Bodowyr
Mae Bodowyr yn siambr gladdu gerllaw Brynsiencyn ar Ynys Môn sy'n dyddio o'r cyfnod Neolithig, tua 3000 C.C. i 2500 C.C.. Mae'n siambr gladdu weddol syml gyda chyntedd, yn un o bedair siambr gladdu o'r math yma ar yr ynys. Yn wreiddiol byddai carnedd dros y siambr, a chofnodir olion o garnedd mewn disgrifiadau cynnar, ond nid oes dim ohoni i'w gweld heddiw. Mae meini'r cyntedd hefyd wedi diflannu.
Math | safle archaeolegol, siambr gladdu |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynys Môn |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.1877°N 4.3033°W |
Cod OS | SH4623368159 |
Rheolir gan | Cadw |
Perchnogaeth | Cadw |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | AN007 |
Gellir cyrraedd y safle wrth droi i'r dde yn syth ar ôl y troad wrth adael Brynsiencyn ar y briffordd A4080 i gyfeiriad Niwbwrch. Mae'r tro yma'n arwain heibio safle Caer Lêb, yna wedi mynd yn syth ymlaen yn y groesffordd nesaf mae'r siambr gladdu mewn cae ar y dde.
Llyfryddiaeth
golygu- Frances Lynch, Gwynedd, A Guide to Ancient and Historic Wales (Llundain: HMSO, 1995)
Siamberi Claddu ar Ynys Môn | ||
---|---|---|
Barclodiad y Gawres | Bodowyr | Bryn Celli Ddu | Bryn yr Hen Bobl | Din Dryfol | Llugwy | Pant y Saer | Presaddfed | Trefignath | Tŷ Newydd | ||