Penrhyn-coch
Pentref bach ydy Penrhyn-coch yng nghymuned Trefeurig, Ceredigion. Lleolir rhwng Afon Stewi a Nant Seilo, yn agos i le maent yn ymuno ag Afon Clarach. Mae'r pentref tua 4½ milltir i'r gogledd ddwyrain o Aberystwyth.
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ceredigion |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.439°N 3.994°W |
Cod OS | SN645842 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Elin Jones (Plaid Cymru) |
AS/au | Ben Lake (Plaid Cymru) |
Mae'r boblogaeth wedi tyfu'n sylweddol ers yr 1970au, gan i sawl ystad o dai gael eu hadeiladu. Erbyn 2005, roedd 480 o dai a thua 1,037 o drigolion. Cyflogir rhan helaeth o'r boblogaeth yn Aberystwyth, neu yn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig, Prifysgol Aberystwyth a leolir ar gyrion y pentref. (a adwaenir wrth yr acronym Seisnig, IBERS).
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[2]
Cyfleusterau
golyguSaif Eglwys Sant Ioan (yr Eglwys yng Nghymru) yng nghanol y pentref a Horeb, Eglwys y Bedyddwyr ar gyrion y pentref. Mae'r pentref yn cynnwys Neuadd, Ysgol Gynradd Gymunedol Penrhyn-coch, clwb Pêl-droed sy'n chwarae ar Gae Baker, maes chwarae i blant, a maes chwarae. Mae hefyd gorsaf betrol a swyddfa bost, ill dau a siop fechan ynghlwm wrthynt. Mae gan asiantaeth Cyfoeth Naturiol Cymru (Comisiwn Coedwigaeth Cymru gynt), safle Gogerddan ar gyrion y pentref, gyda chyfleusterau picnic a llwybrau troed.
Hanes
golyguMae pentref Penrhyn-coch yn ddatblygiad gymharol ddiweddar. Nid oedd pentref yno yn ystod yr 18g, a roedd y tir lle saif y pentref heddiw yn rhan o Ystad Gogerddan a oedd yn eiddo i'r teulu Pryse. Dechreuodd y pentref ddatblygu tuag at ddiwedd yr 18g, ond ni dyfodd yn sylweddol hyd i'r ystad ddechrau gael ei rannu yn ystod yr 1940au.
Lleolir cofeb yng nghanol y pentref i'r rhai a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf a'r Ail Ryfel Byd. Yn ôl thesis a gyhoeddwyd ym 1939, mae'r garreg cwarts mawr a ddefnyddwyd ar gyfer y gofeb yn faen hir hynafol.[3]
Trigolion nodedig
golyguSaif man geni bardd yr 14g, Dafydd ap Gwilym (Brogynin) gerllaw.[4] Bu'n gartref am gyfnod yn yr 1750au i'r hydrograffwr a'r ysgolhaig Lewis Morris. Mae'r pentref hefyd wedi bod yn gartref i lyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, David Jenkins, ers ei blentyndod. Yma y ganed Stephen Jones[angen ffynhonnell], chwaraewr rygbi. Mae'r pentref yn gartref i nifer o awduron gan gynnwys Niall Griffiths.
Dolenni allanol
golygu- Gwefan plwyf Trefeurig Archifwyd 2011-09-06 yn y Peiriant Wayback
- Ysgol Penrhyn-coch
- Clwb Pêl-droed Penrhyncoch Archifwyd 2013-07-28 yn y Peiriant Wayback
- Neuadd Bentref Penrhyncoch ar wefan y BBC Archifwyd 2006-02-09 yn y Peiriant Wayback
Cyfeiriadau
golyguTrefi
Aberaeron · Aberteifi · Aberystwyth · Ceinewydd · Llanbedr Pont Steffan · Llandysul · Tregaron
Pentrefi
Aberarth · Aber-banc · Aber-ffrwd · Abermagwr · Abermeurig · Aber-porth · Adpar · Alltyblaca · Betws Bledrws · Betws Ifan · Betws Leucu · Bethania · Beulah · Blaenannerch · Blaenpennal · Blaenplwyf · Blaen-porth · Y Borth · Bow Street · Bronant · Bwlch-llan · Capel Bangor · Capel Cynon · Capel Dewi · Capel Seion · Caerwedros · Castellhywel · Cellan · Cilcennin · Ciliau Aeron · Clarach · Cnwch Coch · Comins Coch · Cribyn · Cross Inn (1) · Cross Inn (2) · Cwm-cou · Cwmystwyth · Cwrtnewydd · Dihewyd · Dôl-y-bont · Eglwys Fach · Felinfach · Y Ferwig · Ffair-rhos · Ffostrasol · Ffos-y-ffin · Ffwrnais · Gartheli · Goginan · Y Gors · Gwbert · Henfynyw · Henllan · Horeb · Llanafan · Llanarth · Llanbadarn Fawr · Llandre · Llandyfrïog · Llanddeiniol · Llanddewi Brefi · Llanfair Clydogau · Llanfarian · Llanfihangel y Creuddyn · Llangeitho · Llangoedmor · Llangrannog · Llangwyryfon · Llangybi · Llangynfelyn · Llangynllo · Llanilar · Llanio · Llan-non · Llanrhystud · Llansantffraid · Llanwenog · Llanwnnen · Llechryd · Lledrod · Llundain-fach · Llwyncelyn · Llwyndafydd · Llwyn-y-groes · Morfa · Mwnt · Nanternis · Penbryn · Penparc · Penrhiw-llan · Penrhyn-coch · Penuwch · Pen-y-garn · Plwmp · Pontarfynach · Ponterwyd · Pontgarreg · Pontrhydfendigaid · Pontrhydygroes · Pontsiân · Rhydlewis · Rhydowen · Rhydyfelin · Rhydypennau · Salem · Sarnau · Southgate · Swyddffynnon · Synod Inn · Talgarreg · Tal-y-bont · Temple Bar · Trefenter · Trefilan · Tremain · Tre-saith · Tre Taliesin · Troed-yr-aur · Ysbyty Ystwyth · Ystrad Aeron · Ystrad Meurig · Ystumtuen