Canol Swydd Bedford

awdurdod unedol yn sir seremonïol Swydd Bedford

Awdurdod unedol yn sir seremonïol Swydd Bedford, De-orllewin Lloegr, yw Canol Swydd Bedford (Saesneg: Central Bedfordshire).

Canol Swydd Bedford
Mathardal awdurdod unedol yn Lloegr Edit this on Wikidata
PrifddinasChicksands Edit this on Wikidata
Poblogaeth274,000 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1 Ebrill 2009 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSwydd Bedford
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd715.6654 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaLuton Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.0263°N 0.4906°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE06000056 Edit this on Wikidata
GB-CBF Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholcouncil of Central Bedfordshire Council Edit this on Wikidata
Map

Mae gan yr ardal arwynebedd o 716 km², gyda 288,648 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio â Bwrdeistref Bedford i'r gogledd a Bwrdeistref Luton i'r de-ddwyrain, yn ogystal â siroedd Swydd Buckingham i'r gorllewin, a Swydd Gaergrawnt a Swydd Hertford i'r dwyrain.

Canol Swydd Bedford yn Swydd Bedford

Ffurfiwyd yr ardal fel awdurdod unedol ar 1 Ebrill 2009 pan unwyd y ddwy ardal an-fetropolitan Canol Swydd Bedford a De Swydd Bedford, a oedd gynt dan weinyddiaeth yr hen sir an-fetropolitan Swydd Bedford.

Rhennir yr awdurdod yn 79 o blwyfi sifil, heb ardaloedd di-blwyf. Mae ei phencadlys ym mhentref Chicksands. Mae aneddiadau eraill yn yr ardal yn cynnwys trefi Ampthill, Arlesey, Biggleswade, Dunstable, Flitwick, Houghton Regis, Leighton Buzzard, Linslade, Potton, Sandy, Shefford, Stotfold a Woburn

Cyfeiriadau golygu

  1. City Population; adalwyd 28 Hydref 2020