Ymladdwyd Brwydr Borodino (Ffrangeg: Bataille de la Moskowa; Rwseg: Бородинское сражение, Borodinskaja bitva) ar 7 Medi 1812, rhwng byddin Ffrainc dan yr ymerawdwr Napoleon a byddin Rwsia dan Michail Kutusov. Roedd maes y frwydr ger pentref Borodino, i'r gorllewin o ddinas Moscfa (yn Oblast Moscfa heddiw).

Brwydr Borodino
Enghraifft o'r canlynolbrwydr Edit this on Wikidata
Dyddiad7 Medi 1812 Edit this on Wikidata
Rhan oFrench invasion of Russia Edit this on Wikidata
LleoliadBorodino (village), Mozhaysky District, Moscow Oblast Edit this on Wikidata
Map
GwladwriaethRwsia Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Yn 1812 ffurfiwyd y Chweched Cynghrair rhwng Rwsia, Prydain, Prwsia, Sweden, Awstria a nifer o wladwriaethau bychain yr Almaen, gyda'r bwriad o wrthwynebu Napoleon. Ymosododd Napoleon ar Rwsia ym mis Mehefin gyda'r Grande Armée, yn cynnwys tua 600,000 o filwyr, dim ond 270,000 ohonynt yn Ffrancwyr. Ar 7 Medi ymladdwyd brwydr Borodino. Roedd gan y fyddin Ffrengig rhwng 125,000 a 130,000 o wŷr, a'r fyddin Rwsaidd rhwng 154,000 a 157,000. Dioddefodd y ddwy ochr golledion trwm, y Ffrancwyr 28,000 - 30,000 a'r Rwsiaid 45,000 - 58,000. Ar ddiwedd y dydd, roedd y ddwy fyddin yn parhau i fod ar faes y gad, ond y noson honno enciliodd y Rwsiaid tua'r dwyrain.

Meddiannwyd Moscfa gan y Ffrancwyr, ond rhoddwyd y ddinas ar dân. Bu raid i Napoleon encilio, a rhwng y tywydd ac ymosodiadau'r Rwsiaid, collodd bron y cyfan o'i fyddin; dim ond tua 30,000 o filwyr a groesodd afon Berezina i adael Rwsia.

Mae hanes y frwydr yn ffurfio rhan bwysig o'r nofel Rhyfel a Heddwch gan Lev Tolstoy.