Tre'r Ceiri

Bryngaer mawr ar y Llŷn

Mae Tre'r Ceiri yn fryngaer Geltaidd o'r Oes Haearn a chyfnod y Rhufeiniaid ar y mwyaf dwyreiniol o dri chopa Yr Eifl, uwchben pentref Llanaelhaearn yn ardal penrhyn Llŷn, Gwynedd. Mae'n un o'r bryngeiri mwyaf trawiadol yng Nghymru a'r fryngaer Oes Haearn mwyaf yng ngogledd-orllewin Ewrop.[1] Mae arwynebedd y gaer oddeutu 2.5ha.[2] Cyfeirnod OS: SH372446.

Tre'r Ceiri
Mathsafle archaeolegol, caer lefal Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
Daearyddiaeth
SirGwynedd
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr564 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.9747°N 4.4238°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH37354465 Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwCN028 Edit this on Wikidata
Tre'r Ceiri o'r Eifl

Disgrifiad golygu

Mae'r fryngaer yng ngofal Cadw, a gwnaed cryn dipyn o waith cynnal a chadw ar y muriau a'r llwybrau o amgylch y gaer yn y blynyddoedd diwethaf. Gellir cyrraedd Tre'r Ceiri trwy ddilyn y llwybr troed sy'n cychwyn ychydig uwchben Llanaelhaearn ar ochr y ffordd i Nefyn.

Amgylchynir y fryngaer gan furiau cerrig sydd yn dal o gryn uchder mewn mannau, hyd at 3 medr. Yn y rhannau lle mae'r amddiffynfeydd naturiol gryfaf mae'r mur yn un sengl, ond mewn rhannau eraill mae dau fur. Tu mewn i'r muriau mae gweddillion tua 150 o dai crwn. Bu cloddio yma yn 1956, a gwnaed nifer o ddarganfyddiadau yn dyddio rhwng tua 150 O.C. a 400 O.C. Ymddengys felly fod y Rhufeiniaid wedi caniatau i'r llwyth lleol, y Gangani, ddefnyddio'r fryngaer.[3]

Cofrestrwyd y fryngaer hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: CN028.[4] Ceir tua 300 o fryngaerau ar restr CADW o henebion, er bod archaeolegwyr yn nodi bod oddeutu 570 ohonyn nhw i gyd yng Nghymru.

Gweler hefyd golygu

Oriel golygu

Ffotograffau eraill golygu

O fewn y gaer


Golygfeydd o'r bryn


Cyfeiriadau golygu

  1. References Wales gan John May; Gwasg Prifysgol Cymru.
  2. "Gwefan y BBC". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-04-11. Cyrchwyd 2010-09-08.
  3. Frances Lynch, Gwynedd, A Guide to Ancient and Historic Wales (Llundain: HMSO, 1995)
  4. Cofrestr Cadw.