Bryngaer Geltaidd sy'n perthyn i Oes yr Haearn, wedi'i lleoli ger Llanfair Clydogau,Ceredigion, Cymru, yw Caer Cadwgan.

Caer Cadwgan (bryngaer)
Mathcaer lefal Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCeredigion Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.1125°N 4.0132°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN62244795, SN6223047960 Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwCD114 Edit this on Wikidata
Nodyn: Yn anffodus, mae'r gaer hon wedi ei henwi yn anghywir. Enw ar y gaer yma yw "Gaer Morys" (neu "Gaer Maurice"). Yn llyfr Meyrick, History of Cardiganshire (1805), neu A Topographical History of Wales enw y gaer yma yw "Gaer Morys". Ond ers i Goleg Dewi Sant, Llanbedr-pontsteffan, fod yn cloddio yma yn yr 1980au mae'r enw "Gaer Cadwgan" wedi cael ei ddefnyddio. Doedd neb wedi gofyn i'r werin bobl lleol! Mae yna dy o'r enw "Caer-cadwgan" yw gael tua 400 llath i'r gorllewin (SN616478), ond lluest (encampment) oedd yma. Nid yn Llanfair Clydogau ym Mhlwyf Cellan y lleolir y gaer hon.

Cofrestrwyd y fryngaer hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: CD114.[1] Ceir tua 300 o fryngaerau ar restr CADW o henebion, er bod archaeolegwyr yn nodi bod oddeutu 570 ohonyn nhw i gyd yng Nghymru.

Fel arfer, fel mae'r gair yn ei awgrymu, ar fryn y codwyd y caerau hyn, er mwyn i'r amddiffynwyr gael mantais milwrol. Un o'r bryngaerau mwyaf trawiadol yng Nghymru ydy Tre'r Ceiri, a hon yw'r fryngaer Oes Haearn fwyaf yng ngogledd-orllewin Ewrop.[2] Mae ei harwynebedd oddeutu 2.5ha.[3] Y mwyaf o ran maint (arwynebedd), fodd bynnag ydy Bryngaer Llanymynech sydd ag arwynebedd o 57 hectar.[4]

Lloches i gartrefi a gwersyllfeydd milwrol oedd eu pwrpas felly, cyn y goresgyniad Rhufeinig; a chafodd cryn lawer ohonynh nhw eu hatgyfnerthu a'u defnyddio, yng nghyfnod y Rhufeiniaid; er enghraifft Dinorben yng ngogledd Cymru. Oes aur bryngaerau gwledydd Prydain oedd rhwng 200 CC ac OC 43.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Cofrestr Cadw.
  2. References Wales gan John May; Gwasg Prifysgol Cymru.
  3. "Gwefan y BBC". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-04-11. Cyrchwyd 2012-03-04.
  4. "Gwefan CPAT". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-01-07. Cyrchwyd 2012-03-04.