Volvo Personvagnar

Gwneuthurwyr ceir o Sweden
(Ailgyfeiriad o Volvo)

Cwmni o Sweden sy'n cynhyrchu ceir moethus yw Corfforaeth Ceir Volvo (a elwir fel arfer yn VOLVO; Swedeg: Volvo Personvagnar neu'n rhyngwladol: Volvo Cars). Un o'u ceir diweddaraf yw'r XC90.

Volvo Personvagnar
Math
cynhyrchydd cerbydau
Math o fusnes
Aktiebolag
Aelod o'r canlynol
Wi-Fi Alliance
Diwydiantdiwydiant ceir
Sefydlwyd14 Ebrill 1927
CadeiryddLi Shufu
Aelod o'r canlynolWi-Fi Alliance
PencadlysGöteborg
Pobl allweddol
(Prif Weithredwr)
Cynnyrchcar
Refeniw330,145,000,000 krona (2022)
Incwm gweithredol
22,332,000,000 krona (2022)
Cyfanswm yr asedau330,924,000,000 krona (31 Rhagfyr 2022)
PerchnogionGeely (78.7%)
Nifer a gyflogir
28,485 (2015)
Rhiant-gwmni
Geely
Lle ffurfioGöteborg
Gwefanhttps://www.volvocars.com/, https://www.volvocars.com/us, https://www.volvocars.com/de, https://www.volvocars.com/intl, https://www.volvocars.com/es/, https://volvocars-concessions.com/ Edit this on Wikidata
Mae'r erthygl hon yn sôn am y cwmni ceir; am y cwmni gwreiddiol AB Volvo, sy'n dal i gynhyrchu peiriannau trwm, gweler AB Volvo.

Mae ei bencadlys yn adeilad VAK yn Gothenburg, Sweden, lle sefydlwyd y cwmni yn 1927.[1] Is-gwmni ydyw, a'i berchennog, neu'r fam-gwmni yw Zhejiang Geely Holding Group o Tsieina.

Sefydlwyd y cwmni yn 1915 fel un o isgwmniau SFK, cwmni gwneud peli meteal (ball bearings). Ond mae'r ddau gwmni (Volvo Group a Volvo Cars) yn nodi'r dyddiad 14 Ebrill 1927 fel y dyddiad swyddogol, gan mai ar y dydd hwn y rhowliodd y car cyntaf o linell cynhyrchu'r ffatri yn Hisingen, Gothenburg.[2] Mae'r adeilad yn dal yno (57°42′50″N 11°55′19″E / 57.71389°N 11.92194°E / 57.71389; 11.92194).

Ystyr Volvo ydy "Dw i'n rholio" yn Lladin, gan gyfeirio at y peli bach metal roedd y cwmni yn ei gynhyrchu. Cofrestrwyd yr enw 'Volvo' yn wreiddiol ar gyfer brand newydd o beli bach, ond defnyddiwyd 'SKF' yn y diwedd.

Yn 1924 cytunodd dau ddyn: Assar Gabrielsson, un o reolwyr gwerthiant SKF a'r peiriannydd Gustav Larson, i gynhyrchu car Swedaidd a fyddai'n addas ar gyfer ffyrdd ac amgylchedd oer y wlad.[3] Wedi cyfnod o flwyddyn o arbrofi gyda deg prototeip, cychwynwyd cynhyrchu car o fewn y cwmni SKF. Cofrestwryd yr isgwmni AB Volvo ar Gyfnewidfa Stoc Stockholm yn 1935 a gwerthodd SKF ei siars yn y cwmni. Yn 2007, dadgofrestrwyd Volvo o'r NASDAQ, ond mae'n parhau fel cwmni ar Gyfnewidfa Stoc Stockholm.[4]

Mae Volvo Cars yn cynhyrchu a marchnata SUVs (sport utility vehicle, station wagons, sedans, compact executive sedans, a coupes. Er mwyn marchnata'r ceir mae gan y cwmni tua 2,300 o ddelwyr (cwmniau gwerthu annibynnol), gyda'r mwyafrif yn yr UDA, Sweden, Tsieina a Gwlad Belg.[5] Yn 2011, gwerthodd Volvo Cars 449,255 o geir, yn fydeang: cynnydd o 20.3% o'i gymharu â 2010.[6]

Volvo ÖV4 touring 1927
Volvo PV4 4-drws saloon 1927
Volvo 144 saloon 1972
1997 Volvo 850 estate
1997 Volvo 850 estate

Ceir diweddar

golygu
 
Volvo V40
 
Volvo V60
 
Volvo V90
 
Volvo S60
 
Volvo S90
 
Volvo XC60
 
Volvo XC90

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Contat Volvo Archifwyd 2014-07-09 yn y Peiriant Wayback." Volvo Cars. Retrieved on 5 Awst 2014. "Visiting address, Headquarters: VAK building, Assar Gabrielssons väg Göteborg"
  2. "Volvo's founders : Volvo Group – Global". Volvo. 14 Ebrill 1927. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-05-22. Cyrchwyd 12 Mehefin 2009.
  3. "History time-line : Volvo Group – Global". Volvo. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-06-20. Cyrchwyd 12 Mehefin 2009.
  4. "AB Volvo applies for delisting from Nasdaq". Forbes. 14 Mehefin 2007. Cyrchwyd 6 Tachwedd 2010.
  5. "Financial statement 2013 (FY 2012)". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-06-30. Cyrchwyd 2016-11-27.
  6. "Volvo PV gör miljardvinst - Ekonomi - www.gp.se". Göteborgs-Posten (yn Swedish). TT. 2 Mai 2012. Cyrchwyd 2 Mai 2012.CS1 maint: unrecognized language (link)