Cwmni bysiau yng Nghoedpoeth ger Wrecsam oedd Bysiau Dyma Fo.

Roedd Bill Jones, athro yn ysgolion Bryn Offa yng Nghoedpoeth ac Ysgol Morgan Llwyd yn Wrecsam, yn cynorthwyo ei ffrind Nefydd Jones efo'i gwmni bws – R.N.Jones - yng Nghoedpoeth yn ei amser hamdden. Bu farw Nefydd ym 1977, a phrynodd Bill un o'r bysiau Ford Transit a dechreuodd gwmni llogi, preifat, gan weithio gyda'r nos. Cymerodd Bill ymddeoliad cynnar o'r ysgol, ac efo'i wraig Eileen, cofrestrodd gwmni W.T. & E.E. Jones, yn defnyddio'r Transit ar wasanaeth ysgol rhwng Brymbo ac Ysgol Bryn Tabor, ysgol eu plant.

Dywedir i'r enw "Dyma fo!" ddeillio o ffrind a oedd wedi cael trafferth i ddod o hyd i'r tŷ yn y Mwynglawdd. “Wel, dyma fo,“ dywedodd Bill, a sylweddolodd bod enw 'Dyma Fo' yn enw berffaith ar gyfer eu tŷ, ac ar gyfer eu bysiau hefyd. Cyflogwyd y dyn llefrith lleol (Glyn Jones) i yrru'r bws.

Prynwyd ail fws ac enillwyd cytundeb ysgol arall, a datblygodd y busnes. Cymerwyd drosodd gwasanaeth X50 rhwng Ddinbych i Wrecsam am gyfnod, a chludwyd myfyrwyr o Ruthun a Chorwen i goleg NEWI. Llogwyd bysiau - a gyrwyr – gan amrywiaeth o gymdeithasau: clybiau criced a phêl-droed, Sefydliad y Merched, ysgolion Sul ac ati. Pan gododd Crosville eu prisiau o 34 ceiniog i bunt - gwrthododd rhieni anfon eu plant i Ysgol Bryn Offa. Cynhaliwyd dosbarthiadau gan y rhieni yn neuadd y pentref yng Nghoedpoeth, a defnyddiwyd cludiant Dyma Fo.

Cyfranodd y teulu i gyd at y busnes; Robert fel peiriannydd, ac arferai'r plant iau ennill pres poced ychwanegol wrth gyfri pres mân y cwmni.

Gweithredodd cwmni arall, Williams & Davies, o garej yn Ffordd yr Efail, Southsea. Ar ôl ymddeoliad Os Williams a Stan Davies ym 1981, prynwyd y garej, rhai o'r bysiau a'r gwasanaethau gan y Jonesiaid. Ar un adeg, roedd gan y cwmni 12 bws gwyn, aur a brown, bob un ohonynt yn cario'r enw 'DYMA FO'. Dygodd dri o fysiau 'double decker' yr enwau 'Ffydd', 'Cariad' a 'Gobaith'.

Penderfynodd Bill ac Eileen ymddeol ym mis Chwefror 1988. Roedd Tony Strafford wedi gweithio fel peiriannydd dros Gyngor Sir Clwyd, ac yn yrrwr rhan amser efo Williams & Davies, a bellach efo Dyma Fo. Clywodd bod Bill ac Eileen eisiau gwerthu bws mini, ond ar ôl trafodaethau, prynodd 2 goets ac un bws deulawr. Sefydlwyd Strafford Coaches ym mis Ebrill, gan defnyddio'r garej yn Ffordd yr Efail hyd at 1991. Prynwyd bws arall gan fysiau GHA, ac mae gan y cwmni 200 o fysiau erbyn hyn.

Cyfeiriadau

golygu
  • Wrexham Bus Companies, gan Mike Edge.