Bryn Celli Ddu
Mae Bryn Celli Ddu yn siambr gladdu yn agos i arfordir deheuol Ynys Môn, rhwng Llanddaniel Fab a Llanedwen a gerllaw Afon Braint. Bu rhywfaint o ysbeilio yno yn 1699 a bu cloddio archeolegol yn 1928 a 1929.
Delwedd:BrynCelliDdu3.jpg, Bryn Celli Ddu Burial Chamber - OGrad.jpg | |
Math | cromlech, safle archaeolegol |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynys Môn |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.2079°N 4.2355°W |
Rheolir gan | Cadw |
Perchnogaeth | Cadw |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | AN002 |
Ymddengys fod cylch cerrig yma yn y cyfnod Neolithig, pan oedd cylch cerrig ar y safle. Roedd olion tân yn un man, a chafwyd hyd i asgwrn bychan o glust ddynol, a charreg wastad drosto.
Tua dechrau Oes yr Efydd, tua 3000 C.C., cafwyd gwared ar y cerrig ac adeiladwyd siambr gladdu. Roedd carreg wedi ei cherfio a llinellau yn sefyll yn y siambr ei hun. Symudwyd hon i Amgueddfa Genedlaethol Cymru, ac mae'r garreg sy'n sefyll tu allan i'r siambr heddiw yn gopi ohoni. Noder fod y pentwr pridd sy'n gorchuddio'r siambr heddiw wedi ei ail-godi yn yr 20g; mae'n debyg fod y gwreiddiol yn llawer mwy.
Archaeoleg
golyguMae gwaith ymchwil diweddar gan Steve Burrow, curadur archaeoleg Neolithig yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru, yn awgrymu fod y siambr wedi ei hadeiladu i gyd-fynd a safle'r haul. Ar y diwrnod hwyaf o'r flwyddyn mae'r haul yn tywynnu yn syth i mewn i'r siambr gladdu ei hun. Mae hyn yn cysylltu Bryn Celli Ddu a rhai siambrau claddu eraill megis Maes Howe a Newgrange, sydd wedi ei hadeiladu i gyd-fynd a safle'r haul ar y dydd byrraf.
Darganfyddiad diweddar arall yw y gall fod pum twll postyn ar y safle fod yn llawer hŷn na'r siambr gladdu a'r cylch cerrig. Dyddiwyd olion o ddau o'r tyllau i'r cyfnod Mesolithig (Pitts, 2006).
Gellir cyrraedd Bryn Celli Ddu trwy droi oddi ar ffordd yr A4080 gerllaw Llanedwen i gyfeiriad Llanddaniel Fab. Mae lle parcio ar y chwith, yna gellir croesi'r ffordd a dilyn llwybr o tua hanner milltir i'r siambr gladdu. Mae'r safle yng ngofal Cadw. Bryn celli ddu yn golygu 'yr twmpath yn yr rhigol dywyll'. Mae ymwelwyr yn medru mynd mewn i'r twmpath drwy dwnel carreg. Mae Bryn Celli Ddu yn cael ei ystyried yn gyffredinol i fod un or yr cyntaf beddrodau hynt gorau.
Delweddau
golygu-
Y garreg unigol amlwg gyda chaerfiadau Celtaidd yn ei haddurno
-
Golwg am allan tua'r fynedfa
-
Golwg y tu mewn
Llyfryddiaeth
golygu- Pitts, M. 2006. Sensational new discoveries at Bryn Celli Ddu. British Archaeology No. 89 (July/August): 6.
Dolennau allanol
golygu
Siamberi Claddu ar Ynys Môn | ||
---|---|---|
Barclodiad y Gawres | Bodowyr | Bryn Celli Ddu | Bryn yr Hen Bobl | Din Dryfol | Llugwy | Pant y Saer | Presaddfed | Trefignath | Tŷ Newydd | ||