Rebecca Harries

actores a aned yn 1966

Actores o Gymraes yw Rebecca Harries (ganwyd 1 Medi 1966)[1]. Mae'n adnabyddus am chwarae Maureen yn Pobol y Cwm a'r cymeriad Sali Mali yn y rhaglen deledu i blant.

Rebecca Harries
GanwydRebecca Wynne Owen Harries Edit this on Wikidata
1 Medi 1966 Edit this on Wikidata
Llandybïe Edit this on Wikidata
Man preswylCaerdydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethactor Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Cafodd ei geni yn Llandybie yn Sir Gaerfyrddin. Roedd ei rhieni ill dau yn athrawon ymarfer corff. Bu'n byw yng Nghaerdydd ac roedd yn bwriadu symud yn ôl i'w ardal enedigol yn 2019.[2]

Gyrfa golygu

Mae'n wyneb adnabyddus ar deledu yng Nghymru ar gynyrchiadau Cymraeg a Saesneg. Mae wedi ymddangos yn Belonging, Con Passionate a Teulu. Wedi cyfweliad yn 1994 cychwynnodd chwarae cymeriad Sali Mali yn rhaglen deledu S4C Caffi Sali Mali.

Yn 2016 roedd yn chwarae rhan y Ceidwadwr Megan Ashford yn y ddrama wleidyddol Byw Celwydd ar S4C.[3] Yn 2019 roedd ganddi rhan yn y ddrama Un Bore Mercher.

Cyfeiriadau golygu

  1.  Dewi Llwyd ar Fore Sul - Rebecca Harries – Gwestai Penblwydd. BBC Radio Cymru (1 Medi 2019).
  2.  Rebecca yw llysgennad y celfyddydau. Pobl Caerdydd (11 Hydref 2014). Adalwyd ar 30 Ionawr 2016.
  3.  Rebecca’n actio ochr arall y geiniog wleidyddol. S4C (22 Ionawr 2016). Adalwyd ar 30 Ionawr 2016.

Dolenni allanol golygu


   Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.