Bryngaer o Oes yr Haearn uwchben Dyffryn Conwy, nepell o Rowen, Sir Conwy yw Caer Bach (Caer-bach mewn rhai ffynonellau). Mae'n gorwedd yng nghymuned Henryd. Cyfeirnod OS: SH744729.

Caer Bach
Mathbryngaer sy'n rhannol ddilyn tirffurf y graig Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.2389°N 3.8831°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH74437297 Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwCN125 Edit this on Wikidata

Disgrifiad golygu

Saif y fryngaer tua 400 medr i fyny ar lethrau dwyreiniol Tal y Fan, tua milltir i'r gogledd-orllewin o Rowen. Mae'n gaer gron fechan gyda mur mewnol o gerrig 3 m o led a chlawdd a ffos allanol. Ceir olion grŵp o gytiau ger llaw a cheir caeau hynafol rhwng y gaer a Maen y Bardd. Mae'r ardal o'i chwmpas, rhwng mynydd y Penmaen-mawr i'r gogledd a'r ffordd Rufeinig i'r de, yn gyfoethog o safleoedd cynhanesyddol.

 
Rhan o fur Caer Bach
 
Rhan o fur Caer Bach

Cefndir golygu

Lloches i gartrefi a gwersyllfeydd milwrol oedd pwrpas bryngaerau fel hon, cyn y goresgyniad Rhufeinig; a chafodd cryn lawer ohonyn nhw eu hatgyfnerthu a'u defnyddio, yng nghyfnod y Rhufeiniaid; er enghraifft Dinorben yng ngogledd Cymru. Oes aur bryngaerau gwledydd Prydain oedd rhwng 200 CC ac OC 43.

Cofrestrwyd y fryngaer hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: CN125.[1] Ceir tua 300 o fryngaerau ar restr CADW o henebion, er bod archaeolegwyr yn nodi bod oddeutu 570 ohonyn nhw i gyd yng Nghymru.

Mynediad golygu

Gellir cyrraedd Caer Bach o sawl cyfeiriad, e.e. o Rowen ar ôl dilyn yr hen lôn i Eglwys Llangelynnin neu o safle cromlech Maen y Bardd ar y ffordd Rhufeinig sy'n arwain i Fwlch y Ddeufaen, neu ar lwybrau o gyfeiriad Penmaenmawr neu Fwlch Sychnant.

Cyfeiriadau golygu

Gweler hefyd golygu