Bryngaer Llanymynech

bryngaer ym Mhowys

Mae Bryngaer Llanymynech a'i arwynebedd o 57 hectar[1] yn un o fryngaerau mwyaf gwledydd Prydain ac yn dyddio'n ôl i Oes yr Haearn neu o bosibl i gyfnod cynharach Oes yr Efydd. Mae wedi'i leoli ar gopa Bryn Llanymynech ar Glawdd Offa ger bentref Llanymynech, cymuned Carreghwfa, Powys; cyfeiriad grid SJ26502215 6 milltir i'r de-orllewin o Groesoswallt. Mae'n debygol mai dyma fryngaer mwyaf Cymru.

Bryngaer Llanymynech
Mathcaer lefal, bryngaer Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.7918°N 3.0917°W, 52.791323°N 3.091582°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ264221 Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwMG030 Edit this on Wikidata

Disgrifiad golygu

Mae cloddio archaeolegol yn 2002 gan Owen yn dangos fod yr anheddau y tu mewn i'r gaer yn dyddio'n ôl i'r 4g C.C.[2]

Cefndir golygu

Cofrestrwyd y fryngaer hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: MG030.[3] Ceir tua 300 o fryngaerau ar restr CADW o henebion, er bod archaeolegwyr yn nodi bod oddeutu 570 ohonyn nhw i gyd yng Nghymru.

Fel arfer, fel mae'r gair yn ei awgrymu, ar fryn y codwyd y caerau hyn, er mwyn i'r amddiffynwyr gael mantais milwrol. Un o'r bryngaerau mwyaf trawiadol yng Nghymru ydy Tre'r Ceiri, a hon yw'r fryngaer Oes Haearn fwyaf yng ngogledd-orllewin Ewrop.[4] Mae ei harwynebedd oddeutu 2.5ha.[5]

Lloches i gartrefi a gwersyllfeydd milwrol oedd eu pwrpas felly, cyn y goresgyniad Rhufeinig; a chafodd cryn lawer ohonyn nhw eu hatgyfnerthu a'u defnyddio, yng nghyfnod y Rhufeiniaid; er enghraifft Dinorben yng ngogledd Cymru. Oes aur bryngaerau gwledydd Prydain oedd rhwng 200 CC ac OC 43.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Gwefan CPAT". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-01-07. Cyrchwyd 2010-09-25.
  2. "Gwefan Coflein". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-09-17. Cyrchwyd 2010-09-25.
  3. Cofrestr Cadw.
  4. References Wales gan John May; Gwasg Prifysgol Cymru.
  5. "Gwefan y BBC". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-04-11. Cyrchwyd 2013-07-11.