Cadwaladr Roberts

cerddor o ardal Ffestiniog

Roedd Cadwaladr Roberts (Pencerdd Moelwyn) (5 Mehefin 185414 Mehefin 1915) yn gerddor Cymreig a sefydlodd ac a fu'n arwain y côr enwog o fro Ffestiniog Côr Meibion y Moelwyn.[1]

Cadwaladr Roberts
Ganwyd5 Mehefin 1854 Edit this on Wikidata
Tanygrisiau Edit this on Wikidata
Bu farw14 Mehefin 1915 Edit this on Wikidata
Galwedigaethcerddor Edit this on Wikidata
Pencerdd Moelwyn tua 1896

Cefndir golygu

Ganwyd y Pencerdd Moelwyn yn Nhŷ Capel Bethsaida, Tanygrisiau, yr hynaf o bump o blant Robert Roberts, chwarelwr, a Jane (née Griffith) ei wraig. Blwyddyn ar ôl ei eni symudodd y teulu i fferm yr Aelgoch, ar odra'r Moelwyn. Bu farw tad y Pencerdd trwy ddamwain yn y chwarel pan oedd ei fab yn 10 mlwydd oed. Oherwydd yr angen iddo ef, fel y mab hynaf, gynorthwyo ei fam weddw i redeg y fferm ni chafodd gyfle i dderbyn addysg ffurfiol ac eithrio'r hyn a gafodd yn yr ysgol Sul.[2]

Gyrfa golygu

Yn gynnar iawn dechreuodd Roberts weithio yn y chwarel, ond cafodd ddamwain wrth ei waith a achosodd niwed difrifol i'w goes. Roedd meddyg Ffestiniog ar y pryd Dr Robert Roberts (Isallt) yn hanu o hen deulu o feddygon esgyrn ac wedi dod yn arbenigwr mewn trin damweiniau diwydiannol.[3] Llwyddodd Isallt i achub coes y bachgen, ond bu'n gloff am weddill oes.[4]

Gyrfa gerddorol golygu

Roedd y teulu Roberts yn aelodau o gapel Annibynnol Carmel, Tanygrisiau. Yn 18 mlwydd oed ymunodd Cadwaladr Roberts â chôr y capel. Dysgodd elfennau cerddoriaeth gan arweinydd y côr a chodwr canu'r capel John W. Jones. Bu'n ddisgybl gwiw i'r arweinydd, a phan benderfynodd Jones ymfudo i'r Wladfa ym 1874 awgrymodd y byddai Roberts yn olynydd teilwng iddo. Ymroddodd i'r gwaith yn egnïol a chafodd lwyddiant gyda'r canu cynulleidfaol o'r cychwyn. Er mwyn gwella ei alluoedd fel arweinydd a chodwr canu bu'n ddarllenwr brwd o lyfrau am egwyddorion cerddoriaeth.[5]

Bu côr Tanygrisiau yn cystadlu yn rheolaidd yn eisteddfodau lluosog ardal Ffestiniog yr adeg honno, ond colli oedd ei hanes bob tro. Penderfynodd yr arweinydd ail-ffurfio ei gôr drwy orfodi pob aelod gael clyweliad. Cwtogodd aelodaeth y côr o dros gant i ddim ond y 40 efo'r lleisiau gorau. Achosodd hyn lawer o ddrwgdeimlad yn ei erbyn ond profodd iddo wneud y peth iawn pan enillodd y côr y wobr gyntaf mewn tair cystadleuaeth yn Eisteddfod Flynyddol yr Annibynwyr ychydig wedi hynny. O hynny allan bu llwyddiant i'r côr ar y maes cystadleuol. Ymunodd eraill â'r côr er mwyn cyfranogi yn ei fri er nad oeddynt yn aelodau gyda'r Annibynwyr. Ffurfiodd Roberts Undeb Corawl Blaenau Ffestiniog oedd yn cynnwys, yn y pendraw, 150 o aelodau, pob un wedi pasio prawf lleisiol a phob un yn gallu dilyn y tonic sol-ffa. Ym 1882 cafodd yr Undeb Corawl ei buddugoliaeth gyntaf y tu allan i ardal Ffestiniog pan lwyddodd i gipio'r wobr gyntaf mewn eisteddfod daleithiol ym Mae Colwyn. Cystadlidd y côr yn Eisteddfod Genedlaethol Lerpwl ym 1884 pherfformiodd yn y Palas Grisial yn Llundain ym 1892.[6]

Ym 1891 ffurfiodd Roberts gôr meibion o'r enw The Moelwyn Mael Voice Singers,[7] i ganu yng nghyngerdd agoriadol Eisteddfod Ffestiniog. Daeth y Singers yn Gôr Meibion y Moelwyn, sydd yn parhau hyd heddiw i fod yn un o gorau meibion mwyaf amlwg y gogledd. Yn ystod cyfnod Pencerdd Moelwyn daeth y côr yn gydradd gyntaf efo Côr Meibion Porth yn Eisteddfod Genedlaethol Llandudno 1896 [8] Canodd y côr yng ngŵyl gyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Ffestiniog 1898 [9] ac mewn cyngerdd i groesawu prif weinidogion y trefedigaethau Prydeinig i gyfarfod yng Nghastell Gwydir Llanrwst.[10] Yn Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Ffestiniog urddwyd Roberts yn Bencerdd ac yn aelod o'r Orsedd gyda'r enw Pencerdd Moelwyn. Ym 1907 canodd côr ar y Llong Frenhinol yng Nghaergybi er diddanwch y brenin Siôr V.[11] Bu hefyd ar daith gyda'r côr i'r Unol Daleithiau a Chanada.

Yn ogystal â'i waith gyda'r capel a'r corau gwasanaethodd Pencerdd Moelwyn ar Fwrdd Gwarcheidwaid Ffestiniog [12] ar Fwrdd Lleol Ffestiniog [13] ac fe'i penodwyd yn Ynad Heddwch ar fainc Llys Ffestiniog.

Teulu golygu

Ym 1885 priododd Pencerdd Moelwyn â Maria Williams, athrawes yn Ysgol Tanygrisiau.[14] Bu iddynt bump o blant ond dim ond un ohonynt gwnaeth byw i ddod yn oedolyn. Bu Mrs Roberts marw ym 1896 [15]

Marwolaeth golygu

Bu farw Pencerdd Moelwyn o'r diciâu yn ei gartref Bodlondeb, Tanygrisiau yn 61 mlwydd oed, a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Llan Ffestiniog [16].

Cyfeiriadau golygu

  1. Llafar Bro – 24 Awst 2016 -Bwrw Golwg - Cadwaladr Roberts adalwyd 22 Tachwedd 2020
  2. "Y DIWEDDAR CADWALADR ROBERTS YH PENCERDD MOELWYN BLAENAU FFESTINIOG - Y Drych". Mather Jones. 1915-07-15. Cyrchwyd 2020-11-22.
  3. "MARWOLAETH ISALLT - Yr Herald Cymraeg". Daniel Rees. 1914-09-15. Cyrchwyd 2020-11-22.
  4. "MR CADWALADR ROBERTS TANYGRISIAU FFESTINIOG - Papur Pawb". Daniel Rees. 1897-07-31. Cyrchwyd 2020-11-22.
  5. Y Cerddor, Cyf. VIII rhif. 86 - Chwefror 1 1896 Tud 14. EIN CERDDORION. (RHIF 2.) Mr CADWALADR ROBERTS, Tanygrisiau adalwyd 22 Tachwedd 2020
  6. Llechi Cymru. Diwylliant - Cerddoriaeth adalwyd 22 Tachwedd 2020
  7. "THE FESTINIOG EISTEDDFOD - The North Wales Express". Robert Wiliams. 1891-08-28. Cyrchwyd 2020-11-22.
  8. Bye-gones July 1896. National Eisteddfod adalwyd 22 Tachwedd 2020
  9. "PROCLAMATION OF THE 1898 EISTEDDFOD - Llangollen Advertiser Denbighshire Merionethshire and North Wales Journal". Hugh Jones. 1897-07-09. Cyrchwyd 2020-11-22.
  10. "THE COLONIAL PREMIERS AT LLANRWST - Carnarvon and Denbigh Herald and North and South Wales Independent". James Rees. 1897-07-16. Cyrchwyd 2020-11-22.
  11. "YR YMWELIAD BRENHINOL - Yr Herald Cymraeg". Daniel Rees. 1907-07-09. Cyrchwyd 2020-11-22.
  12. "FFESTINIOG - Y Genedl Gymreig". Thomas Jones. 1879-04-03. Cyrchwyd 2020-11-22.
  13. "FFESTINIOG A'I HELYNTION - Y Genedl Gymreig". Thomas Jones. 1884-05-28. Cyrchwyd 2020-11-22.
  14. "Family Notices - The North Wales Express". Robert Wiliams. 1885-04-10. Cyrchwyd 2020-11-22.
  15. "Ffestiniog - Y Cymro". Isaac Foulkes. 1896-05-14. Cyrchwyd 2020-11-22.
  16. "ER COF - Y Dydd". William Hughes. 1915-06-18. Cyrchwyd 2020-11-22.