Y Llwybr Canser (Ffrangeg: Allée du Cancer; Saesneg: Canser Alley) yw'r llysenw a roddir i glwt o dir 85 milltir (137 km)[1] o hyd, ar hyd y Mississippi rhwng Baton Rouge, Louisiana a New Orleans, mewn ardal o'r enw River Parishes (tri phlwyf) sy'n cynnwys dros 200[2] o weithfeydd a phurfeydd petrocemegol.[3] Mae'r ardal hon yn cynnwys 25% o gynnyrch petrocemegol yr Unol Daleithiau.[4] Ystyrir yr ardal yn barth wedi'i aberthu hy ardal sydd wedi'i amharu'n barhaol gan newidiadau amgylcheddol peryglus.[5]

Cancer Alley
Twmpath o ddrymiau olew ger Purfa Baton Rouge ExxonMobil ar hyd Afon Mississippi yn Rhagfyr 1972.
Enghraifft o'r canlynolrhanbarth Edit this on Wikidata
GwladBaner UDA UDA
Map
GwladwriaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
RhanbarthLouisiana Edit this on Wikidata

Yma, mae pedwar-deg-chwech o unigolion ym mhob miliwn mewn perygl o ddatblygu canser, o gymharu â'r cyfartaledd cenedlaethol o tua thri-deg o unigolion fesul miliwn.[4] Ysbrydolodd y risg canser annormal o uchel a chrynodiad uchel iawn o betrocemegol y llysenw "Canser Alley".

Canfyddodd ymchwilwyr bod gwahaniaeth hiliol mewn risg canser o lygredd aer yn gwaethygu wrth i'r crynodiad gynyddu ar draws y rhanbarth.[4] Mae unigolion mewn ardaloedd lle mae'r 16% yn ddu yn fwy tebygol o ddal canser na'r rhai mewn ardaloedd gwyn. Mae pobl mewn ardaloedd incwm isel hefyd yn wynebu siawns uwch o 12% na'r rhai mewn ardaloedd incwm uchel.[4] Mae arweinwyr cymunedol fel Sharon Lavigne wedi arwain yr ymgyrchyn erbyn hyn i gyd drwy brotestio yn erbyn ehangu’r diwydiant petrocemegol yn y Llwybr Canser yn ogystal â mynd i’r afael â’r gwahaniaethau hiliol ac economaidd cysylltiedig.[6]

Mae'r cymdeithasegydd Arlie Russell Hochschild yn trafod y cyflyrau amgylcheddol ac iechyd yn Llwybr y Canser, yn ogystal â'r goblygiadau economaidd-gymdeithasol a gwleidyddol, yn ei llyfr 2016 Strangers in Their Own Land.[7]

Yn 1987, sylwodd trigolion un stryd yn St Gabriel, Louisiana, mewn ardal lle roedd y mwyafrif yn ddu (Affricanaidd-Americanaidd), ac ar incwm isel, ar y nifer fawr o achosion canser yn eu cymuned. Bathwyd 'Llwybr y Canser' yn enw newydd am Jacobs Drive. Wrth i ddigwyddiadau tebyg ddod yn fwyfwy cyffredin yn yr ardaloedd cyfagos, tyfodd y "alley" i gwmpasu darn wyth-deg-pum milltir ar hyd Afon Mississippi.

Mae Plwyf St James yn cynnwys 48.8% o drigolion Affricanaidd-Americanaidd lle mae 16.6% o'i phoblogaeth yn byw mewn tlodi.[8][1] Fodd bynnag, nid yw'r ddemograffeg hon yn cael ei hadlewyrchu yng mghyflogaeth y ffatrïoedd gweithgynhyrchu cyfagos. Wrth arolygu 11 o blanhigion ym Mhlwyf St James, canfu ymchwilwyr mai dim ond rhwng 4.9% a 19.4% o Affricanaidd-Americanaidd a gyflogir gan y ffatrioedd hyn, sy'n hynod o isel o gymharu â'r boblogaeth gyffredinol. [9]

Yn 2019, roedd gan Louisiana'r bumed gyfradd marwolaeth uchaf o ganser yn yr Unol Daleithiau.[10] Er mai'r cyfartaledd cenedlaethol yw 149.09 o farwolaethau fesul 100,000, cyfradd Louisiana oedd 168.1 o farwolaethau fesul 100,000. Fodd bynnag, yn ôl Canolfan Ystadegau Cymdeithas Canser America,[11] mae ffactorau risg Louisianans ar gyfer canser yn debyg i gyfartaleddau cenedlaethol mewn llawer o gategorïau, ar wahan i'r ffaith fod nifer yr achosion o bobl gyda gordewdra a phwysau uchel yn 3ydd a 4ydd uchaf yn y wlad yn 2017 a 2018, yn ôl yr un erthygl. Roedd Louisiana y 6ed uchaf yn y wlad ar gyfer nifer y bobl sy'n cael canser rhwng 2014 a 2018.[12]

Beirniadaeth

golygu

Ar 2 Mawrth 2021, trafododd Pwyllgor Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig (CU) y prosiectau diwydiannol ar hyd y Mississippi yn Louisiana. Condemniodd cyngor y Cenhedloedd Unedig ar Hiliaeth yr Unol Daleithiau'n hallt am yr hyn a ddiffiniwyd ganddynt fel hiliaeth amgylcheddol:

Mae’r math hwn o hiliaeth amgylcheddol yn peri sawl bygythiad difrifol ac anghymesur i'r mwynhad o nifer o hawliau dynol y trigolion Affricanaidd-Americanaidd yn bennaf, gan gynnwys yr hawl i gydraddoldeb a pheidio â gwahaniaethu, yr hawl i fywyd, yr hawl i iechyd, a'r hawl i safon ddigonol o hawliau byw a diwylliannol.

Cafodd y feirniadaeth a fynegwyd gan weithredwyr amgylcheddol eu hadleisio gan y Comisiwn Hawliau Dynol.[13]

Ar Ionawr 27 2021, llofnododd yr Arlywydd Joe Biden orchymyn gweithredol ynghylch cyfiawnder amgylcheddol a chyfeiriodd yn benodol at Cancer Alley fel maes trawiadol.[14] Ymatebodd Llywydd Cymdeithas Cemegol Louisiana, Greg Bowser, i sylwadau’r Arlywydd Biden ar y rhanbarth, gan wrthbrofi honiadau bod gan drigolion y coridor diwydiannol risg uwch o ddatblygu canser mewn nifer o erthyglau.[15][16] At hynny, cyfeiriodd at ddata Cofrestrfa Tiwmor Louisiana (LTR) i gefnogi ei honiadau.[17][18] Mae'r LTR yn honni na fu cynnydd mewn marwolaethau o ganser sy'n gysylltiedig â llygredd diwydiannol.[18]

Mae gweithredwyr, ymgyrchwyr a phobl leol wedi brwydro yn erbyn yr LTR. Mae gweithredwyr yn honni bod y darnau cyfrifiad a ddefnyddiwyd ar gyfer yr LTR yn cwmpasu ardaloedd mawr ac nid yw'r data'n caniatáu leoliadau mwy penodol wrth ymyl gweithfeydd cemegol gael eu gweld yn unigol.[19] Ar ben hynny, mae'r gofrestrfa yn dibynnu ar gofnodion meddygol i ganfod ai canser oedd achos marwolaeth y claf. Prydera'r bobl leol na fydd marwolaethau COVID-19 yn priodoli'n ystadegol i ganser pe bai'r dioddefwyr yn dioddef ohono.[20] Pryder ystadegol arall i bobl leol yw na fydd pobl yn ceisio cymorth meddygol cyn iddynt farw oherwydd rhesymau ariannol neu gymdeithasol.[20] Efallai na fydd swyddogion iechyd Louisiana yn rhyddhau'r achosion a'r data penodol oherwydd deddfau preifatrwydd meddygol. [21]

Clystyrau canser

golygu

Gellir diffinio clwstwr canser fel "amlder uwch na'r disgwyl o achosion canser ymhlith grŵp o bobl mewn ardal ddaearyddol ddiffiniedig dros gyfnod penodol o amser."[22] Gellir amau clwstwr canser hefyd pan fydd nifer aelodau o'r un teulu, ffrindiau, cymdogion a chydweithwyr yn cael diagnosis o'r un math o ganser.

Gweithrediaeth a chyfiawnder amgylcheddol

golygu

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn yr Unol Daleithiau, mae'r mudiadau diogelu'r amgylchedd a hawliau sifil wedi uno i ffurfio mudiad cyfiawnder amgylcheddol mewn ymateb i gymunedau lleiafrifol gydag incwm isel ledled y wlad, sy'n cael eu bygwth yn gyson gan lygredd.[23] Mae llawer o gymunedau sy'n wynebu'r beichiau mwyaf oherwydd llygredd yn tueddu i fod yn dlawd ac yn cynnwys lleiafrifoedd yn bennaf. Oherwydd hyn, bydd cymunedau tlawd a lleiafrifol yn troi at weithredu ar lawr gwlad i amddiffyn eu hunain.

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 Blodgett, Abigail D. (December 2006). "An Analysis of Pollution and Community Advocacy in 'Cancer Alley': Setting an Example for the Environmental Justice Movement in St James Parish, Louisiana". Local Environment 11 (6): 647–661. doi:10.1080/13549830600853700.
  2. Younes, Lylla; Shaw, Al; Perlman, Claire (2019-10-30). "In a Notoriously Polluted Area of the Country, Massive New Chemical Plants Are Still Moving In". ProPublica (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar February 15, 2023. Cyrchwyd 2023-02-15.
  3. Castellón, Idna (February 12, 2021). "Cancer Alley and the Fight Against Environmental Racism". Villanova Environmental Law Journal 32 (1): 15. https://digitalcommons.law.villanova.edu/elj/vol32/iss1/2/. Adalwyd December 10, 2022.
  4. 4.0 4.1 4.2 4.3 James, Wesley (2012). "Uneven magnitude of disparities in cancer risks from air toxins". International Journal of Environmental Research and Public Health 9 (12): 4365–4385. doi:10.3390/ijerph9124365. PMC 3546767. PMID 23208297. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=3546767.
  5. "What are 'sacrifice zones' and why do some Americans live in them? | Adrienne Matei". the Guardian (yn Saesneg). 2021-11-16. Archifwyd o'r gwreiddiol ar May 19, 2022. Cyrchwyd 2022-05-19.
  6. "Letter from Sharon Lavigne to Pres. Biden on Cancer Alley & Formosa Plastics". Louisiana Bucket Brigade. 2021. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-07-20.
  7. McCann, Sean (August 22, 2016). "What's the Matter with Cancer Alley? Arlie Russell Hochschild's Anatomy of Trumpism". Los Angeles Review of Books. Archifwyd o'r gwreiddiol ar July 7, 2020. Cyrchwyd 2020-07-30.
  8. "QuickFacts: St. James Parish, Louisiana". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-03-10. Cyrchwyd 2021-11-21.
  9. Berry, Gregory R. (March 2003). "Organizing Against Multinational Corporate Power In Cancer Alley: The Activist Community as Primary Stakeholder". Organization & Environment 16 (1): 3–33. doi:10.1177/1086026602250213.
  10. "Stats of the States - Cancer Mortality". www.cdc.gov. February 28, 2022. Archifwyd o'r gwreiddiol ar November 21, 2021. Cyrchwyd November 21, 2021.
  11. "American Cancer Society | Cancer Facts & Statistics". American Cancer Society | Cancer Facts & Statistics. Archifwyd o'r gwreiddiol ar March 12, 2022. Cyrchwyd March 11, 2022.
  12. "State Cancer Profiles > Incidence Rates Table". www.statecancerprofiles.cancer.gov. Archifwyd o'r gwreiddiol ar November 21, 2021. Cyrchwyd November 21, 2021.
  13. "USA: Environmental racism in "Cancer Alley" must end – experts". United Nations Human Rights Committee. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-03-02.
  14. Baurick, Tristan. "Biden utters the words 'Cancer Alley,' but will he help Louisiana's chemical corridor?". NOLA.com (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar March 27, 2021. Cyrchwyd 2021-03-30.
  15. "Letter to the Editor: 'Cancer Alley' moniker unwarranted by research". Hanna Newspapers (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar April 13, 2021. Cyrchwyd 2021-04-13.
  16. "Opinion: The Data Doesn't Support "Cancer Alley" Designation in Louisiana". The Times of Houma/Thibodaux (yn Saesneg). 2021-02-21. Archifwyd o'r gwreiddiol ar April 13, 2021. Cyrchwyd 2021-04-13.
  17. Bowser, Greg. "Louisiana industry: 'Cancer alley' is false description of health problems". The Advocate (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar April 13, 2021. Cyrchwyd 2021-03-30.
  18. 18.0 18.1 "Cancer Incidence in Louisiana by Census Tract". Louisiana Tumor Registry. https://sph.lsuhsc.edu/wp-content/uploads/2021/03/01_Cancer-Incidence-in-LA-by-Census-Tract-2008-2017.pdf. Adalwyd April 13, 2021.
  19. Russell, Gordon. "Health officials in "Cancer Alley" will study if living near a controversial chemical plant causes cancer". Mother Jones (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar April 13, 2021. Cyrchwyd 2021-04-13.
  20. 20.0 20.1 Dermansky, Julie (2021-02-25). "From Pollution to the Pandemic, Racial Equity Eludes Louisiana's Cancer Alley Community". DeSmog (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar April 12, 2021. Cyrchwyd 2021-04-13.
  21. "Your Rights Under HIPAA". HHS.gov (yn Saesneg). Office for Civil Rights, Department of Health & Human Services. 2008-05-07. Archifwyd o'r gwreiddiol ar April 13, 2021. Cyrchwyd 2021-04-13.
  22. "Cancer Clusters Fact Sheet - NCI". www.cancer.gov (yn Saesneg). September 5, 2018. Archifwyd o'r gwreiddiol ar December 15, 2022. Cyrchwyd December 15, 2022.
  23. Blodgett, Abigail (2006). "An Analysis of Pollution and Community Advocacy in 'Cancer Alley': Setting an Example for the Environmental Justice Movement in St James Parish, Louisiana". Local Environment 11 (6): 647–661. doi:10.1080/13549830600853700. https://www.tandfonline.com/doi/full/10.1080/13549830600853700. Adalwyd December 15, 2022.

Darllen pellach

golygu

Dolenni allanol

golygu