C.P.D. Merched Tref Aberystwyth
Mae C.P.D. Merched Tref Aberystwyth yn dîm pêl-droed, sy'n chwarae yn Uwch Gynghrair Merched Cymru, y buont yn aelodau sylfaenol ohono yn 2009.[1] Yn wir, chwaraewyd gêm gyntaf erioed y gynghrair newydd, a adnabwyd fel Cynghrair Merched Cymru yn Aberystwyth pan chwaraeodd Aber yn erbyn C.P.D. Merched Llanidloes ym mis Medi 2009.[2]
Enw llawn | C.P.D. Merched Tref Aberystwyth (Aberystwyth Town Ladies' Football Club) | ||
---|---|---|---|
Llysenwau | The Seasiders | ||
Maes | Coedlan y Parc Aberystwyth (sy'n dal: 5,000 (1,002 sedd)) | ||
Cadeirydd | Donald Kane | ||
Rheolwr | Carwyn Phillips | ||
Cynghrair | Adran Premier | ||
|
Mae'r clwb yn chwarae ei gemau cartref ym maes Coedlan y Parc, Aberystwyth, sydd â lle i 5,000.
Hanes
golyguCyd-sefydlwyd y tîm dan ysbrydolaeth Ray Hughes oddeutu 2004 yn rhannol wedi iddo weld dyheuad a llwyddiant merched lleol, yn cynnwys ei ferch Lucy (Walker, bellach) i chwarae'r gêm. Roedd Hughes wedi hyfforddi timau merched i gystadlu yng Cystadleuaeth Bêl-droed Ian Rush a gynhaliwyd yn y dref yn flynyddol a Thwrnament Pêl-droed Merched a gynhaliwyd yn Aberhonddu[3] Yn dilyn llwyddiant ym Mhywys ymunodd y tîm â Chynghrair Merched Ceredigion. Nodwyd nad oedd modd iddynt ymarfer ar Goedlan-y-Parc i gychwyn a bu'n rhaid ymladd am yr hawl hynny. Roedd y tîm yn chwarae ar gael Padarn United. Newidiodd hynny wrth i'r tîm ymuno Chynghrair Cymru mynodd y Gymdeithas Bêl-droed bod y tîm merched yn chwarae ar Goedlan y Parc.[4] Bu Hughes yn reolwr ar y tîm am bron i ddegawd, hyd nes 2013-2015, ac yna, nôl eto wedi 2015 am gyfnod.
Gêm Gyntaf Cynghrair Merched Cymru
golyguRoedd y tîm yn un sylfaenwyr yr Uwch Gynghrair yn 2009. Chwarawyd gêm gyntaf erioed y Gynghrair newydd ar nos Wener, 24 Medi 2009 yng Nghoedlan y Parc yn erbyn Merched Llanidloes o flaen torf o bron i 400. Enillodd Aberystwyth y gêm, 2 - 0. Y person gyntaf i sgorio yn y Gynghrair oedd chwaraewraig Aberystyth, Sam Gaunt, a'r ail oedd Leanne Bray. Y person gyntaf i dderbyn carden felen oedd, Lucy Hughes, merch Ray Hughes.[3]
Sefydlu yn yr Uwch Gynghrair
golyguBu tîm Merched Aberystwyth yn aelodau cyson o'r lîg nes ddisgyn adran ar ddiwedd tymor 2016-17.[5] Ar ôl dau dymor yn ail haen pêl-droed Cymru i Ferched, dyrchafwyd Merhed Aberystwyth nôl i Uwch Gynghrair Cymru ar gyfer tymor 2019-20.
Yn nhymor 2019-20 roedd Aberystwyth ar waelod yr Uwch Gynghrair yn safle rhif 8,[6]
It's fair to say @SwansLadies dominated & are deserving champions.}}</ref> ond enillodd y tîm wobr 'Chwrae Teg' yr Uwch Gynghrair.[7]
Ar gyfer tymor 2021-22 cafwyd ad-drefniad ac ailfrandiad arall wrth newid stwythur pêl-droed merched Cymru i Adran Premier (yr Uwch Gynghrair) ac yna dau Adran ranbarthol (lefel 2) sef Adran Gogledd ac Adran De. Roedd Aberystwyth yn un o'r 8 tîm yn yr Adran Premier.
Cynhwyswyd C.P.D.M. Aberystwyth yn nhymor gyntaf yr Uwch Gynghrair a strwythur newydd pêl-droed merched Cymru pan lansiwyd Genero Adran Premier yn nhymor 2021-22.[8] Roedd gêm gyntaf Aberystwyth yn yr Adran newydd yn erbyn C.P.D. Tref Barri ar 5 Medi 2021 gydag Aberystwyth yn ennill 3-1. Sgorwraig gyntaf i Aberystwyth, a'r gôl gyntaf yn yr Adran Premier, oedd Elin Jones.[9]
Cit
golyguMae'r cit cartref y tîm yn dilyn yr un patrwm â stribed tîm dynion C.P.D. Tref Aberystwyth sef crysau gwyrdd gyda trim du a gwyn, siorts du a sanau. Y stribed chwarae oddi cartrf yw crysau gwyn gyda trim gwyrdd, siorts gwyrdd a sanau.
Cip ar y Clwb
golyguYn 2023 rhyddhaodd Amgueddfa Bêl-droed Cymru fideo am y clwb - ei hanes a'i pherthynas gyda'r dref - ar ei sianel Youtube. Nodwyd bod y clwb yn "ganolbwynt i'r dref".[4]
Carfan
golygu- Diweddarwyd 8 September 2023[10]
Nodyn: Diffinnir y baneri cenedlaethol o dan reolau FIFA. Gall y chwaraewyr, felly, fod o fwy nag un cenedl.
Rheolwr y tîm ar gyfer 2020-21 oedd Carwyn Phillips.[11]
Dolenni allanol
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "Welsh Premier Women's Football League Launch". welshpremier.com. 2009. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 31 July 2013. Cyrchwyd 26 September 2011.
- ↑ "Lansio Cynghrair Merched Cymru". BBC Cymru. 24 Medi 2009.
- ↑ 3.0 3.1 "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-08-04. Cyrchwyd 2020-08-27.
- ↑ 4.0 4.1 "Gwreiddiau: CPD Merched Tref Aberystwyth (Is-deitlau)". Sianel Youtube Amgueddfa Bêl-droed Cymru. 2023.
- ↑ "League Tables - Welsh Premier Womens League". www.welshpremierwomensleague.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-07-20. Cyrchwyd 20 July 2019.
- ↑ "Not the way anyone expected, or wanted the season to end, but confirmation of the final @thinkorchard WPWL table for 2019/20". Cyfrif Twitter @AdranLeagues. 21 Mai 2020.
- ↑ "Amazing news today as we win the Fair Play award for the 2019/20 season. Well done all! 👏👏". @AberTownWomen. 20 Mehefin 2020.
- ↑ "Adran Leagues: FAW announces new identity for women's football in Wales". BBC Sport. 16 Awst 2021.
- ↑ "GÔL!!!! The first goal of the #AdranPremier has been scored by Elin Jones of @AberTownWomen! 🔥". @AdranGenero. 5 Medi 2021.
- ↑ "Aberystwyth Town Women's FC". Cyrchwyd 4 September 2023.
- ↑ "Croeso Carwyn". Facebook CPDM Aberystwyth. 20 Gorffennaf 2020.