Bryn yr Hen Bobl
Mae Bryn yr Hen Bobl yn siambr gladdu o Oes Newydd y Cerrig sydd wedi'i lleoli gerllaw Llanddaniel Fab, Ynys Môn; cyfeiriad grid SH519689. [1]
Math | carnedd gellog |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Llanddaniel Fab |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.197361°N 4.218611°W |
Cod OS | SH5190368975 |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | AN006 |
Disgrifiad
golyguGelwir y mathau hyn o siambrau yn ”garneddau cellog crynion” ac fe gofrestrwyd Bryn yr Hen Bobl fel heneb gan Cadw gyda'r rhif SAM: AN006. Defnyddiwyd yr heneb hon ar gyfer defodau crefyddol ac i gladdu neu gofio am y meirw.
Cloddwyd y safle yn drwyadl yn 1929. Mae carnedd o siap aren yn gorchuddio siambr blaen gyda mynediad sy'n wynebu i'r dwyrain, man codi'r haul. Darganfuwyd olion tân golosg yn y 'cwrt', sef ceg y fynedfa, a llenwyd hyn yn ddiweddarach gyda cherrig. Cafwyd hyd i ddeunydd neolithig yn gymysg â'r cerrig hyn, yn cynnwys bwyeill carreg a chrochenwaith. Saif yr heneb ar deras artiffisial 12 metr o led sy'n ymestyn am 100 metr i gyfeiriad y de. Codwyd hyn cyn y garnedd ei hun. Roedd gweddillion o leia ugain o unigolion yn y siambr gladdu.[2][3]
Hanner milltir i'r gogledd ceir siambr gladdu Plas Newydd.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Data Cymru Gyfan, CADW
- ↑ Christopher Houlder, Wales: an archaeological guide (Faber, 1978), tt. 44-45.
- ↑ Katherine Watson, North Wales yn y gyfres Regional Archaeologies (Llundain, 1965), tud. 73.
Siamberi Claddu ar Ynys Môn | ||
---|---|---|
Barclodiad y Gawres | Bodowyr | Bryn Celli Ddu | Bryn yr Hen Bobl | Din Dryfol | Llugwy | Pant y Saer | Presaddfed | Trefignath | Tŷ Newydd | ||