Tref fach a phlwyf sifil yn Swydd Bedford, Dwyrain Lloegr, yw Stotfold.[1] Fe'i lleolir yn awdurdod unedol Canol Swydd Bedford. Credir i'r enw darddu o ddefnydd y dref gan borthmyn o'r gogledd fel lle i dorri eu taith i'r de ar ffordd yr A1, wrth gorlannu eu ceffylau (stots) ar dir caeedig (folds), cyn parhau ar eu taith.

Stotfold
Mathtref, plwyf sifil Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolCanol Swydd Bedford
Daearyddiaeth
SirSwydd Bedford
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau52.018°N 0.228°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE04012258, E04011988, E04001375 Edit this on Wikidata
Cod OSTL2136 Edit this on Wikidata
Cod postSG5 Edit this on Wikidata
Map

Mae'r dref yn gorchuddio 2,207 acer. Mae'r Afon Ivel yn llifo drwy'r dref, a caiff y dref ei rannu gan ffordd hir High Street, sy'n gwahanu'r gogledd a'r de. Cysidrwyd Stotfold yn lle cyfoethog yn yr 19g, a dywedwyd i fyw yn Stotfold, rhaid cael £100 a mochyn. Mae eglwys y Santes Fair yn y dref yn dyddio o adeg y Normaniaid. Ceir dau barc a maes hamdden, ardal chwaraeon aml-ddefnydd a chae pêl-droed. Mae clwb pêl-droed Stotfold F.C. yn chwarae yn Roker Park.

Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 6,950.[2]

Tirnodau golygu

Melin Ddŵr Stotfold golygu

Safai melin ddŵr Stotfold ar yr Afon Ivel, ac mae'n un o bedwar melin yn Stotfold a gofnodwyd yn Llyfr Dydd y Farn.[3] Dyma'r unig felin yn Stotfold sy'n parhau i weithio, ac mae wedi ei restru ar raddfa II.[4] Adnewyddwyd y felin yn gyfan gwbl wedi iddi losgi lawr ar 15 Rhagfyr 1992.[5] Agorwyd i'r cyhoedd ym ms Mai 2006, gyda agoriad swyddogol ym mis Hydref 2006 ac ymweliad yn fuan wedyn gan Ddug Caeredin ar 17 Tachwedd 2006.[6] Mae ganddi olwyn 4.4 medr sy'n saethu drosodd, hon yw'r lletaf yn y wlad.[7] Caiff y felin ei redeg fel elusen gan y Stotfold Mill Preservation Trust er mwyn cynnal a chadw'r felin a'r ardal leol.[8] Un o'r prif ddigwyddiadau er mwyn codi arian yw'r Stotfold Mill Steam and Country Fair a gynhelir yn flynyddol ym mis Mai, bu tua 8,500 o ymwelwyr yn 2010, gan godi £20,000.[9]

Ystadau golygu

Mae'r dref yn parhau i ehangu gyda nifer o ystadau newydd, megis Mill View a Fairfield Park. Lleolir Fairfield Park ar hen safle Ysbytu Fairfield, gan orchuddio ardal eang i'r de o Stotfold hyd dwyrain Arlesey. Trowyd yr hen ysbytu yn fflatiau moethus, gyda channoeddo dai newydd yn cael eu hadeiladu ar dir yr hen sefydliad iechyd meddyliol. Bydd Fairfield Park yn gwahannu o Stotfold ar 1 Ebrill 2013, pan fydd yn dod yn blwyf arwahan.

Trigolion o nôd golygu

Magwyd y seiclwraig Olympaidd a phencampwraig y byd, Victoria Pendleton, yn Stotfold. Yn 2007, ail-enwyd y trac seiclo rhwng Arlesey a Stotfold ar ei hôl er mwyn ei hanrhydeddu.[10]

Craig Vye, actor sydd wedi ymddangos yn Hollyoaks, Aqulia, London's Burning, Doctors a Skins.

Y saethwraig Nicky Hunt, a enillodd fedal aur yng Ngemau'r Gymanwlad.

Cyfeiriadau golygu

  1. British Place Names; adalwyd 14 Hydref 2022
  2. City Population; adalwyd 14 Hydref 2022
  3. Stotfold yn Llyfr Dydd y Farn (Domesday Book)
  4. http://www.stotfoldmill.com/index.php?pg=bert_hyde.php
  5. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-03-07. Cyrchwyd 2012-07-18.
  6. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-03-07. Cyrchwyd 2012-07-18.
  7. http://www.stotfoldmill.com/index.php?pg=history.php
  8. http://www.stotfoldmill.com/index.php?pg=opening.php
  9. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-03-09. Cyrchwyd 2012-07-18.
  10.  She's once, twice, three times a lady. Cyngor Sir Bedford.

Dolenni allanol golygu