Carl Panzram
Troseddwr hynod o ddrwg-enwog o'r Unol Daleithiau oedd Carl Panzram (28 Mehefin 1891 – 5 Medi 1930). Roedd yn llofrudd cyfresol ac un o'r treiswyr toreithiocaf yn hanes yr Unol Daleithiau. Credir iddo ladd 21 o bobl a sodomeiddio rhyw 1000 o bobl.
Carl Panzram | |
---|---|
Gweplun Carl Panzram o 1915 | |
Ganwyd | 28 Mehefin 1891 East Grand Forks, Minnesota |
Bu farw | 5 Medi 1930 United States Penitentiary, Leavenworth |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Galwedigaeth | llofrudd cyfresol |
Bywyd cynnar
golyguGaned Carl Panzram ar 28 Mehefin 1891 yn East Grand Forks, Minnesota,[1] yn fab i fewnfudwyr o Brwsia.[2] Cafodd ei arestio am y tro cyntaf yn 8 oed, am fod yn feddw ac afreolus.[3] Treuliodd ran fawr o'i ieuenctid mewn cyweirdai ac yn derbyn cosbau creulon. Wedi iddo ddwyn oddi ar gymydog yn 11 oed, aeth i Ysgol Hyfforddi Daleithiol Minnesota ac yno cafodd ei gamdrin yn gorfforol ac yn rhywiol.[1] Yn 12 oed, fe rodd yr ysgol hyfforddi ar dân gan achosi $100,000 o ddifrod.[2] Ar ddechrau ei arddegau, gadawodd Panzram ei deulu i deithio ar draws gogledd-orllewin yr Unol Daleithiau. Ym 1905 fe'i cafwyd yn euog o ladrad a'i anfonwyd i Ysgol Benyd Daleithiol Montana,[1] ac yno cafodd ei bastynnu ar ei gefn, coesau, a phen-ôl gyda bat pêl-fas.[3] Fe'i rhyddhawyd ar barôl dan warchodaeth ei fam ym 1906, ond aeth ar ffo unwaith eto.[2]
Teithiau a throseddau
golyguYmunodd Panzram â'r Fyddin pan oedd yn feddw, ond nid oedd yn filwr hawdd ei ddisgyblu. Ymhen fawr, yn Ebrill 1907, fe'i cafwyd yn euog yn y llys milwrol o ladrata eiddo'r llywodraeth a fe'i dedfrydwyd i Garchar Fort Leavenworth, Kansas, am 37 mis.[2] Yno, clymwyd ei freichiau a'i frest mewn cadwyni a chafodd ei hongian o'r nenfwd am oriau. Erbyn iddo fwrw ei holl ddedfryd yn Fort Leavenworth ym 1910, meddai Panzram, "All the good that may have been in me had been kicked and beaten out of me long before".[3] Yn nechrau'r 1910au cafodd waith yn warchodwr rheilffyrdd ac yn dorrwr streic cyn iddo groesi'r ffin ddeheuol ac ymuno â Lleng Dramor y Fyddin Gyfansoddiadol yn ystod Chwyldro Mecsico. Dychwelodd i'r Unol Daleithiau ar ôl ychydig wythnosau yn unig, a chychwynnodd ar gyfnod hir o ladrata, sodomeiddio, a llofruddio.[1] Er iddo gael ei ddal a'i garcharu eto yn Oregon a Montana, llwyddodd i ddianc tro ar ôl tro. Yng Ngharchar Taleithiol Oregon fe'i cadwynwyd wrth y wal, yn noeth, a'i chwistrellu â'r bibell ddŵr gyda chymaint o bwysedd nes iddo gael llygaid duon, organau cenhedlu chwyddedig, a chleisiau ar draws ei gorff. Yn Oregon hefyd cafodd ei arteithio drwy ddull "aderyn y si": cadwyno'i dwylo a'i draed er mwyn ei drochi mewn twb dur llawn dŵr, a'i golchi â sbwnj gyda gwefr drydanol o fatri.[3]
Aeth Panzram i'r dwyrain a chafodd gerdyn adnabod er mwyn gweithio yn forwr ar long y James S. Whitney i gwmni'r Grace Line. Teithiodd i Banama, ac oddi yno i Beriw i gloddio copr, i Tsile. Yn ôl ym Mhanama, cafodd waith yn ben-lafurwr i Adran Amddiffynfeydd yr Unol Daleithiau yn Ardal Camlas Panama, ac yn ddiweddarach gweithiodd i gwmni olew Sinclair. Aeth ar fordaith i'r Alban ym 1919, a chafodd ei garcharu yno hefyd cyn crwydro Ewrop a dychwelyd i'r Unol Daleithiau. Honnai Panzram iddo dorri i mewn i dŷ yr Arlywydd William Howard Taft yn Connecticut a dwyn digon iddo allu fforddio iot ei hun.[1] Perswadiodd ddeg o forwyr i deithio ar ei iot, gan addo alcohol iddynt, ac ar y môr cawsant eu drygio, eu treisio, a'u llofruddio gan Panzram.[2] Wedi iddo daflu'r cyrff i'r môr a dryllio'r cwch, teithiodd Panzram i Ewrop unwaith eto ac oddi yno i Affrica. Yn ôl efe, huriodd wyth o ddynion croenddu yn Lobito, Gorllewin Affrica Bortiwgalaidd (Angola), i hela am grocodeiliaid. Cawsant eu lladd gan Panzram, a sodomeiddiodd eu cyrff cyn eu bwydo i'r crocodeiliaid.[1][2] Gweithiodd eto i gwmni olew Sinclair yn y Congo cyn dychwelyd i'r Unol Daleithiau o'r diwedd ym 1922. Treuliodd gyfnodau yng ngharchardai Sing Sing, ger Dinas Efrog Newydd, a Dannemora ym mhen ucha Talaith Efrog Newydd.[1] Honnai Panzram iddo lindagu menyw yn farw "am hwyl" yn Kingston, Efrog Newydd, ym Mehefin 1926.[2]
Ei lofruddiaeth olaf a'i ddienyddiad
golygu"In my lifetime I have murdered 21 human beings, I have committed thousands of burglaries, robberies, larcenies, arsons and last but not least I have committed sodomy on more than 1,000 male human beings. For all these things I am not in the least bit sorry."[2]
Ar 16 Awst 1928 arestiwyd Panzram am ysbeilio sawl tŷ yn Washington, D.C. Fe'i cafwyd yn euog o fyrgleriaeth a'i dedfrydu i 20 mlynedd yn y carchar.[2] Yng Ngwallgofdy a Charchar Washington cyfarfu â gwarchodwr o'r enw Henry Lesser. Ar anogaeth Lesser, ysgrifennai Panzram ei hunangofiant, a gafodd ei smyglo allan o'r carchar, ychydig o dudalennau ar y tro, gan Lesser. Yn ddiweddarach, trosglwyddwyd Panzram i Fort Leavenworth i fwrw ei ddedfryd o 25 mlynedd, ac oddi yno fe barhaodd i ohebu â Lesser.[1] Yn Fort Leavenworth, ar 20 Mehefin 1929, lladdodd ei ddyn olaf—Robert Warnke, fforman golchdy'r carchar, a gafodd ei guro yn y pen gan Panzram—a derbyniodd ddedfryd marwolaeth am y llofruddiaeth. Dyma'r unig lofruddiaeth a gafwyd Panzram yn euog ohoni. Ymgyrchodd y Gymdeithas dros Ddiddymu'r Gosb Eithaf dros newid ei ddedfryd, gan ddadlau bod camdriniaeth Panzram yn y gyfundrefn gyfiawnder yn lliniaru ei droseddau. Gwylltiwyd Panzram, a ysgrifennai at yr Arlywydd Herbert Hoover i fynnu ei hawl cyfansoddiadol i dderbyn ei gosb. Meddai am y diwygwyr a oedd yn ymgyrchu drosto: "I wish you all had one neck, and I had my hands on it...I believe the only way to reform people is to kill them".[3] Aeth Panzram i'r crocben ar 5 Medi 1930. Gofynnodd y crogwr iddo am ei eiriau olaf, ac ymatebodd Panzram, "Yes, hurry it up, you Hoosier bastard! I could hang a dozen men while you're fooling around!" Poerodd at y crogwr dwywaith cyn i'r trapddor agor.[3] Cyhoeddwyd rhannau o hunangofiant Panzram o'r diwedd yn y gyfrol Killer: A Journal of Murder ym 1970.
Gweler hefyd
golygu- Carl Panzram: The Spirit of Hatred and Vengeance, ffilm ddogfen o 2011
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 1.6 1.7 (Saesneg) "Panzram, Carl (1892-1930) Archifwyd 2021-04-27 yn y Peiriant Wayback", Prifysgol Daleithiol San Diego. Adalwyd ar 27 Ebrill 2021.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 2.5 2.6 2.7 2.8 Michael Newton, The Encyclopedia of Serial Killers, ail argraffiad (Efrog Newydd: Facts On File, 2006), t. 206.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 3.3 3.4 3.5 Carl Sifakis, The Encyclopedia of American Crime: Volume II, ail argraffiad (Efrog Newydd: Facts On File, 2001), t. 681.