Plas Newydd
tŷ rhestredig Gradd I yn Llanddaniel Fab, Ynys Môn
Plasty Ardalydd Môn ar lan Afon Menai, Ynys Môn yw Plas Newydd sydd bellach yn eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ond a fu am flynyddoedd yn gartref i Ardalydd Môn. Saif y plasty hwn ddwy filltir i'r de-orllewin o Lanfairpwll ar yr A55. Mae'r tŷ'n dyddio yn ôl i'r 14g ac ar agor i'r cyhoedd.
Math | tŷ |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol |
Lleoliad | Llanddaniel Fab |
Sir | Llanddaniel Fab |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 14.7 metr |
Cyfesurynnau | 53.2027°N 4.21605°W |
Rheolir gan | yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol |
Perchnogaeth | Henry William Paget, Teulu Paget, Plas Newydd, teulu Griffith y Penrhyn, Nicholas Bagenal, Lewis Bayly, Edward Bayly, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, adeilad rhestredig Gradd II*, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
- Erthygl am y plasdy ym Môn yw hon. Gweler hefyd Plas Newydd (Llangollen) a Plas Newydd (beddrod siambr).
Ym mharc y plas ceir beddrod siambr Neolithig.
Codi'r tŷ cyntaf
golyguDefnyddiwyd safle'r tŷ gyntaf yn y 13g, a gelwid ef yn "Llwyn-y-Moel". Erbyn 1470 roedd yn perthyn i deulu Griffith, a oedd hefyd yn berchen ar Gastell Penrhyn ger Bangor. Roedd Gwilym ap Griffith wedi etifeddu tiroedd drwy ei briodas â Morfydd, merch Goronwy ap Tudur o Benmynydd. Adeiladodd Robert Griffith y rhannau cynharaf o'r tŷ presennol yn gynnar yn yr 16g ar ffurf 'tŷ neuadd'.
Gweler hefyd
golygu- Henry William Paget, Ardalydd 1af Môn
- Henry Paget, 5ed Ardalydd Môn
Oriel
golygu-
Plas Newydd, Sir Fôn, tua 1790
-
Plas Newydd, tua 1790 gan William Wood, tua 1768-1810
-
Plas Newydd tua 1850