Caergystennin
Hen enw dinas Istanbul yn Nhwrci yw Caergystennin (Constantinopolis yn Lladin; Konstantinoupolis Κωνσταντινούπολις yn Groeg). Ei henw gwreiddiol oedd Bysantiwm (Byzantion Βυζάντιον yn Groeg). Cafodd hi'r enw Caergystennin oherwydd fod yr Ymerawdwr Rhufeinig Cystennin I wedi ei gwneud yn brifddinas Ymerodraeth Rufeinig ar 11 Mai 330. Rhoddodd yr enw Nova Roma (Rhufain Newydd) iddi, ond doedd neb yn defnyddio'r enw hwn. Roedd Caergystennin yn brifddinas yr Ymerodraeth Fysantaidd (Ymerodraeth Rufeinig y Dwyrain). Cipiwyd a dilëwyd y ddinas yn ystod y pedwerydd groesgad ym 1204 ac fe'i hail-gipiwyd gan luoedd Nicea o dan Mihangel VIII Palaiologos ym 1261. O'r diwedd cipiwyd y ddinas gan yr Ymerodraeth Ottoman ar 29 Mai 1453. Yn ystod teyrnasiad yr Otomaniaid roedd enw'r ddinas yn Caergystennin neu Istanbul, ond roedd yr Ewropeaidd yn dweud "Constantinople". Istanbul yw enw swyddogol y ddinas ers 1930. Ers i Weriniaeth Twrci gael ei sefydlu mae Ancara wedi cymryd lle Caergystennin fel y brifddinas.
Math | dinas, endid tiriogaethol gweinyddol |
---|---|
Enwyd ar ôl | Cystennin I |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Twrci |
Cyfesurynnau | 41.0125°N 28.98°E |