Agor y brif ddewislen
Erthygl am y mynydd o'r enw Penmaen-mawr yw hon. Am y pentref gweler Penmaenmawr.

Mynydd gwenithfaen ym mwrdeistref sirol Conwy yw'r Penmaen-mawr. Saif ar arfordir gogledd Cymru rhwng Penmaenmawr i'r dwyrain a Llanfairfechan i'r gorllewin. Ers gwawr hanes mae pobl wedi defnyddio carreg y mynydd. Datblygwyd chwarel fawr arno yn y 19g ac mae olion y gwaith yn creithio ei lethrau o hyd, er bod ymdrech i adfer yr amgylchedd wedi bod. Enwir pentref Penmaenmawr ar ôl y mynydd. Ei uchder presennol yw tua 1,100'.

Mynydd Penmaen-mawr o'r dwyrain, gyda phentref Penmaenmawr wrth ei droed
Fel y bu: golygfa ar y mynydd o rodfa môr Penmaenmawr, tua 1910. Gwelir sieti'r chwarel yn ymestyn i'r môr.

Ceir olion "ffatri" bwyeill carreg o Oes Newydd y Cerrig ar lethrau gorllewinol Cwm Graiglwyd, i'r dwyrain o gopa'r Penmaen-mawr. Ceir tystiolaeth fod bwyeill gwenithfaen o'r Graiglwyd yn cael eu allforio ar raddfa eang 5,000 o flynyddoedd yn ôl; mae enghreifftiau wedi'u darganfod mor bell i ffwrdd ag arfordir de Lloegr. Credir eu bod yn cael eu cludo i safle ger Prestatyn cyn eu hallforio. Ychydig i'r de-ddwyrain o'r mynydd ceir y Meini Hirion ("Druid's Circle"), sy'n un o'r cylchoedd cerrig cynhanesyddol gorau yng Nghymru. Mae nifer o olion hen gytiau i'w gweld hefyd, ynghyd â meini hirion unigol a thwmpathau claddu.

Ar un adeg roedd copa'r Penmaen-mawr yn 1,500 troedfedd uwchben lefel y môr ond mae wedi cael ei dorri i lawr cryn dipyn gan waith chwarel dros y blynyddoedd. Coronid y gopa gan Braich-y-Dinas, a oedd un o'r bryngaerau fwyaf o gyfnod Oes yr Haearn yng Nghymru ac Ewrop, cyffelyb i Dre'r Ceiri yn ardal Trefor yn Llŷn; gwaetha'r modd dinistriwyd yr olion olaf yn y 1920au ac nid oes dim yn aros ohoni heddiw.

Cysylltir Sant Seiriol â'r mynydd. Yn ôl traddodiad bu ganddo gapel yng Nghwm Graiglwyd. Dywedir yn ogystal fod ganddo gell meudwy mewn llecyn a elwir yn 'Clipyn Seiriol', ar lethrau gogleddol y Penmaen-mawr uwch tonnau'r môr. Arferai ymneilltuo yno o'i fynachlog ar Ynys Seiriol, dros y bae.

Datblygwyd gwaith chwarel ar y mynydd yn y 19g. Daeth Cwmni Gwenithfaen Cymreig Penmaenmawr (Penmaenmawr Welsh Granite Co.) yn un o'r rhai mwyaf o'i fath yn y byd. Ar un adeg bu dros fil o ddynion yn gweithio yno a datblygodd pentrefi chwarel Penmaenmawr a Llanfairfechan yn gyflym wrth i weithwyr o sawl rhan o ogledd-orllewin Cymru, ond yn enwedig o Arfon a Môn, heidio yno i gael gwaith. Bu gan y chwarel berthynas glos â Chwarel Trefor, hithau'n chwarel gwenithfaen. Allforid cerrig ithfaen i borthfeydd fel Lerpwl a dinasoedd Lloegr gan y rheilffordd a hefyd ar y môr o ddau jeti'r chwarel i Lerpwl eto ac i nifer o borthfeydd ar y cyfandir fel Hamburg yn ogystal. Erbyn heddiw dim ond tuag ugain o bobl sy'n gweithio yn y chwarel.

Am ganrifoedd bu'r mynydd yn rhwystr i deithwyr a arswydai rhag croesi'r llethrau syrth creigiog rhwng y ddau bentref. Heddiw mae ffordd yr A55 yn mynd o dano trwy ddau dwnel mawr.

Hen RigwmGolygu

Mae genni iâr yn gori
Ar ben y Penmaen-mawr;
Mi es i droed yr Wyddfa
I alw hon i lawr;
Mi hedodd ac mi hedodd
A'i chywion gyda hi,
Hyd eitha tir Iwerddon,
Good morrow, John. How dee!

Darllen pellachGolygu

  • Gweneth Lilly (gol.), Lleisiau'r Graig (Cyhoeddiadau Mei, Pen-y-groes, 1992). Ysgrifau ar chwarel y Penmaen-mawr gan chwarelwyr y gorffennol, gyda rhagymadrodd gan Bedwyr Lewis Jones.