Byddin Genedlaethol Affganistan

Y gangen o luoedd arfog Gweriniaeth Islamaidd Affganistan (2002–21) a fu'n gyfrifol am weithredodd milwrol ar y tir oedd Byddin Genedlaethol Affganistan (Urdu-e Milli-ye Afghanistan; ANA). Dyletswyddau'r ANA oedd i ddiogelu ffiniau Affganistan ac i rwystro bygythiadau allanol; i drechu terfysgwyr o fewn y wlad; i amddiffyn yn erbyn troseddwyr arfog ac i'w hymgyfuno neu eu carcharu; ac i gydweithio â Heddlu Cenedlaethol Affganistan wrth ymateb i fygythiadau ac argyfyngau mewnol.

Yn sgil goresgyniad Affganistan a chwymp llywodraeth y Taliban yn niwedd 2001, cytunwyd mewn loya jirga ("cynulliad mawr") yn Kabul ym Mehefin 2002 i sefydlu llywodraeth dros dro dan arweiniad Hamid Karzai. Ar 1 Rhagfyr 2002, yn ystod yr ail gynhadledd ryngwladol yn Bonn, yr Almaen, i drafod dyfodol Affganistan, sefydlodd yr Arlywydd Karzai fyddin wirfoddol genedlaethol fel un o'r prif luoedd diogelwch newydd i gadw'r drefn yn y weriniaeth newydd. Ar y cychwyn, cytunwyd i gyfyngu niferoedd y milwyr i 70,000, ac ymdrechai i recriwtio o bob grŵp ethnig yn deg.[1] Sefydlwyd yr Academi Filwrol Genedlaethol yn 2004 i hyfforddi swyddogion y fyddin. Lleolwyd canolfannau rheolaeth rhanbarthol ar gyfer yr ANA yn Kabul, Gardez, Kandahar, Herat, a Mazar-i Sharif, a chodwyd canolfannau recriwtio mewn pob un o daleithiau Affganistan, er mwyn sicrhau bod aelodaeth y fyddin yn cynrychioli'r holl wlad.[2]

Unol Daleithiau America oedd y prif wlad a gyfrannai at gyllido, hyfforddi, a chynghori'r ANA. Rhwng 2008 a 2019, gwariodd yr Unol Daleithiau biliynau o ddoleri ar hyfforddiant a chyfarpar milwrol ar gyfer yr ANA. Cefnogwyd hefyd gan dimau o gynghorwyr milwrol o'r Deyrnas Unedig, Ffrainc, a Chanada. Erbyn Hydref 2011, cynyddwyd y nifer o filwyr i 171,000, rhyw ddau o bob tri ohonynt yn lluoedd brwydro, a 3 y cant yn aelodau'r corfflu awyr (uned ar wahân i Awyrlu Affganistan). Bwriad y Cadfridog Stanley A. McChrystal, cadlywydd ISAF o 2009 i 2010, oedd i gynyddu'r niferoedd ymhellach, hyd at 240,000.[2]

Yn Ebrill 2018, cyhoeddwyd sefydlu'r Llu Tiriogaethol (Quwat-ha-ye Manteqawi; ANA-TF) neu'r Fyddin Diriogaethol (Urdu-e Manteqawi) gan yr Arlywydd Ashraf Ghani, dan reolaeth o'r Weinyddiaeth Amddiffyn. Byddin leol ydoedd a oedd yn cynnwys cwmni (tolai) ar gyfer pob dosbarth, dan arweiniad swyddogion o'r fyddin reolaidd neu luoedd wrth gefn yr ANA. Anelwyd at recriwtio 36,000 o filwyr lleol ar gyfer yr ANA-TF, gydag ymdrechion i osgoi'r methiannau a darodd lluoedd diogelwch lleol eraill, yn enwedig Heddlu Lleol Affganistan (ALP) a sefydlwyd yn 2010 gan y Weinyddiaeth Faterion Mewnwladol.[3]

Ym Mai 2021, lansiwyd ymgyrch ymosodol gan y Taliban i ail-gipio Affganistan. Yn ystod tri mis cyntaf yr ymgyrch, ymledodd lluoedd y Taliban ar draws y wlad gan yrru'r ANA ar ffo, yn bennaf yn y de, y gorllewin, a'r gogledd. Cafodd llywodraethau tramor, gan gynnwys gwledydd ISAF, eu syfrdanu gan fuddugoliaeth chwim y Taliban a methiant y lluoedd Affganaidd. Bu morâl ymhlith y milwyr a chydlyniad y lluoedd arfog yn isel iawn o ganlyniad i ddiffyg tâl a lluniaeth, llygredigaeth, ac arweinyddiaeth wael. Yn fynych bu milwyr yn amddiffyn siecbwyntiau a chanolfannau milwrol heb gyflenwadau nac atgyfnerthiadau.[4] Erbyn dechrau Awst 2021, llwyddodd y Taliban i reoli ardaloedd gwledig ar draws Affganistan, gan ynysu'r mwyafrif o ddinasoedd a threfi mawrion. Cwympodd y prifddinasoedd taleithiol yn eu tro, ac o'r diwedd y brifddinas Kabul ar 15 Awst, wrth i'r ANA chwalu'n gyfan gwbl.

Cyfeiriadau golygu

  1. Swyddfa Atebolrwydd Llywodraeth yr Unol Daleithiau, Adroddiad i'r Pwyllgor Cysylltiadau Rhyngwladol, Tŷ'r Cynrychiolwyr Afghanistan Security: Efforts to Establish Army and Police Have Made Progress, but Future Plans Needs to Be Better Defined (Mehefin 2005), t. 6.
  2. 2.0 2.1 Thomas H. Johnson a Ludwig W. Adamec, Historical Dictionary of Afghanistan, 5ed argraffiad (Lanham, Maryland: Rowman & Littlefield, 2021), t. 31.
  3. Johnson ac Adamec, Historical Dictionary of Afghanistan (2021), t. 32.
  4. (Saesneg) Ben Farmer, "Why the 300,000-strong Afghan army is collapsing so swiftly against Taliban", The Daily Telegraph (13 Awst 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 22 Awst 2021.