Brwydr Trefynwy (1233)

brwydr a ymladdwyd rhwng y Normaniaid a'r Cymru yn bennaf; 1233

Ar 25 Tachwedd 1233 ymladdwyd Brwydr Trefynwy rhwng milwyr Harri III (brawd Siwan) a Richard Marshal, 3ydd Iarll Penfro a oedd wedi wedi dod i gytundeb gyda Llywelyn Fawr ac Owain ap Gruffudd (ŵyr yr Arglwydd Rhys). Roedd Richard yn fab i'r enwog William Marshal, Iarll 1af Penfro.

Brwydr Trefynwy
Prif Dŵr Castell Mynwy.
Mathbrwydr Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolYmosodiad y Normaniaid ar Gymru Edit this on Wikidata
LleoliadTrefynwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.813°N 2.725°W Edit this on Wikidata
Map
Cyfnod25 Tachwedd 1233 Edit this on Wikidata
Cofeb William Marshal (tad Richard) yn Temple Church, Llundain.

Asgwrn y gynnen oedd y ffaith i Marshal wrthod ymweld â'r brenin yn ei Lys yng Nghaerloyw yn Awst 1233 a chyhoeddodd y brenin ef yn fradwr; dychwelodd Marshall i'w gastell yng Nghas-gwent. Ymateb y brenin oedd symud ei filwyr i'r Fenni. Daeth Owain a'i fyddin i ymuno â byddin Marshall ac aethant ar eu hunion i gipio Castell Caerdydd, Castell Casnewydd, y Fenni a Chastell y Grysmwnt, 10 milltir i'r gogledd o Drefynwy, o fewn tafliad carreg â'r ffin rhwng Sir Fynwy a Swydd Henffordd yn Lloegr. Dychwelodd y brenin i Gaerloyw.

Daeth y ddwy fyddin at ei gilydd ychydig i'r gorllewin o Afon Mynwy, ger Trefynwy: ar dir a elwir heddiw yn "Gaeau Vauxhall".[1] Lladdwyd nifer helaeth o filwyr y brenin wrth iddynt geisio dianc; Marshall ac Owain a orfu.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "RCAHMW: Monmouth, Site of battle" Archifwyd 2016-03-03 yn y Peiriant Wayback. Adalwyd 16 Rhagfyr 2011