Caer Bach
Bryngaer o Oes yr Haearn uwchben Dyffryn Conwy, nepell o Rowen, Sir Conwy yw Caer Bach (Caer-bach mewn rhai ffynonellau). Mae'n gorwedd yng nghymuned Henryd. Cyfeirnod OS: SH744729.
Math | bryngaer sy'n rhannol ddilyn tirffurf y graig |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.2389°N 3.8831°W |
Cod OS | SH74437297 |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | CN125 |
Disgrifiad
golyguSaif y fryngaer tua 400 medr i fyny ar lethrau dwyreiniol Tal y Fan, tua milltir i'r gogledd-orllewin o Rowen. Mae'n gaer gron fechan gyda mur mewnol o gerrig 3 m o led a chlawdd a ffos allanol. Ceir olion grŵp o gytiau ger llaw a cheir caeau hynafol rhwng y gaer a Maen y Bardd. Mae'r ardal o'i chwmpas, rhwng mynydd y Penmaen-mawr i'r gogledd a'r ffordd Rufeinig i'r de, yn gyfoethog o safleoedd cynhanesyddol.
Cefndir
golyguLloches i gartrefi a gwersyllfeydd milwrol oedd pwrpas bryngaerau fel hon, cyn y goresgyniad Rhufeinig; a chafodd cryn lawer ohonyn nhw eu hatgyfnerthu a'u defnyddio, yng nghyfnod y Rhufeiniaid; er enghraifft Dinorben yng ngogledd Cymru. Oes aur bryngaerau gwledydd Prydain oedd rhwng 200 CC ac OC 43.
Cofrestrwyd y fryngaer hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: CN125.[1] Ceir tua 300 o fryngaerau ar restr CADW o henebion, er bod archaeolegwyr yn nodi bod oddeutu 570 ohonyn nhw i gyd yng Nghymru.
Mynediad
golyguGellir cyrraedd Caer Bach o sawl cyfeiriad, e.e. o Rowen ar ôl dilyn yr hen lôn i Eglwys Llangelynnin neu o safle cromlech Maen y Bardd ar y ffordd Rhufeinig sy'n arwain i Fwlch y Ddeufaen, neu ar lwybrau o gyfeiriad Penmaenmawr neu Fwlch Sychnant.
-
Diagram o 1960
-
Wal allanol, gorllewinol
-
Y tu fewn i'r waliau mewnol