Buckley Roderick

chwarewr rygbi'r unded

Roedd William Buckley Roderick (17 Ionawr 1862 - 1 Chwefror 1908) yn gyfreithiwr o Gymru, blaenwr rhyngwladol rygbi'r undeb ac yn Is-Gonswl Prydain i Sbaen. Chwaraeodd Roderick rygbi clwb i Glwb Rygbi Llanelli a rygbi rhyngwladol i Gymru .

Buckley Roderick
Ganwyd17 Ionawr 1862 Edit this on Wikidata
Llanelli Edit this on Wikidata
Bu farw1 Chwefror 1908 Edit this on Wikidata
Llanelli Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Galwedigaethchwaraewr rygbi'r undeb Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auTîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Clwb Rygbi Llanelli Edit this on Wikidata

Gyrfa fusnes

golygu

Comisiynwyd Roderick i Gatrawd Gwirfoddolwyr 1af Cymru ym 1882, gan godi i reng capten. Erbyn 1885 roedd Roderick wedi dechrau ymarfer fel cyfreithiwr yn Llanelli gan sefydlu Cwmni Cyfreithwyr Roderick. Gwasanaethodd Roderick mewn nifer o swyddi yn ystod ei yrfa cyhoeddus, gan gynnwys gwasanaethu ar y Bwrdd Iechyd Lleol yn Llanelli, bod yn grwner Sir Gaerfyrddin a Chofrestrydd Llys Sirol Llanelli. Roedd Roderick yn gyfarwyddwr cwmni ar nifer o fusnesau, un ohonynt oedd y cwmni rheilffyrdd lleol Rheilffordd Llanelli a Mynydd Mawr .

Gyrfa rygbi

golygu

Dim ond un gêm ryngwladol a chwaraeodd Roderick i Gymru, gêm olaf Pencampwriaeth y Gwledydd Cartref 1884 . Roedd Cymru wedi colli dwy gêm gyntaf y twrnamaint ac roedd Roderick yn un o chwe chap newydd a ddaeth i mewn i'r tîm i wynebu'r Iwerddon ar Barc Arfau, Caerdydd . Wedi'i chwarae o dan gapteiniaeth Joe Simpson, roedd y tîm yn cynnwys chwaraewyr Caerdydd, Casnewydd ac Abertawe yn bennaf, a Roderick oedd yr unig gynrychiolydd o Lanelli. Fe wnaeth tîm Iwerddon droi fyny efo dau chwaraewr yn brin ar gyfer y gêm ac roedd eu carfan gyfan yn ddibrofiad iawn. Enillodd Cymru o ddau gais a gôl adlam i ddim; dim ond yr ail fuddugoliaeth a brofodd y tîm. Er gwaethaf y fuddugoliaeth, gollyngwyd Roderick, fel ei gyd-gyfreithiwr Tom Barlow ar gyfer y gêm nesaf, y ddau yn dod yn chwaraewyr un cap rhyngwladol.

Gemau rhyngwladol wedi'u chwarae

golygu

Cymru [1]

Hanes personol

golygu

Ganwyd Roderick yn Llanelli i William a Maria (née Buckley) Roderick, ac addysgwyd ef ym Marlborough a Chaerfaddon. Roedd yn fabolgampwr brwd, nid yn unig yn rhagori ar rygbi, ond hefyd yn feiciwr rhagorol. Erbyn 1887 roedd Roderick wedi priodi Ella ac yn byw ym Mhen-bre, Sir Gaerfyrddin .[2] Fu iddynt ddau fab o ba bu ill dau yn gwasanaethu yn y Fyddin Brydeinig. Roedd Hume Buckley Roderick yn gapten dros dro yng Ngwarchodlu Cymru, a lladdwyd ef ar faes y gad ym 1917,[3] daeth William Buckley Nicholl Roderick yn Gyrnol yn y Gwarchodlu'r Coldstream, priododd ferch Syr George Ernest Clark a dyfarnwyd yr OBE iddo .[4]

Llyfryddiaeth

golygu
  • Smith, David; Williams, Gareth (1980). Fields of Praise: The Official History of The Welsh Rugby Union. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 0-7083-0766-3.

Cyfeiriadau

golygu

Dolenni allanol

golygu