieithu gwaith o'r Llydaweg, y Wyddeleg a'r Lladin, llên gwerin a Chylch Arthur. Mae ei astudiaethau yn cynnwys bywyd a gwaith Thomas Jones yr almanaciwr, y croniclydd Tuduraidd Elis Gruffydd, David Owen (Brutus) ac O. M. Edwards.
Fel golygydd testunau Cymraeg Canol fe'i cofir am ei argraffiadau safonol o Y Bibl Ynghymraec a Brut y Tywysogion.
Fel cyfieithydd mae'n adnabyddus am gyhoeddi cyfieithiad o'r Lladin i'r Gymraeg o ddwy gyfrol enwog Gerallt Gymro ar Gymru'r Oesoedd Canol, sef Hanes y Daith Trwy Gymru a'r Disgrifiad o Gymru. Gyda'r llenor Gwyn Jones, cyfieithodd y Mabinogi i'r Saesneg.
Llyfryddiaeth ddethol
golyguFel golygydd:
- Y Bibl Ynghymraec (Caerdydd, 1940)
- Brut y Tywysogion. Cyhoeddodd bedair cyfrol, yn Gymraeg a Saesneg, o'r ddau brif destun.
Cyfieithiadau
- Gerallt Gymro : Hanes y Daith Trwy Gymru a'r Disgrifiad o Gymru (Caerdydd, 1938)
- (gyda Gwyn Jones), The Mabinogion (Everyman's Library, 1948)