Mae Trefignath yn siambr gladdu gerllaw Caergybi ar Ynys Môn sy'n dyddio o'r cyfnod Neolithig, tua 3900 C.C. i 2900 C.C.. Mae'n siambr gladdu sylweddol o ran maint, a dangosodd cloddio archeolegol yn nechrau'r nawdegau ei bod wedi ei defnyddio am gyfnod o tua mil o flynyddoedd. Ar y cychwyn roedd yn siambr weddol syml gyda chyntedd, tebyg i Bodowyr. Yn ddiweddarach newidiwyd y cynllun i fod yn siambr hirsgwar gyda dwy garreg fawr bob ochr i'r fynedfa, a chwrt cul o'i blaen. Yna ychwanegwyd siambr arall ar yr ochr ddwyreiniol gyda cherrig mawr o flaen y fynedfa.

Trefignath
Mathsiambr gladdu Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYnys Môn
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.29323°N 4.614309°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwAN011 Edit this on Wikidata

Gellir cyrraedd Trefignath wrth droi i gyfeiriad Trearddur o ochr Caergybi i'r cob ar y briffordd A5 ac yna troi i'r chwith wrth yr ysgol.

Siambr gladdu Trefignath yn dangos y fynedfa i'r siambr ddwyreiniol

Llyfryddiaeth golygu

Frances Lynch, Gwynedd, A Guide to Ancient and Historic Wales (Llundain: HMSO, 1995)

  Siamberi Claddu ar Ynys Môn  

Barclodiad y Gawres | Bodowyr | Bryn Celli Ddu | Bryn yr Hen Bobl | Din Dryfol | Llugwy | Pant y Saer | Presaddfed | Trefignath | Tŷ Newydd