Carbonara
Pryd o fwyd Rhufeinig[1][2] o basta, wyau, caws caled, guanciale (neu pancetta) a phupur du yw carbonara. Cafwyd ffurf fodern y rysáit, yn ogystal â'i henw bresennol, erbyn canol yr 20g[3]
Enghraifft o'r canlynol | saig |
---|---|
Math | spaghetti |
Label brodorol | Pasta alla carbonara |
Gwlad | yr Eidal, Unol Daleithiau America |
Yn cynnwys | wy, spaghetti, guanciale, Pecorino, halen, pupur |
Enw brodorol | Pasta alla carbonara |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Caws Pecorino Romano, neu weithiau Parmigiano-Reggiano neu gyfuniad o'r ddau, sy'n arferol[1][4] a sbageti yw'r pasta mwyaf cyffredin, ond defynyddir fettuccine, rigatoni, linguine neu bucatini hefyd. Gellir defnyddio guanciale neu pancetta fel y cig, ond bydd pobl y tu allan o'r Eidal yn aml yn cynnwys darnau bach o facwn wedi'i gochi yn eu lle.
Paratoad
golyguBerwir y pasta mewn dŵr gweddol hallt. Caiff y guanciale ei ffrio mewn padell yn ei saim ei hun.[4] Cymysgir wyau (neu felynwy) amrwd, caws wedi'i gratio a chryn dipyn o bupur du gyda'r pasta poeth naill yn y sosban neu mewn dysgl, ond heb gwres o dano er mwyn osgoi ceulo'r wy.[2] Wedyn, caiff y guanciale ei ychwanegu a'r cymysgedd cyfan ei droi, sydd yn creu saws hufennog, bras a darnau o gig trwyddo.[1][3][4][5] Er y gall pasta siapiau gwahanol gael eu defnyddio, dim ond ar basta â chyfradd arwynebedd-i-gyfaint digon mawr y caiff yr wy amrwd ei goginio'n iawn, megis gyda fettucine, linguine neu sbageti.
Guanciale yw'r cig mwyaf cyffredin yn y pryd hwn yn yr Eidal, ond defnyddir pancetta plaen neu wedi'i chochi hefyd,[4][6][7] ac mewn gwledydd Saesneg eu hiaith, defnyddir bacwn yn aml.[8][9] Pecorino Romano, neu weithiau Parmesan, yw'r caws arferol.[10][11] Mae ryseitiau gwahanol yn defnyddio wyau cyfan, y melynwy yn unig neu gyfuniad o'r ddau.[12]
Amrywiadau
golyguMae gan rai ryseitiau fwy o saws ac felly maent yn defnyddio pasta siâp tiwb, fel penne, sy'n well am ddal sawsiau.[4][13]
Nid oes hufen yn y rhan fwyaf o ryseitiau Eidalaidd,[14][15][15] er bod eithriadau i hyn,[6][7] ond caiff hufen ei gynnwys mewn llawer o wledydd eraill.[8][16] Yn yr un modd, ceir garlleg ynddi weithiau mewn gwledydd eraill.[4][17]
Mae sawl amrywiad ar garbonara y tu allan i'r Eidal, sy'n cynnwys pys, brocoli, brocolini, cennin, llysiau eraill a/neu fadarch,[16] a rhai sy'n defnyddio cig fel ham neu coppa yn lle'r guanciale neu'r pancetta mwy bras.[18]
Gwreiddiau a hanes
golyguYn debyg i lawer o ryseitiau, nid yw gwreiddiau'r pryd o fwyd hwn yn glir.
Mae'n rhan o deulu o seigiau sy'n rhoi pasta gyda bacwn, caws a phupur. Pasta alla gricia yw un arall ohonynt. Mae carbonara yn debyg iawn i pasta cacio e uova, pryd o basta gyda chymysgedd o wyau a chaws a dresin o floneg a gafodd ei gofnodi y tro cyntaf yn 1839. Yn ôl rhai ymchwilwyr ac Eidalwyr hŷn, hwn oedd yr enw ar garbonara cyn yr Ail Ryfel Byd.[4]
Cynigir nifer o ddamcaniaethau dros darddiad yr enw carbonara, sydd yn fyw diweddar na'r rysáit ei hun, mae'n debyg.[4] Gan fod yr enw yn dod o carbonaro (y gair Eidaleg am losgwr golosg) cred rhai fod y saig hwn yn cael ei wneud yn wreiddiol fel pryd o fwyd sylweddol i weithwyr golosg yn yr Eidal.[1] Mewn rhannau o'r Unol Daleithiau, arweiniodd y gred hon at y term "sbageti glowyr" (Saesneg: "coal miner's spaghetti"). Awgrymwyd hyd yn oed iddo gael ei greu fel teyrnged i gymdeithas gudd y Carbonari ("golosgwyr") a oedd yn weithgar yng nghyfnodau cynnar gorthrymedig uno'r Eidal yn gynnar yn y 19eg ganrif.[19] Mae'n debycach mai "pryd dinesig" o Rufain yw carbonara,[20] wedi'i wneud yn boblogaidd gan dŷ bwyta yn Rhufain o'r un enw.[20][21]
Nid oes cofnod o'r enwau pasta alla carbonara na spaghetti alla carbonara cyn yr Ail Ryfel Byd; yn fwyaf nodedig yn llyfr Ada Boni La Cucina Romana ("Coginio Rhufeinig") yn 1930. Gwelir yr enw carbonara gyntaf ym mhapur newydd Eidalaidd La Stampa fel pryd a oedd yn ffefryn gan y swyddogion Americanaidd ar ôl i luoedd y Cynghreiriaid ryddau Rhufain yn 1944.[22] Roedd yn cael ei ddisgrifio fel "pryd Rhufeinig" ar adeg pan oedd llawer o Eidalwyr yn bwyta wyau a bacwn gan y lluoedd o'r Unol Daleithiau.[20] Yn 1954, cafodd ei gynnwys yn Italian Food gan Elizabeth David, llyfr coginio Saesneg a gyhoeddwyd ym Mhrydain.[23]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 Gosetti della Salda, Anna (1967). Le Ricette Regionali Italiane (yn Italian). Milan: Solares. t. 696. ISBN 978-88-900219-0-9.CS1 maint: unrecognized language (link)
- ↑ 2.0 2.1 Carnacina, Luigi; Buonassisi, Vincenzo (1975). Roma in Cucina (yn Italian). Milan: Giunti Martello. t. 91. OCLC 14086124.CS1 maint: unrecognized language (link)
- ↑ 3.0 3.1 Alberini, Massimo; Mistretta, Giorgio (1984). Guida all'Italia gastronomica (yn Italian). Touring Club Italiano. t. 286. OCLC 14164964.CS1 maint: unrecognized language (link)
- ↑ 4.0 4.1 4.2 4.3 4.4 4.5 4.6 4.7 Buccini, Antony F. (2007). Hosking Richard (gol.). On Spaghetti alla Carbonara and related Dishes of Central and Southern Italy. Eggs in Cookery: Proceedings of the Oxford Symposium of Food and Cookery 2006. Oxford Symposium. tt. 36–47. ISBN 9781903018545.
- ↑ Ricettario Nazionale delle Cucine Regionali Italiane. Accademia Italiana della Cucina.
- ↑ 6.0 6.1 Carnacina, Luigi; Veronelli, Luigi (1977). "Vol. 2, Italia Centrale". La cucina Rustica Regionale. Rizzoli. OCLC 797623404. republication of La Buona Vera Cucina Italiana, 1966.
- ↑ 7.0 7.1 Buonassisi, Vincenzo (1985). Il Nuovo Codice della Pasta. Rizzoli.
- ↑ 8.0 8.1 Herbst, Sharon Tyler; Herbst, Ron (2007). "alla Carbonara". The New Food Lover's Companion, Fourth Edition. Barron's Educational Series. ISBN 0-7641-3577-5.
- ↑ "Fettucine Carbonara". Better Homes and Gardens. Yahoo!7 Food.
- ↑ Contaldo, Gennaro (2015). Jamie’s Food Tube: The Pasta Book. Penguin UK.
- ↑ Carluccio Antonio (2011). 100 Pasta Recipes (My Kitchen Table). BBC Books.
- ↑ "Spaghetti Carbonara Recipe". italianpastarecipes.it. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-08-11. Cyrchwyd 2019-07-18.
- ↑ Perry, Neil; Carter, Earl; Fairlie-Cuninghame, Sue (2006). The Food I Love: Beautiful, Simple Food to Cook at Home. Simon and Schuster. t. 114. ISBN 978-0-7432-9245-0.
- ↑ Carluccio, Antonio (2002). "Spaghetti alla Carbonara". Antonio Carluccio's Southern Italian Feast. BBC Worldwide. ISBN 0563551879.
- ↑ 15.0 15.1 "Spaghetti alla Carbonara (all'uso di Roma)". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-09-10. Cyrchwyd 2016-08-28. Unknown parameter
|dead-url=
ignored (help) - ↑ 16.0 16.1 Labensky, Sarah R; House, Alan M. (2003). On Cooking, Third Edition: Techniques from expert chefs. Pearson Education, Inc. ISBN 0-13-045241-6.
- ↑ Oliver, Jamie (2016). "Gennaro's classic spaghetti carbonara".
- ↑ Cloake, Felicity (9 May 2012). "How to cook the perfect spaghetti carbonara". The Guardian. Cyrchwyd 14 May 2019.
- ↑ Mariani, Galina; Tedeschi, Laura (2000). The Italian-American cookbook: a feast of food from a great American cooking tradition. Harvard Common. tt. 140–41. ISBN 978-1-55832-166-3.
- ↑ 20.0 20.1 20.2 "Myths" in Gillian Riley, The Oxford Companion to Italian Food, 2007, ISBN 0-19-860617-6, p. 342
- ↑ Russo, Andrea. "La Carbonara, una storia di famiglia" (yn Italian). La Carbonara. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-26.CS1 maint: unrecognized language (link)
- ↑ "La Stampa - Consultazione Archivio". archiviolastampa.it.
- ↑ David, Elizabeth (1954). Italian Food. Great Britain: Macdonald.
Llyfryddiaeth
golygu- Antony F. Buccini (2007). Richard Hosking (gol.). On Spaghetti alla Carbonara and related Dishes of Central and Southern Italy. Eggs in Cookery: Proceedings of the Oxford Symposium of Food and Cookery 2006. Oxford Symposium. tt. 36–47. ISBN 9781903018545.