C. E. Wynn-Williams

ffisegydd Cymreig

Ffisegydd Cymreig oedd Charles Eryl Wynn-Williams (5 Mawrth 1903 – 30 Awst 1979),[1] sy'n cael ei ystyried yn rhyngwladol fel tad cyfrifiadura. Roedd hefyd yn ymchwilydd ym maes ffiseg niwclear, gan greu offer mesur pwrpasol, gan gynnwys y "Cyfrifiadur Graddfa Dau" (the scale-of-two counter) a ystyrir gan rai fel y cyfrifiadur modern cyntaf. Roedd yn Gymro Cymraeg ac fe'i ganed yn Abertawe.

C. E. Wynn-Williams
C. E. Wynn-Williams yn Labordy Cavendish yn 1927
Ganwyd5 Mawrth 1903 Edit this on Wikidata
Abertawe Edit this on Wikidata
Bu farw30 Awst 1979 Edit this on Wikidata
Y Borth Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
ymgynghorydd y doethor
Galwedigaethffisegydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus amY Defnydd o 'Thyratrons' ar gyfer Cyfrifo Otomatig ar Gyflymder Uchel Cyfatebol y Ffenomenau Ffisegol Edit this on Wikidata
PlantGareth Wynn-Williams Edit this on Wikidata
Gwobr/auGabor Medal and Prize Edit this on Wikidata

Ceir y disgrifiad cyntaf o "electroneg ddigidol" mewn papur a gyhoeddodd yn 1931, "Y Defnydd o 'Thyratrons' ar gyfer Cyfrifo Otomatig ar Gyflymder Uchel Cyfatebol y Ffenomenau Ffisegol" ("The Use of Thyratrons for High Speed Automatic Counting of Physical Phenomena").

"Cyfrifiadur Graddfa Dau", a gynlluniwyd gan y Cymro C. E. Wynn-Williams.

Magwraeth a choleg golygu

Fe'i ganed yn "Glasfryn", Abertawe ar 5 Mawrth 1903, a chyn hir, symudodd y teulu i Wrecsam a derbyniodd ei addysg uwchradd yn Ysgol Grove Park. Charles Eryl oedd plentyn hynaf William Williams (1863–1945), athro ffiseg ac yna arolygydd ysgolion yng ngogledd Cymru, a Mary Ellen Wynn (1907–1935), (neu "Nel") a oedd yn ferch siopwr o Lanrwst.

Graddiodd mewn ffiseg ym Mhrifysgol Bangor yn 1923 gan weithio ym maes offer electronig a derbyniodd radd Meistr y flwyddyn wedyn.[2][3][4] Copiwyd ei waith drwy'r byd, ac agorwyd nifer o ddrysau ym maes cyfifiaduro o'i herwydd. O'r cyfnod hwn ym Mhrifysgol Bangor y dechreuwyd ei alw'n 'C. E. Wynn-Williams'.

Roedd yn Rhyddfrydwr, mewn gwleidyddiaeth ac yn rhugl ei Gymraeg. Ar 12 Awst 1943 priododd Gymraes o'r enw Annie Eiluned James (ganwyd 1907/8), athrawes ysgol; cawsant ddau o feibion.

Ymchwil a darganfyddiadau pwysig golygu

Yn Hydref 1925 dechreuodd ar waith ymchwil mewn electromagneteg yng Ngholeg y Drindod, Caergrawnt. Yno, gweithiodd yn Labordy Cavendish dan oruchwyliaeth Syr Ernest Rutherford, a derbyniodd ddoethuriaeth am ei waith yn 1929. Gwaith pwysicaf Wynn-Williams yn y cyfnod hwn oedd ei waith o ddatblygu offeryn electronig i'w ddefnyddio gydag ymbelydredd a ffiseg niwclear. Fel llawer o wyddonwyr ar y pryd roedd hefyd yn frwdfrydig ym maes electroneg di-wifr.

Gwnaeth sawl darganfyddiad, y naill ar ôl y llall a gaiff eu hystyried yn enfawr, mewn ffiseg niwclear. Gyda H. M. Cave a F. A. Ward, dyluniodd ac adeiladodd binary prescaler ar gyfer cyfrifydd electro-mecanyddol gan ddefnyddio thyratronau.[3] Erbyn 1931, defnyddiwyd mwyhadur (amplifier) falf a system gyfrif otomatig (yn seiliedig ar thyratron) yn rheolaidd o fewn Labordy Cavendish.[4] Chwaraeodd mwyhadur Wynn-Williams ran allweddol a phwysig yn narganfyddiad James Chadwick o'r niwtron yn 1932, ac mewn nifer o arbrofion eraill.

Yn 1932 cyhoeddodd Wynn-Williams fanylion ei offeryn cyfri newydd (y "Cyfrifiadur Graddfa Dau"), a oedd yn seiliedig ar thyratron,[5] ac a oedd yn caniatáu i ronynnau gael eu cyfrif ar gyfraddau llawer uwch nag o'r blaen. Daeth ei ddyfeisiau yn elfennau hanfodol yn y caledwedd ar ddisgyblaeth ddatblygol ffiseg niwclear, wrth iddynt agor ffyrdd ymchwil newydd. Fe'u copļwyd yn eang mewn labordai ledled Ewrop ac yn Unol Daleithiau America, yn aml gyda Wynn-Williams yn cynghori gwyddonwyr y gwledydd hyn.

Yn 1935 fe'i gwnaed yn ddarlithydd yng Ngholeg Imperial Llundain.

Cyfeiriadau golygu