Brwydr Maes Maidog

brwydr rhwng gwrthryfelwyr Cymreig dan Madog ap Llywelyn a llu Iarll Warwig

Ymladdwyd Brwydr Maes Maidog ar Faes Maidog (neu Faes Meidiog; Moydog fel rheol mewn ffynonellau Saesneg), yng nghantref Caereinion, Powys ar 5 Mawrth 1295 rhwng gwrthryfelwyr Cymreig dan Madog ap Llywelyn a llu Iarll Warwig.

Brwydr Maes Maidog
Enghraifft o'r canlynolbrwydr Edit this on Wikidata
Dyddiad5 Mawrth 1295 Edit this on Wikidata
LleoliadLlanfair Caereinion Edit this on Wikidata
Map
GwladwriaethTeyrnas Lloegr Edit this on Wikidata

Hanes golygu

Roedd byddin Madog ar ei ffordd i lawr i Bowys, naill ai i ymosod ar y Saeson ar y Gororau neu i geisio ymuno â'r gwrthryfelwyr eraill dan Cynan ap Maredudd yn y Canolbarth a Maelgwn ap Rhys yn y De, pan gafodd ei ddal yn annisgwyl gan luoedd Warwig ym Maes Meidiog, ger Llanfair Caereinion. Trechwyd Madog a'i ddilynwyr yn llwyr a dyna ddiwedd ar y gwrthryfel i bob pwrpas.

Wedi clywed fod byddin Madog yn gorwedd mewn cwm o fewn cyrraedd i'w gastell yn Y Trallwng, ymdeithiodd Iarll Warwig a'i filwyr trwy'r nos o 4 Mawrth a llwyddasant i amgylchynu'r Cymry. Trefnodd Madog ei wŷr gwaywffon mewn sgwâr amddiffynnol a llwyddodd i wrthsefyll cyrch gan farchoglu'r Saeson a'u gyrru yn eu holau. Ond defnyddiodd Warwig y saethwyr bwa a bwa croes yn ei lu yn ddeheuig. Lladdwyd nifer o'r Cymry ond llwyddodd Madog a gweddill y fyddin i ddianc trwy rydio afon Banwy. Bu ymladd pellach mewn lle y cyfeirir ato yn y cofnodion Seisnig fel 'Thesseweit' (lleoliad anhysbys) a chollwyd cyflenwadau byddin Madog. Yn ôl y cofnodion Seisnig, lladdwyd tua chant o Saeson ond tua saith cant o Gymry. Gan nad oes tystiolaeth o'r ochr Gymreig mae'n bosibl bod nifer y colledion Cymreig wedi ei chwyddo, ond cafodd y frwydr effaith ar y gwrthryfel a ddirwynodd yn araf i ben. Ffoes Madog ond cafodd ei ddal gan y Saeson yng Ngorffennaf yr un flwyddyn.

Darllen pellach golygu

  • John Griffiths, "The Revolt of Madog ap Llywelyn, 1294-5", yn Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon (cyf. 16, 1955)