Cyfres ddrama gomedi rhamantaidd oedd Cara Fi a ddarlledwyd yn Nhachwedd a Rhagfyr 2014 ar S4C, ac oedd ar gael yn ddiweddarach ar y BBC iPlayer. Creuwyd y gyfres wyth pennod gan Sarah Dollard.[1] Yn 2015 enwebwyd y sioe yng nghwobrau BAFTA Cymru am gynllunio gwisgoedd a cherddoriaeth wreiddiol.[2]

Cara Fi
Genre Drama, Comedi
Ysgrifennwyd gan
Cyfarwyddwyd gan
  • Gareth Bryn
  • Andy Newbery
Serennu
Cyfansoddwr/wyr Richard James
Gwlad/gwladwriaeth Cymru
Iaith/ieithoedd Cymraeg
Nifer cyfresi 1
Nifer penodau 8
Cynhyrchiad
Cynhyrchydd Laura Cotton
Lleoliad(au) Sir Benfro
Amser rhedeg 48 munud
Cwmnïau
cynhyrchu
Touchpaper Wales
Dosbarthwr Zodiak Media
Darllediad
Sianel wreiddiol S4C
Fformat llun 1080i (16:9 HDTV)
Darllediad gwreiddiol 9 Tachwedd 2014 (2014-11-09) – 28 Rhagfyr 2014 (2014-12-28)
Dolenni allanol
Gwefan swyddogol
Proffil IMDb

Pan mae pentref cysglyd ger y môr yn rhedeg allan o fenywod, mae'r bobl leol yn ceisio datrys y broblem drwy hysbysebu dynion sengl ar ochrau cartonau llaeth sy'n gadael y llaethdy. Mae pob pennod yn canolbwyntio ar fenyw newydd sy'n cyrraedd y pentre i gwrdd a un o'r dynion lleol.[3][4][5]

Mae'r cynllun yn syniad i berchennog y dafarn leol Nancy Hopkins (Christine Pritchard), gyda'r amcan o ddod o hyd i wraig i'w mab, Will (Iwan John), fel na fydd yn symud i ffwrdd o Tretarw. Heb yn wybod i Nancy, mae Will yn hoyw.

Mae'r gyfres yn dechrau wrth i ferch sengl Nancy (Rhian Jones), symud yn ôl o'r pentre gyda'i merch eu hunain, Lee (Saran Morgan). Mae Nancy yn benderfynol o aduno Nina gyda'i chariad o'r ysgol, pen-cogydd y dafarn, Vic Reed (Steffan Rhodri). Er mawr poendod i Nancy, mae Nina yn hytrach yn troi ei sylw at y doctor lleol, Brian (Gareth Pierce).[1]

Prif gast

golygu

Penodau

golygu

Cyfres 1 (2014)

golygu
Pennod Teitl Cyfarwyddwyd gan
Ysgrifennwyd gan
Darlledwyd
1"Alys"Gareth BrynSarah Dollard9 Tachwedd 2014 (2014-11-09)
Mae'r perchennog tafarn Nancy Hopkins yn ceisio achub ei phentre drwy hysbysebu dynion sengl ar ochr cartonau llaeth sy'n gadael y llaethdy
2"Sali"Gareth BrynSarah Dollard16 Tachwedd 2014 (2014-11-16)
Mae cynllun Nancy i ailboblogi'r pentre i'w weld yn llwyddo pan mae Sali yn dod i'r pentre, yn edrych am gariad. Yn anffodus, mae Sali yn credu mai sioe deledu realaeth sydd tu ôl i'r cynllun.
3"Manon"Gareth BrynPete McTighe23 Tachwedd 2014 (2014-11-23)
4"Violet"Gareth BrynSarah Dollard30 Tachwedd 2014 (2014-11-30)
Seren wadd - Lisa Jên Brown fel Violet.
5"Carys"Andy NewberySarah Dollard7 Rhagfyr 2014 (2014-12-07)
6"Delyth"Andy NewberyLlinos Mai14 Rhagfyr 2014 (2014-12-14)
Sêr gwadd - Rebecca Harries fel Delyth, Ioan Hefin fel Aled a Gareth Milton a Dan.
7"Megan"Andy NewberySarah Dollard21 Rhagfyr 2014 (2014-12-21)
Sêr gwadd - Lowri Walton fel Megan Gartside.
8"Sion"Andy NewberyPete McTighe28 Rhagfyr 2014 (2014-12-28)
Sêr gwadd - Rhys ap William fel Sion Lawson a Lowri Walton fel Megan Gartside.

Cynhyrchiad

golygu

Lleolir Cara Fi ym mhentre dychmygol Tretarw yn Sir Benfro ond mae trafferthion yr ardal - cynnydd yn y nifer o dai haf a ymadawiad pobl ifanc - yn broblem go iawn sy'n cael ei wynebu gan nifer o bentrefi yng nghefn gwlad Cymru Dywedodd cynhyrchydd y gyfres Laura Cotton, a fagwyd yn yr ardal, fod pwnc y sioe yn agos at ei chalon. "Roeddwn eisiau dod nôl yma a'i gwneud hi yma, lle dwi'n dod o ac i ddangos pa mor anhygoel a phrydferth yw'r ardal", meddai. "Roedden ni'n ymwybodol iawn o beth oedd yn digwydd i bentrefi a threfi bach, fel fy nghartre i yn Trefin, lle mae rhan fwyaf o'r tai nawr yn berchen i ymwelwyr gwyliau".[5]

Dechreuwyd ffilmio ar Cara Fi ger Caerdydd yn Mawrth 2014, gyda saethu yn symud i Little Haven yn Sir Benfro yn Ebrill.[3] Ffilmiwyd yn y Swan Inn, a ail-enwyd Yr Angor ar gyfer y sioe. Dywedodd perchennog y Swan Inn, Paul Morris, fod cast a chriw Cara Fi wedi bod yn ymwelwyr i'w croesawu yn Little Haven, gan roi hwb i'r economi leol.[5]

Fe wnaeth Steffan Rhodri, sy'n fwy adnabyddus am ei rannau yn Gavin and Stacey a Harry Potter and the Deathly Hallows – Part 1, ddweud mai ansawdd y sgript a'i ddenodd i'r rhan. "Be sy yn aml ar goll o gomedi Cymreig yw gwir ffraethineb, a mae gan hwn hynny".[5]

Cynhyrchwyd y gyfres gan Touchpaper Television, a dechreuodd ddarllediad ar S4C yn Nhachwedd 2014 gyda isdeitlau Saesneg, a roedd ar gael yn ddiweddarach ar y BBC iPlayer.

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 Jones, Wendy (3 November 2014). "Win a romantic break inspired by new S4C series Cara Fi". Daily Post. Cyrchwyd 21 November 2014.
  2. http://www.bafta.org/wales/awards/british-academy-cymru-awards/full-list-of-cymru-awards-2015-nominees
  3. 3.0 3.1 "Little Haven is star of new S4C show". Milford and West Wales Mercury. 2 April 2014. Cyrchwyd 9 November 2014.
  4. "Brand new romantic comedy drama on S4C". Tenby Observer. 7 November 2014. Cyrchwyd 9 November 2014.
  5. 5.0 5.1 5.2 5.3 "Fall in love with Little Haven in new S4C rom-com". Western Telegraph. 9 November 2014. Cyrchwyd 22 November 2014.

Dolenni allanol

golygu