Y pandemig COVID-19 ym Mhalesteina

Mae'r pandemig COVID-19 ym Mhalestina yn rhan o bandemig byd-eang clefyd coronafirws 2019 (COVID-19) a achosir gan syndrom anadlol acíwt difrifol coronafirws 2 (SARS-CoV-2). Cofnodwyd yr achosion gyntaf yn Ninas Gaza, ar 21 Mawrth 2020. Ar 24 Awst 2020, cofnodwyd achosion a gadarnhawyd y tu allan i ganolfannau cwarantîn. Mae'r nifer a fu farw dros 3,604 (Gorffennaf 2021)[1].

Y pandemig COVID-19 ym Mhalesteina
Enghraifft o'r canlynolpla o afiechyd Edit this on Wikidata
Lladdwyd3,604 Edit this on Wikidata
GwladBaner Palesteina Palesteina
Rhan opandemig COVID-19 yn Asia, pandemig COVID-19 yn ôl gwlad Edit this on Wikidata
Dechreuwyd5 Mawrth 2020 Edit this on Wikidata
LleoliadGwladwriaeth Palesteina Edit this on Wikidata
Yn cynnwys2020 COVID-19 pandemic in Bethlehem Edit this on Wikidata
Map
GwladwriaethGwladwriaeth Palesteina Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Dywedodd uwch swyddog y Cenhedloedd Unedig yn y wlad wrth y Cyngor Diogelwch mewn cyfarfod cynhadledd fideo 23 Ebrill 2020 fod Israeliaid a Palestiniaid yn cydweithredu mewn ffyrdd newydd sbon i ddelio â’r pandemig ond bod yn rhaid i Israel wneud mwy i ddiogelu iechyd pawb sydd o dan ei rheolaeth.[2]

Yn ôl dadansoddiad gan Haaretz (newyddion asgell chwith Israel) ar 22 Gorffennaf 2020, roedd pryder y gallai'r sefyllfa fynd y tu hwnt i bob rheolaeth. Yn dilyn torri cydgysylltiad diogelwch a chysylltiadau sifil gydag Israel, rhoddodd Awdurdod Cenedlaethol Palesteina y gorau i gydlynu ar drin cleifion ag Israel. Rhoesant y gorau hefyd i dderbyn post a phecynnau trwy borthladdoedd Israel a thorrwyd pob cydgysylltiad â byddin Israel (yr IDF) yn ogystal â'r Shin Bet (Asiantaeth Cudd Israel). Daeth croesi'r ffin ag Israel i ben hefyd. Ar ben hyn, cafodd yr anghydfod ag Israel ynghylch refeniw treth effaith economaidd ddifrifol.[3][4]

Ar 31 Awst 2020, yn ôl Cydlynydd Dyngarol y Cenhedloedd Unedig, Jamie McGoldrick, "Mae'r dirywiad a welwyd yn Llain Gaza yn ystod yr wythnosau diwethaf yn destun pryder mawr." Dywedodd "Mae toriadau pŵer (trydan, dwr ayb) yn effeithio'n ddifrifol ar ysbytai yn ogystal ag unedau gofal dwys." a galwodd ar Israel "i ganiatáu ailddechrau mewnforio tanwydd i'r Llain Gaza ar unwaith, yn unol â'i rwymedigaethau fel gwlad sydd wedi goresgyn gwlad arall." [5] Dechreuodd y broses o frechu ar 21 Mawrth 2021.

Cefndir golygu

Ar 12 Ionawr 2020, cadarnhaodd Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) mai coronafirws newydd oedd achos salwch y clwstwr o bobl yn Ninas Wuhan, Talaith Hubei, Tsieina, a adroddwyd i'r WHO ar 31 Rhagfyr 2019.[6] [7] Mae'r gymhareb marwolaeth achos ar gyfer COVID-19 wedi bod yn llawer is na SARS yn 2003,[8][9] ond mae'r trosglwyddiad wedi bod yn sylweddol uwch, gyda chyfanswm marwolaeth sylweddol fwy.[8][10]

Brechlynnau golygu

Anghydfod ynghylch cyfrifoldeb golygu

Sefyllfa ryngwladol golygu

Yn ôl yr Athro Cyfraith Ryngwladol Eyal Benvenisti, "O dan gyfraith ryngwladol ac o dan gyfraith gyhoeddus Israel, fel y'i dehonglwyd gan Oruchaf Lys Israel, mae'n ddyletswydd ar lywodraeth Israel i sicrhau bod y boblogaeth yn y tiriogaethau'n cael eu brechu."[11][12] Dyma'r safbwynt a gymerwyd gan Amnest Rhyngwladol,[13] Human Rights Watch,[14][15] a sefydliadau hawliau dynol eraill.[16][17] Dywed corff hawliau dynol y Cenhedloedd Unedig fod "gwahaniaethu" yn annerbyniol yn foesol ac yn gyfreithiol "o dan gyfraith ryngwladol a nodwyd yng Nghonfensiynau Genefa ar reoleiddio tiriogaethau dan feddiant." Dywed arbenigwyr y Cenhedloedd Unedig fod cyfraith ryngwladol yn cael blaenoriaeth dros gytundebau Oslo a bod “pedwerydd Confensiwn Genefa yn benodol ynglŷn â dyletswydd y pŵer meddiannu i ddarparu gofal iechyd” ond bod Israel yn aml yn dadlau nad yw’n bŵer meddiannu.[18] Galwodd sawl seneddwr o’r Unol Daleithiau ar lywodraeth yr UD i gymryd rhywfaint o gamau i orfodi Israel i ddarparu brechlynnau o’r fath.[19]

Cyflwyno brechu golygu

 
Cyfarfod argyfwng yn Qusin
 
Stryd yn Amman, Nablus yn wag oherwydd y clo mawr
 
Stryd yn Madinah Al Munawwarah Street, Salfit
 
Y Farchnad, Tulkarm

Mae Hamas ac Awdurdod Cenedlaethol Palesteina wedi ymuno â rhaglen y Gynghrair Fyd-eang ar gyfer Brechlynnau ac Imiwneiddio (GAVI) a gefnogir gan WHO a'r Cenhedloedd Unedig, sy'n targedur yr 20% mwyaf bregus o'r boblogaeth. Dywedodd arweinwyr Palestina na allant fforddio un o'r brechlynnau Pfizer-BioNTech na Moderna. Adroddwyd bod Rwsia wedi cynnig 4 miliwn dos o'i brechlyn Sputnik V. Ar 9 Ionawr 2021, dywedodd Mai Alkaila nad oedd dyddiad penodol ar gyfer cyrraedd brechlynnau, y cysylltwyd â phedwar cwmni cynhyrchu brechlyn ac y byddai 70% o'r boblogaeth yn cael eu brechu tra byddai Sefydliad Iechyd y Byd yn cyflenwi 20 y cant.[20] Mae Amnest wedi mynnu y dylai Israel ddarparu brechlynnau i Balesteiniaid sy'n byw yn y Lan Orllewinol ond nid yw'r Awdurdod Palestina wedi gofyn am gymorth i Israel.[21]

Mae Gweinidog Iechyd Israel, Yuli Edelstein, wedi dweud bod yn rhaid i ddinasyddion Israel ddod yn gyntaf ac mewn ymateb i apêl gan Feddygon dros Hawliau Dynol bod “Israel yn ysgwyddo cyfrifoldeb moesol a dyngarol am frechu poblogaeth Palesteina, sydd o dan ei rheolaeth”.[22][23] Ar 10 Ionawr 2021, dywedodd Mai Alkaila fod Awdurdod Palesteina wedi awdurdodi brechlyn Sputnik V. Dywedodd Cronfa Buddsoddi Uniongyrchol Rwsia y byddai danfoniadau i Balesteiniaid yn dechrau yn Chwefror. Dywed swyddogion iechyd eu bod yn disgwyl derbyn dwy filiwn dos o'r brechlyn Rhydychen-AstraZeneca ym Mawrth. Yn ôl Hussein al-Sheikh, y prif swyddog Palestina sydd â gofal am gydlynu ag Israel, gofynnodd Awdurdod Palesteina i Israel am hyd at 10,000 dos o frechlyn ar gyfer gweithwyr meddygol rheng flaen. Dywedodd Mai Alkaila mai gweithwyr iechyd fyddai gyntaf i dderbyn unrhyw frechlyn.[24] Ar 1 Chwefror 2021, cadarnhawyd bod Israel wedi awdurdodi trosglwyddo 5,000 dos o'r brechlyn Moderna.[25] Yn ôl Haaretz, dosbarthwyd y 2,000 cyntaf ar 1 Chwefror 2021.[26][27]

Wrth siarad mewn cynhadledd i’r wasg ar y cyd â llysgennad Rwseg i Palestina Gocha Buachidze, dywedodd y Gweinidog Iechyd Mai Alkaila y byddai'r swp cyntaf o 10,000 dos o’r brechlyn Sputnik V a dderbyniwyd ar 4 Chwefror 2021 yn cael ei ddyrannu i bum mil o staff meddygol, yn bennaf ym Mhalestina a sypiau eraill o frechlyn Rwseg yn dilyn hynny.[28]

Pan gyrhaeddodd y llwyth cyntaf o 2,000 o frechlynnau SputnikV coronavirus a fwriadwyd ar gyfer gweithwyr iechyd rheng flaen yn y Llain ar y ffin ddydd Llun 15 Chwefror, cafodd ei gludiant ei rwystro gan swyddogion ffiniau Israel. Yn y pen draw, yr awdurdod sy'n gyfrifol am gludo nwyddau o'r fath yw uned swyddfa Prif Weinidog Israel sy'n delio â diogelwch cenedlaethol. Dywedodd swyddogion fod yr oedi wrth basio'r meddyginiaethau oherwydd y ffaith bod y mater yn dal i gael ei adolygu. Ar 17 Chwefror 2021, derbyniodd Gaza fil dos o'r brechlyn Sputnik. Roedd yr ymgais gychwynnol i drosglwyddo'r brechlynnau, felly, wedi ei rhwystro'n llwyddiannus gan Israel.[29]

Erbyn 9 Mawrth 2021, ar gyfer 5.2 miliwn o drigolion y Lan Orllewinol a Gaza, roedd tua 34,700 brechlyn wedi’u dosbarthu, rhai o Rwsia ac Israel, ond dros hanner (20,000) o’r Emiraethau Arabaidd Unedig gyda’r rhain i fod i bobl Gaza.

Ar 18 Mehefin 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Israel ei bod wedi gwneud cytundeb gydag Awdurdod Palesteina i drosglwyddo o leiaf miliwn dos o’r brechlyn Pfizer-BioNTech COVID-19. Yn anffodus, roedd dyddiad 'diwedd-oes' y brechlynnau hyn i ddod i ben o fewn dyddiau.[30] Yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw, canslodd yr Awdurdod Palestina y fargen ar y sail bod dyddiadau dod i ben y brechlynnau yn agosach na'r hyn a ddywedwyd yn wreiddiol gan yr Israeliaid.[31][32] Er bod Israel yn defnyddio'r un brechlynnau ar gyfer pobl ifanc Israel, roedd eu cyflenwad nhw'n rhai diweddar. [33]

Achosion golygu

Gwersylloedd ffoaduriaid Palesteinaidd golygu

Ar 22 Ebrill, y cafwyd yr achos cyntaf mewn gwersyll ffoaduriaid: person o Syria a hynny yng ngwersyll ffoaduriaid Wavel yn Bekaa, Libanus.[34][35] Ar 24 Ebrill, cadarnhaodd Gweinyddiaeth Materion Tramor Palestina o 4 achos arall yng ngwersyll ffoaduriaid Al-Jalil, gan godi'r cyfanswm i bump.[36]

 
Ysbyty Hugo Chávez ar 3 Awst 2020, a ddefnyddir fel canolfan ar gyfer trin achosion o COVID-19 ym Mhalestina


Cyfeiriadau golygu

  1. http://site.moh.ps/index/covid19/LanguageVersion/0/Language/ar. dyddiad cyrchiad: 2 Gorffennaf 2021.
  2. "Palestinian-Israeli Cooperation to Combat COVID-19 Pandemic under Threat by New Push for West Bank Annexation, Special Coordinator Warns Security Council". OCHA. 24 April 2020. Cyrchwyd 19 July 2020.
  3. "With Economic, Political Woes, West Bank's Second Coronavirus Wave Might Spin Out of Control". U.S. Department of Education. 22 July 2020. Cyrchwyd 22 July 2020.
  4. "UN envoy warns PA at risk of 'total collapse' due to coronavirus crisis". 22 July 2020. Cyrchwyd 22 July 2020.
  5. "Israel Must Immediately Allow Entry of Fuel and Other Essential Items into Gaza; Hamas Must end Actions Risking Further Destabilization – Statement by Humanitarian Coordinator Jamie McGoldrick". 31 August 2020. Cyrchwyd 31 August 2020.
  6. Elsevier. "Novel Coronavirus Information Center". Elsevier Connect. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 January 2020. Cyrchwyd 15 March 2020.
  7. Reynolds, Matt (4 March 2020). "What is coronavirus and how close is it to becoming a pandemic?". Wired UK. ISSN 1357-0978. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 March 2020. Cyrchwyd 5 March 2020.
  8. 8.0 8.1 "Crunching the numbers for coronavirus". Imperial News. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 March 2020. Cyrchwyd 15 March 2020.
  9. "High consequence infectious diseases (HCID); Guidance and information about high consequence infectious diseases and their management in England". GOV.UK. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 March 2020. Cyrchwyd 17 March 2020.
  10. "World Federation Of Societies of Anaesthesiologists – Coronavirus". wfsahq.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 March 2020. Cyrchwyd 15 March 2020.
  11. "Israel is Legally Obligated to Ensure the Population in the West Bank and Gaza Strip Are Vaccinated". Just Security. 6 January 2021. Cyrchwyd 6 January 2021.
  12. "Palestinians wait for vaccines as Israel lauds immunisation drive". FT. 7 January 2021. Cyrchwyd 7 January 2021. Under the 1949 Geneva Convention, Israel as the occupier is ultimately responsible for the health of the Palestinians living in the areas it controls, including “to combat the spread of contagious diseases and epidemics”
  13. "Denying COVID-19 vaccines to Palestinians exposes Israel's institutionalized discrimination". Amnesty International. 6 January 2021. Cyrchwyd 6 January 2021. Israeli authorities must ensure that vaccines are equally provided to the Palestinians living under their control, in order to meet their obligations under international law.
  14. "Israel: Provide Vaccines to Occupied Palestinians". Human Rights Watch. 17 January 2021. Cyrchwyd 27 March 2021. Israeli authorities claim that responsibility for vaccinating this population, under the Oslo Accords, falls on the Palestinian Authority. Israel’s Health Minister told Sky News that “they have to learn how to take care of themselves”. . However, the Fourth Geneva Convention obliges Israel, as the occupying power, to ensure the “medical supplies of the [occupied] population,” including “adoption and application of the prophylactic and preventative measures necessary to combat the spread of contagious diseases and epidemics” to “the fullest extent of the means available to it.” Israel remains the occupying power in the West Bank, including East Jerusalem, and Gaza under international humanitarian law, given the extent of its control over borders, the movement of people and goods, security, taxation, and registry of the population, among other areas.'
  15. Isabel Kershner, Adam Rasgon, Quick Vaccine Success, Israel Faces New Virus Woes,'[dolen marw] New York Times 6 January 2021:'The Oslo Accords, the interim peace agreements signed in the 1990s between Israel and the Palestine Liberation Organization, commit the two sides to cooperate in combating epidemics and to assist each other in times of emergency. The Geneva Conventions also oblige an occupying power to ensure medical supplies for the local population and the preventive measures needed to combat contagious diseases and epidemics.'
  16. "Joint Statement: 10 Israeli, Palestinian and international health and human rights organizations: Israel must provide necessary vaccines to Palestinian health care systems". OCHA. 22 December 2020. Cyrchwyd 23 December 2020. we, the undersigned organizations, urge the Israeli authorities to live up to their legal obligations and ensure that quality vaccines be provided to Palestinians living under Israeli occupation and control in the West Bank and the Gaza Strip as well.
  17. "COVID-19: Israel urges world to follow its rapid vaccine rollout, but Palestinians are left waiting". www.sky.com. 11 January 2021. Cyrchwyd 11 January 2021. Under the 4th Geneva Convention, occupying forces are responsible for providing healthcare to the population of the occupied area. Most states as well as the United Nations Security Council, the United Nations General Assembly, the International Court of Justice, and the International Committee of the Red Cross, consider Israel to be an occupying power. However, the Oslo Peace Accords of the 1990s between Israel and the Palestinians (which were supposed to be temporary; a roadmap leading to a Palestinian state) gave the Palestinians responsibility for healthcare.
  18. >"Covid-19: Why are Palestinians not getting vaccines?". BBC. 1 February 2021. Cyrchwyd 1 February 2021.
  19. Samuels, Ben (13 March 2021). "U.S. Senators to Blinken: Push Israel to 'do more to help Palestinians' with COVID vaccines - U.S. News". Haaretz.com. Cyrchwyd 28 March 2021.
  20. "No set date for the arrival of the coronavirus vaccine in Palestine". WAFA. 9 January 2021. Cyrchwyd 9 January 2021.
  21. "Ignoring PA plans, Amnesty demand Israel give vaccine to Palestinians". ynetnews. 6 January 2021. Cyrchwyd 9 January 2021.
  22. "Israel is starting to vaccinate, but Palestinians may have to wait months". Washington Post. 19 December 2020.
  23. "Palestinians scramble for COVID-19 vaccines as Israel prepares rollout". Reuters. 18 December 2020.
  24. "The Palestinian Authority authorizes use of Russia's Sputnik V vaccine". NYT. 11 January 2021. Cyrchwyd 11 January 2021.
  25. "Covid-19: Why are Palestinians not getting vaccines?". BBC. 1 February 2021. Cyrchwyd 1 February 2021."Covid-19: Why are Palestinians not getting vaccines?". BBC. 1 February 2021. Retrieved 1 February 2021.
  26. "Israel Delivers 2,000 COVID Vaccines to Palestinian Authority". Haaretz. 1 February 2021. Cyrchwyd 1 February 2021.
  27. "Tunisia, Palestinians to be among first COVAX recipients - WHO". Reuters. 1 February 2021. Cyrchwyd 1 February 2021.
  28. "Palestine receives first 10,000 doses of Russia's Sputnik V vaccine". WAFA. 4 February 2021. Cyrchwyd 4 February 2021.
  29. "First coronavirus vaccines arrive in Gaza Strip following blockage by Israel". WAPO. 17 February 2021. Cyrchwyd 17 February 2021.
  30. Carey, Andrew (18 June 2021). "Israel to transfer at least 1 million Covid-19 vaccines to Palestinians in swap deal". CNN. Cyrchwyd 20 June 2021.
  31. Carey, Andrew; Salman, Abeer (19 June 2021). "Palestinians cancel Pfizer vaccine agreement with Israel". CNN. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 June 2021. Cyrchwyd 20 June 2021.
  32. "Palestinians cancel deal for Israel to supply 1 million COVID vaccines". Times of Israel. 18 June 2021. Cyrchwyd 20 June 2021.
  33. staff, T. O. I. "After Palestinians reject deal, Israel to send 700,000 vaccines to South Korea". www.timesofisrael.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-07-06.
  34. Karam, Zeina (22 April 2020). "First virus case recorded in refugee camp in Lebanon". Associated Press News. Cyrchwyd 22 April 2020.
  35. Rummler, Orion (22 April 2020). "Palestinian refugee camp in Lebanon reports first coronavirus case". Axios. Cyrchwyd 22 April 2020.
  36. "Foreign Ministry: 1,066 confirmed COVID-19 cases among diaspora Palestinians". WAFA. 24 April 2020. Cyrchwyd 24 April 2020.