Christine Pritchard

actores o Gymraes

Actores o Gymraes oedd Christine Pritchard (6 Awst 194314 Chwefror 2023).

Christine Pritchard
Ganwyd6 Awst 1943 Edit this on Wikidata
Caernarfon Edit this on Wikidata
Bu farw14 Chwefror 2023 Edit this on Wikidata
Bangor Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar ac addysg

golygu

Ganed a magwyd Christine Owena Pritchard yng Nghaernarfon yn unig blentyn. Dwyieithog oedd yr aelwyd gyda Christine yn siarad Saesneg gyda'i thad a Cymraeg gyda'i mam. Cafodd ei addysg yn Ysgol Syr Hugh Owen, ysgol ramadeg Caernarfon ble magodd ddiddordeb mewn drama, dan arweiniaid yr athro hanes Mr Steven Claridge a Mr Hobson yr athro Saesneg.[1]

Tra yn y chweched cafodd ei derbyn gan Wilbert Lloyd Roberts i ymuno a rep radio'r BBC ym Mangor.[2]

Aeth ymlaen i astudio yn y brifysgol ym Mryste, gan ennill gradd mewn Saesneg, Lladin a Drama. Yn dilyn ei gradd aeth yn ei blaen i wneud blwyddyn tystysgrif dysgu cyn gwirfoddoli fel athrawes ar ynys Sant Kitts ble bu'n dysgu Saesneg a Ffrangeg. Dychwelodd i weithio fel athrawes yn ardal Putney, Llundain. Tra'n gweithio yno cafodd flas ar gynhyrchu dramau.

Yn 1969 cafodd gyfweliad llwyddiannus gyda Chwmni Theatr Cymru, a newidiodd gyrfa i fod yn actores.

Rôl cyntaf Christine fel rhan o Gwmni Theatr Cymru oedd y brif ran yn y ddrama Roedd Caterina o Gwmpas Ddoe gan gymryd drosodd o Gaynor Morgan Rees.[3]

Ar ddechrau'r 1970au camodd o'r llwyfan i'r sgrîn fach, gan ymddangos ar gyfresi fel Glas y Dorlan. Yn yr 1980au chwaraeodd gymeriad Ruth Gregory yn Dinas. Yn y 1990au chwaraeodd rhan y prif gymeriad yn Rala Rwdins a Pobol y Cwm lle bu'n chwarae rhan Laura Metcalfe.

Yn fwy diweddar roedd ganddi rannau ar ddramau megis Anita, Deian a Loli, 35 Awr ac Un Bore Mercher.

Roedd yn adnabyddus i gynulleidfaoedd di-Gymraeg hefyd, gan ymddangos ar gyfresi Saesneg fel Tourist Trap, Doctors, Stella ac Indian Doctor.[4]

Ffilmyddiaeth

golygu
Teitl Blwyddyn Rhan Cwmni Cynhyrchu Nodiadau
Y Rhandir Mwyn 1973 Dorti BBC Cymru
Enoc Huws 1974 Susi Trefor BBC Cymru
Pobol y Cwm 1976 Catherine Rowlands BBC Cymru
Sianel 5 1976 Cymeriadau Amrywiol BBC Cymru
Glas y Dorlan 1978-1985 Beti Davies BBC Cymru Cyfres 2-5
Taff Acre 1981 Dilys Mainwaring
Newydd Bob Nos / Night Beat News 1982-1984 Freda Phillips W.P. Productions ar gyfer S4C/Channel 4
Diar Diar Doctor 1983
The Magnificent Evans 1984 Maggie
The District Nurse 1984 Miss Rhees BBC Cymru
Dinas 1985-1991 Ruth Gregory HTV
Siôn Blewyn Coch 1986 Sera Jones Siriol Productions Llais
Yr Ŵy Pasg 1987 Sera Jones

Cyw Estrys

Siriol Productions Llais
Cariad Cyntaf 1988 Sera Jones Siriol Productions Llais
Rhith y Lloer 1989 MME. Fourcy BBC Cymru
Yr Injan Fach Fentrus 1991 Llais
Pris y Farchnad
Y Dywysoges a'r Bwgan 1992 Loti Siriol Productions a Pannonia Llais
Screen One 1993 Cheryl Yeoman
Dial 1994 Margaret Hughes Pendefig
Pobol y Cwm 1994, 1996, 1999 Laura Metcalfe BBC Cymru
Rala Rwdins 1995-1997 Rala Rwdins Teledu Elidir
Double Exposure: Relative Stranger 1996 Dr. Edwards BBC Cymru
Cameleon 1997 Cassandra (Cassie) Bowen Elidir / S4C
Y Ferch Dawel 1997 Ffilmiau Llifon
Yr Eneth Fwyn 1997 Modryb Pulceria BBC Cymru
Talcen Caled 2001 Morfudd Ffilmiau'r Nant Cyfres 3
Porc Peis Bach 2001 Sister Gwyneth Cambrensis
Treflan 2002 Mrs Amos Alfresco
Facing Demons 2002 Mrs Lawrence BBC Wales
A Way of Life 2004 Matron
O Na! Y Morgans 2004-2006 Rusty-O Na! Apollo
Sabrina 2005 Atsain Llais
Y Pris 2007 Fiction Factory
Cwcw 2008 Fondue
Stella 2010-2012 Nana Cymru Tidy Productions
Cofio Ceredig 2011 Cyfranwr
Pobol y Cwm 2013 Shirley BBC Cymru Pennod nadolig
Indian Doctor 2013 Mrs Daniels Rondo ar gyfer BBC
Chwilio am Mary 2013 Adroddwr Lumedia ar gyfer S4C
Ysbytu 2014 Gloria Boomerang ar gyfer S4C
Cara Fi 2014 Nansi Hopkins Touchpaper TV
Doctors 2015 Dr Bethany Coulson BBC
Anita 2016-2017 Vivian Boom Cymru
Deian a Loli Nain Botwnnog Cwmni Da
Down the Caravan 2017 Maisy Happy Campers Productions
Tourist Trap 2018 Liz The Comedy Unit
35 Awr 2019 Moira Boom Cymru
Right Now 2019 Mam
Cyswllt (Mewn COVID) 2020 Eirlys Vox Pictures
Un Bore Mercher 2020 Yr Athro Wyn Vox Pictures Cyfres 3
Ffilmyddiaeth o Spotlight[5]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Beti a'i Phobol: 15 Mai 1986
  2. Beti a'i Phobol: 20 Mehefin 1993
  3. Morgan, S 2012, Hanes Rhyw Gymraes, Y Lolfa. ISBN: 1847715478, 9781847715470
  4. Yr actores Christine Pritchard wedi marw yn 79 oed , BBC Cymru Fyw, 14 Chwefror 2023.
  5.  Spotlight Spotlight - Christine Pritchard.

Dolenni allanol

golygu