Alun Davies

gwleidydd Cymreig ac Aelod o'r Cynulliad
(Ailgyfeiriad o Alun Davies (politician))

Gwleidydd Cymreig, ac aelod o'r Blaid Lafur, yw Alun Davies (ganed 12 Chwefror 1964). Mae'n Aelod o'r Senedd ers 2007. Mae'n cynrychioli etholaeth Blaenau Gwent ers 2011. Cyn hynny roedd yn cynrychioli Ranbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru rhwng 2007 hyd 2011. Rhwng 19 Ionawr 2021 a 23 Chwefror 2021 cafodd ei wahardd o'r Grŵp Llafur yn y Senedd wrth aros am ganlyniad ymchwiliad (yn ymwneud gyda thoriad mewn rheoliadau COVID).

Alun Davies
AS
Ysgrifennydd Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus
Mewn swydd
3 Tachwedd 2017 – 13 Rhagfyr 2018
Prif WeinidogCarwyn Jones
Rhagflaenwyd ganCarl Sargeant
Dilynwyd ganJulie James
Aelod o'r Senedd
dros Blaenau Gwent
Deiliad
Cychwyn y swydd
5 Mai 2011
Rhagflaenwyd ganTrish Law
Mwyafrif650 (3.1%)
Aelod Cynulliad
dros Ranbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru
Mewn swydd
3 Mai 2007 – 5 Mai 2011
Rhagflaenwyd ganGlyn Davies
Dilynwyd ganRebecca Evans
Manylion personol
Ganwyd (1964-02-12) 12 Chwefror 1964 (60 oed)
Tredegar, Sir Fynwy
Plaid wleidyddolLlafur Cymru & Cydweithredol 2002-presennol Plaid Cymru 1990-2002[1]
PriodAnna McMorrin
Alma materPrifysgol Aberystwyth
GwaithYmgynghorydd cysylltiadau cyhoeddus, dyn busnes a gwleidydd
GwefanBlog Personol

Gyrfa wleidyddol golygu

Roedd Alun Davies yn Weinidog Adnoddau Naturiol a Bwyd o Fawrth 2013 hyd at Orffennaf 2014. Cafodd ei ddiswyddo ar 8fed Gorffennaf wedi iddo wneud cais i wybod am daliadau PAC i bum Aelodau Cynulliad y gwrthbleidiau.[2] Dim ond wythnos yn gynharach, roedd Mr Davies wedi medru cadw ei swydd er iddo dorri'r Cod Ymddygiad Gweinidogol.[3] Cafodd Carwyn Jones, y prif weinidog ac arweinwr y blaid Lafur ar y pryd, hefyd ei feirniadu am beidio disgyblu'r gweinidog.[4]

Yn 2016 penodwyd Davies yn Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes lle roedd yn gyfrifol am strategaeth newydd i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg ac ail-drefnu y drefn addysg i ddysgwyr.

Ar 2 Tachwedd 2017, apwyntiwyd Davies yn Ysgrifennydd dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus.[5] Gadawodd y cabinet eto yn Rhagfyr 2018 yn dilyn ail-drefnu gan y Prif Weinidog newydd Mark Drakeford.[6]

Cafodd ei wahardd o'r grŵp Llafur Cymreig yn y Senedd ar 19 Ionawr 2020 ar ôl honnir iddo ymwneud ag yfed alcohol ar ystâd y Senedd, a allai o ganlyniad fod wedi torri cyfyngiadau COVID. Digwyddodd y digwyddiad ar 8 Rhagfyr 2020 pan wnaeth Alun Davies cyfarfod ag aelodau ceidwadol Paul Davies, Darren Millar a Nick Ramsay dros alcohol yn ystafell te yn Nhŷ Hywel i geisio cael cefnogaeth ar ei Fil, Mesur Calonnau Cymru. Dywedodd Comisiwn y Senedd ei fod yn ymchwilio i'r digwyddiad a allai "fod wedi bod yn groes i reoliadau iechyd cyhoeddus". Cyflwynodd Llywodraeth Cymru reoliadau COVID-19 ar 4 Rhagfyr 2020, pan waharddwyd gwerthu alcohol mewn adeiladau trwyddedig. Adeg yr ataliad dywedodd Alun Davies ei fod yn ddrwg ganddo pe bai'r digwyddiad dan sylw yn rhoi'r argraff nad oedd yn cynnal y rheoliadau, ond dywedodd fod "Comisiwn y Senedd eisoes wedi cadarnhau i mi yn barod nad oeddwn wedi torri rheolau coronafeirws o ran bwyd ac alcohol oedd mewn grym ar y pryd."[7]

Ail-dderbyniwyd Alun Davies i grŵp Llafur Cymru yn y Senedd ar 23 Chwefror 2021, gan sefyll dros y blaid yn etholiad Senedd 2021 dros ei etholaeth.[8]

Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Rhagflaenydd:
Glyn Davies
Aelod Cynulliad dros Ranbarth Canol De Cymru
20072011
Olynydd:
Rebecca Evans
Rhagflaenydd:
Trish Law
Aelod o'r Senedd dros Flaenau Gwent
2011
Olynydd:
deiliad

Cyfeiriadau golygu

  1. "Member Profile". National Assembly for Wales.
  2. "Alun Davies wedi cael ei ddiswyddo". Golwg360. 8 Gorffennaf 2014. Cyrchwyd 8 Gorffennaf 2014.
  3. "Alun Davies wedi torri cod ymddygiad gweinidogol". Golwg360. 8 Gorffennaf 2014. Cyrchwyd 8 Gorffennaf 2014.
  4. "Cyhuddo Carwyn o geisio claddu stori Alun Davies". Golwg360. 8 Gorffennaf 2014. Cyrchwyd 8 Gorffennaf 2014.
  5. "Ex-Plaid leader is made culture minister". BBC News (yn Saesneg). 2017-11-03. Cyrchwyd 2017-11-03.
  6. "Wales' new first minister Mark Drakeford appoints his team". BBC News (yn Saesneg). 2018-12-13. Cyrchwyd 2018-12-13.
  7. "ASau wedi yfed yn y Senedd ar ôl gwaharddiad Covid-19". BBC Cymru Fyw. 2021-01-19. Cyrchwyd 2021-01-19.
  8. "Alun Davies yn ailymuno â grŵp Llafur wedi ffrae yfed". BBC Cymru Fyw. 2021-02-23. Cyrchwyd 2021-02-23.



   Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.