C.P.D. Prifysgol Abertawe

Mae C.P.D. Prifysgol Abertawe yn dîm pêl-droed sy'n chwarae yn ail lefel system byramid Cymdeithas Bêl-droed Cymru, sef Cymru South. Maent yn cynrychioli Prifysgol Abertawe ac yn chwarae ar faes Sketty Lane, Abertawe sef canolfan chwaraeon Prifysgol Abertawe.[1] Dyma'r ail dîm prifysgol sy'n chwarae yn uchel gynghreiriau pêl-droed Cymru, y tîm arall yw Met Caerdydd. Nid yw'n gysylltiedig mewn unrhyw ffordd ffurfiol o ran rheolaeth gyda C.P.D. Dinas Abertawe.

Prifysgol Abertawe
Enw llawnClwb Pêl-droed Prifysgol Abertawe
MaesSketty Lane, Abertawe
CadeiryddCeri Jones
CynghrairCymru South
2018–19Ail Adran Cynghrair Cymru (Y De), 2il o 16 (esgyn)
GwefanHafan y clwb
Lliwiau Cartref

Y Clwb

golygu

Mae Clwb Pêl-droed Prifysgol Abertawe bellach yn cynnwys 22 tîm ac yn ymgorffori adrannau Dynion, Menywod, Rhyngddisgyblaeth and Futsal. Mae'r tîm cyntaf wedi esgyn o Adran 2 Cynghrair Cymru (Y De) i Adran Cymru South - hyn i gyd fel clwb â ddiwygiwyd gan gyn-fyfyrwyr y clwb.[2] Dyma'r unig glwb o ddinas Abertawe sy'n chwarae yn uwch gynghreiriau domestig Cymru.[3]

Diwygiwyd y tîm presennol fel Tîm Abertawe yn 2011 gan fyfyrwyr o Brifysgol Abertawe. Yn y cyfnod ers diwygiad y clwb, mae'r clwb wedi cyflawni chwe esgyniad, dau gwpan Gwalia, un Cwpan Hŷn a dau Gwpan Gorllewin Cymru, gan gynnwys buddugoliaeth o 10-0 yn rownd derfynol 2015.

Yn 2017 seliodd y clwb bencampwriaeth Cynghrair Hŷn Abertawe a Chwpan Gorllewin Cymru yn ddwbl ym mis Mai 2017, gan sicrhau eu bod yn dychwelyd i system Cynghrair Cymru (Y De) mewn gêm ail gyfle yn erbyn pencampwyr Cynghrair Castell-nedd Cwm Wanderers.

Ym mis Mai 2018 dyrchafwyd y clwb i Adran Dau Cynghrair Cymru (Y De) fel Pencampwyr.[4] Fe wnaethant ddilyn hyn ym mis Ebrill 2019 trwy ennill dyrchafiad i adran newydd-frandio Cymru South am ddod yn ail yn Adran Dau.[5] Dyfarnwyd iddynt hefyd wobr chwarae teg yr adran am y tymor.[6]

Coleg Prifysgol Abertawe

golygu

Mae gan Brifysgol Abertawe hanes o chwarae yng Cynghrair Cymru (Y De) (y Welsh League - cynghrair rhanbarthol ar gyfer de Cymru) sy'n dyddio'n ôl i'r 1960au, pan oedd dan ei gochl blaenorol fel Coleg Prifysgol Abertawe. Ymunodd y Brifysgol â'r Welsh Leaguge u gyntaf yn nhymor 1966-67 gan ennill Adran Dau yn eu tymor cyntaf. Yn nhymor 1967-68 fe wnaethant orffen yn ail yn Adran Un i selio dyrchafiad i'r Uwch Adran mewn dau dymor yn unig. Fe'u hisraddiwyd ar ddiwedd tymor 1968-69 ond fe'u dyrchafwyd eto fel Pencampwyr Adran Un. Yn 1971-72 cawsant eu hisraddio eto, gan aros yn Adran Un tan 1978 pan gawsant eu hisraddio i Adran Dau. Arhosodd y clwb yng nghynghrair Cymru tan 1985 pan adawodd y gynghrair.[7]

  • Cadeirydd: Ceri Jones
  • Masnachol: Nigel Hill
  • Pennaeth Chwaraeon: Steve Joel
  • Pennaeth Pêl-droed: Dafydd Evans
  • Hyfforddwr: David Redfern

Source Archifwyd 2019-05-08 yn y Peiriant Wayback

Cyfeiriadau

golygu
  1. https://www.swansea.ac.uk/cy/y-brifysgol/chwaraeon/
  2. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-05-08. Cyrchwyd 2019-08-16.
  3. https://www.swansea.ac.uk/cy/swyddfar-wasg/straeonnodwedd/clwbpel-droeddinasabertawe/[dolen farw]
  4. Jones, Jordan (10 May 2018). "Swansea University promoted to Welsh Football League Division Two after title win". Y Clwb Pel-Droed. Cyrchwyd 18 June 2019.
  5. Jones, Jordan (20 April 2019). "Swansea University clinch promotion to Division One". Y Clwb Pel-Droed. Cyrchwyd 18 June 2019.
  6. "2019 Fair Play Awards". www.faw.cymru. 18 June 2019. Cyrchwyd 18 June 2019.
  7. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-04-30. Cyrchwyd 2019-08-16.

Dolenni allanol

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am bêl-droed. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.