Carbonadu
Proses lle mae carbon deuocsid yn cael ei hydoddi mewn dŵr neu hydoddiant dyfrllyd arall yw carbonadu. Y broses hon sy'n achosi i ddŵr carbonedig, a dŵr mwynol pefriol i "sïo", yn achosi ewyn ar gwrw, sy'n rhoi swigod ac yn achosi i gorcyn bopian allan o botel champagne a gwinoedd pefriol eraill.
Math | paratoi bwyd a diod, dissolution |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Eferw
golyguDihangiad nwy o hydoddiant dyfrllyd yw eferw. Defnyddir y term i ddisgrifio canlyniadau ewynnu neu sïo a achosir gan ryddhad y nwy. Enghraifft cyffredin o eferw mewn labordy yw ategu asid hydroclorig at ddarn o carreg galch. Os rhoddir darnau o farmor neu dabled gwrth-asid mewn asid hydroclorig mewn tiwb arbrofi gyda corcyn, gall weld eferw carbon deuocsid.
Adwaith cemegol arall sy'n cynhyrchu nwy yw adwaith sodiwm bicarbonad gyda asid, er enghraifft mewn tabledi brand Alka-Seltzer a ddefnyddir i drin diffyg traul. Yr adwaith cemegol hanfodol yw:
Cynrychiolir y broses o swigod carbon deuocsid yn dianc yn gyffredinol gyda'r adwaith canlynol, lle mae hydoddiant gwanedig gwasgeddedig o asid carbonig yn y dŵr yn rhyddhau carbon deuocsid nwyol o dan datgywasgiad:
Yn nhermau syml, mae hyn yn ganlyniad o'r broses cemegol sy'n digwydd yn yr hylif gan gynhyrchu nwy.