Bwchadanas
Band gwerin Cymraeg poblogaidd oedd Bwchadanas.
Enghraifft o'r canlynol | band |
---|---|
Gwlad | y Deyrnas Unedig |
Fe ffurfiwyd y grŵp ym 1984 gan y gantores Siân James a chriw o'i ffrindiau tra roedd hi yn fyfyrwraig ym Mhrifysgol Cymru, Bangor. Mae dylanwadau arddulliau gwerin a roc yn amlwg yn eu cerddoriaeth. Rhyddhawyd un albwm o'r enw Cariad Cywir ar label Sain ym 1984. Enillodd y band gystadleuaeth Cân i Gymru ym 1985 gyda'r gan Ceiliog y Gwynt.
- Geraint Cynan (g 20 Mehefin, 1961, Treorci) - Piano
- Rhys Harries (g 6 Ionawr, 1962, Trecelyn) - gitâr
- Gareth Ioan, (g 19 Medi, 1961, Abergynolwyn) - pibellau, fe adawodd y grŵp ym 1986
- Llio Rolant, hefyd yn gadael ym 1986, (g 3 Mai, 1962, Caerdydd) - telyn
- Rhodri Tomos (g 15 Ebrill, 1962, Llanelli) - gitâr.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ All Music Siân James adalwyd 2 Chwef 2017
Dolenni allanol
golygu- Gwefan BBC Archifwyd 2019-05-27 yn y Peiriant Wayback