Coedlan y Parc
Maes pêl-droed yn nhref Aberystwyth, Ceredigion yw Coedlen y Parc (Saesneg: Park Avenue). Saif ger glan Afon Ystwyth yn rhan ddeheuol y dref. Mae'n gartref i C.P.D. Tref Aberystwyth, clwb pêl-droed sy'n chwarae yn Uwch Gynghrair Cymru, prif adran pêl-droed yng Nghymru a hefyd C.P.D. Merched Tref Aberystwyth a nifer o dimau ieuenctid a thîm anabl y dref. Mae Coedlen y Parc yn dal uchafswm o 5,000 o dorf gyda 1,002 o seddi. Ers tymor 2017-18 bu gan y maes llain 3G artiffisial yn hytrach na glaswellt.
Math | stadiwm |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Aberystwyth |
Sir | Aberystwyth |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.4104°N 4.0807°W |
Perchnogaeth | Cyngor Sir Ceredigion |
Mae sawl ffeinal Cwpan Cynghrair Cymru wedi eu chwarae ar y maes a chwaraeodd George Best yno i dîm Ieuectid Gogledd Iwerddon bedair diwrnod cyn ei ben-blwydd yn 17 oed ar 18 Mai 1963.
Yn ddiwedd tymor 2017-18 dechreuwyd ar waith adeiladu fflatiau ar ochr ddeheuol y maes, sy'n gorwedd ar hyd Afon Rheidol. Bydd hyn yn rhoi teimlad mwy caëdig i'r maes.
Eisteddfeydd
golyguMae gan y maes pump brif eisteddle neu sefyll-le:
- Railway End lle bu hen lein reilffordd Aberystwyth - Caerfyrddin
- Eisteddle Dias ar ôl cyn-chwaraewr ac arwr y clwb, David 'Dias' Williams a sgoriodd dros 400 gôl i'r Clwb [1]
- Eisteddle Rhun Owens ar ôl cyn Ysgrifennydd ffyddlon y Clwb [2]
- Shed End
- Narks Corner
Anrhydeddir selogion eraill y Clwb neu bêl-droed Cymru gan y Clwb hefyd:
- Lolfa John Charles yw prif ystafell y bar y clwb. Enwyd ar ôl John Charles y chwaraewr enwog i Gymru, Juventus a Leeds United
- Lolfa Emyr James - enwyd yr adeilad ar gornel gogledd ddwyrain y maes ar ôl yr Emyr, oedd yn aelod ffyddlon i'r Clwb bu farw yn Awst 2018.[3]
Dolenni
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-11-13. Cyrchwyd 2018-11-10.
- ↑ http://news.bbc.co.uk/1/hi/wales/mid/7875249.stm
- ↑ https://www.bbc.com/cymrufyw/45512503