Bryn Alyn
Mae Bryn Alyn yn gopa mynydd a geir ym Mryniau Clwyd rhwng Rhuthun a'r Wyddgrug; cyfeiriad grid SJ200587. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 307 metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf. Mae'n enwog am ei balmant calchfaen, yr ail fwyf yng Nghymru. Mae yma olion mwyngloddio a llosgi calch, gwiberod ac ogofâu eitha hir. Ceir tri chopa: gyda'r un agosaf i bentref Eryrys yn 408 metr, a'r ddau arall, gerllaw yn 403 metr.
![]() | |
Math | bryn, copa ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Ddinbych |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 408.3 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 53.1213°N 3.201°W ![]() |
Cod OS | SJ2008258752 ![]() |
Manylion | |
Amlygrwydd | 100.9 metr ![]() |
Rhiant gopa | Cyrn-y-Brain ![]() |
Cadwyn fynydd | Bryniau Clwyd ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth | Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ![]() |
Manylion | |
Cofrestrwyd y mynydd (y tri chopa a'r ardal o'u cwmpas) fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Yn 1981 cafwyd hyd i arteffactau o'r Oes efydd: dwy freichled aur, talp o aur a bwyellt gyda soced: credir fod cysylltiad crefyddol i'r darganfyddiad yma a gelwir mynydd Bryn Alyn o'r herwydd yn 'Fynydd Cysegredig'.[1]
Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n HuMP. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[2] Uchder y copa o lefel y môr ydy 408 metr (1339 tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 8 Mehefin 2009.
Awyrluniau o'r calchbalmant
golyguGweler hefyd
golyguDolennau allanol
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ www.academia.edu; rhan o bapur academig (rhaid talu am y gweddill); adalwyd 15 Gorffennaf 2023.
- ↑ “Database of British and Irish hills”