Capel y Beirdd
Capel yn Rhoslan, Gwynedd, yw Capel y Beirdd, a sefydlwyd yn 1822 gan y Bedyddwyr Cymreig.[1] Cyfeirnod Grid: SH46994161. Cysylltir y capel â dau o feirdd clasurol Eifionydd yn hanner cyntaf y 19eg ganrif, sef Robert ap Gwilym Ddu o'r Betws Fawr yn Llanystumdwy a'i ddisgybl barddol Dewi Wyn o Eifion, awdur y gyfrol Blodau Arfon.
Math | capel |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Llanystumdwy |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.949707°N 4.277713°W |
Cod post | LL52 0NT |
Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Yr adeilad
golyguCodwyd y capel cyntaf ar y safle yn 1822. Cafodd ei ailadeiladu yn 1874, wedi'i gynllunio gan y pensaer lleol R. Williams. Mae'n adeilad yn yr "arddull talcen crwn elfennol" gyda'r mynediad yn ei dalcen (gable).[1]
Cysylltiadau llenyddol
golyguCafodd ei adnabod fel 'Capel y Beirdd' am fod Robert ap Gwilym Ddu - er nad oedd yn fawr o grefyddwr - a'i ddisgybl barddol Dewi Wyn o Eifion wedi cymryd rhan flaenllaw yn sefydlu'r capel. Daeth yn ganolfan ddiwylliannol yn yr ardal gan ennill enwogrwydd yn Eifionydd, Arfon a Llŷn.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Capel y Beirdd Archifwyd 2016-03-04 yn y Peiriant Wayback ar wefan Coflein.
- ↑ Bedwyr Lewis Jones, 'The Literary Awakening in Arfon and Eifionydd', Atlas of Caernarvonshire (Gwynedd Rural Council, 1977).