Capel Moreia, Porthaethwy

capel ym Mhorthaethwy, Ynys Môn

Capel y Bedyddwyr gynt ym Mhorthaethwy, Ynys Môn, oedd Capel Moreia. Fe'i hadeiladwyd ym 1884 yn arddull yr Adfywiad Romanésg, i gynlluniau'r pensaer George Morgan o Gaerfyrddin. Erbyn 1998 roedd adeilad y capel wedi troi'n siop hen bethau.[1] Wedi hynny, fe'i ddefnyddiwyd fel siop ffrwythau a llysiau, er i'r festri/ysgoldy parhau i gael ei ddefnyddio gan y Bedyddwyr, fel addoldy.[2] Dadfeiliodd y capel ac fe'i chwalwyd ym mis Ionawr 2022.

Capel Moreia
Yr adeilad yn 2007
Mathcapel Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadLôn Cilbedlam, Porthaethwy
SirYnys Môn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.22582°N 4.16397°W Edit this on Wikidata
Cod postLL59 5AL Edit this on Wikidata
Map
Arddull pensaernïolpensaernïaeth yr Adfywiad Romanésg Edit this on Wikidata
Statws treftadaethHenebion Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Manylion
Yr adeilad yn 2020
Yr adeilad yn 2020 

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Moreia Welsh Baptist Church (Porthaethwy), Dale Street, Menai Bridge" (yn Saesneg), Coflein (Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru), https://coflein.gov.uk/en/site/8707, adalwyd 30 Tachwedd 2024
  2. Jones, Geraint I. L. (2007), Capeli Môn, Wales: Gwasg Carreg Gwalch, pp. 34, ISBN 1-84527-136-X