Carole Lombard

actores

Actores ffilm Americanaidd oedd Carole Lombard (Jane Alice Peters; 6 Hydref 190816 Ionawr 1942) sydd yn nodedig am ei pherfformiadau egnïol mewn ffilmiau comedi yn oes aur Hollywood. Serennai hi mewn nifer o luniau mwyaf poblogaidd y 1930au, yn enwedig yn genre'r ffilm gomedi screwball, gan gyfuno ceinder ac phrydferthwch y brif actores â nodweddion chwareus ac hynod ei chymeriadau digrif. Cafodd ei henwebu am Wobr yr Academi am ei rhan yn My Man Godfrey (1936), a bu'n briod ddwywaith, i'r actorion amlwg William Powell a Clark Gable.

Carole Lombard
Llun cyhoeddusrwydd o Carole Lombard (Gorffennaf 1935).
GanwydJane Alice Peters Edit this on Wikidata
6 Hydref 1908 Edit this on Wikidata
Fort Wayne, Indiana Edit this on Wikidata
Bu farw16 Ionawr 1942 Edit this on Wikidata
Nevada Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Alma mater
  • Fairfax High School
  • Ysgol Uwchradd Hollywood Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor ffilm Edit this on Wikidata
TadFrederic C. Peters Edit this on Wikidata
MamElizabeth Knight Edit this on Wikidata
PriodWilliam Powell, Clark Gable Edit this on Wikidata
PerthnasauWilliam David Powell Edit this on Wikidata
Gwobr/auseren ar Rodfa Enwogion Hollywood Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://carolelombard.org/ Edit this on Wikidata

Ganed Jane Alice Peters yn Fort Wayne, Indiana, Unol Daleithiau America, i Frederic Peters ac Elizabeth Knight Peters. Cafodd ei magu yn Los Angeles, Califfornia, gan ei mam, a derbyniodd hyfforddiant mewn actio a dawnsio. Ei pherfformiad cyntaf ar y sgrin loyw, dan ei henw genedigol, oedd yn y ffilm fud A Perfect Crime (1921)—sydd bellach ar goll, mae'n debyg—pan oedd yn 12 oed. Gadawodd yr ysgol yn 15 oed, ac ymddangosai mewn sawl ffilm arall mewn mân-rannau neu yn rhodiwr, heb ei henw ar y glodrestr, cyn iddi dderbyn ei rhan gyntaf dan yr enw llwyfan Carol Lombard (heb yr "e") yn Marriage in Transit (1925). Perfformiodd mewn rhyw ugain o luniau mud eraill yn y 1920au, gan amlaf yn actores ategol mewn comedïau byrion a gynhyrchwyd gan Mack Sennett, brenin y slapstic.

Ym 1930 newidiodd sillafiad ei henw proffesiynol i Carole Lombard, ac arwyddodd gontract am saith mlynedd gyda Paramount Pictures.[1] Dechreuodd ymddangos mewn rhannau amlycach mewn ffilmiau mawr, gan gynnwys Fast and Loose (1930), It Pays to Advertise (1931), a From Hell to Heaven (1933). Yn y cyfnod hwn, cydserennai â'i gwŷr i fod mewn tair ffilm: Man of the World (1931) a Ladies' Man (1931) gyda William Powell, a No Man of Her Own (1932) gyda Clark Gable. Ymddangosodd hefyd mewn ambell gynhyrchiad o Columbia Pictures, er enghraifft y gomedi ramant No More Orchids (1932). Ei thro a'i gwnaeth yn enwog oedd Twentieth Century (1934), un o'r comedïau screwball cyntaf, a gyfarwyddwyd gan Howard Hawks. Yn y llun hwnnw, mae Lombard yn portreadu model sydd yn dod yn actores Broadway o fri gyda chymorth ei chariad a chyfarwyddwr, a bortreadir gan John Barrymore. Er nad oedd yn llwyddiant ariannol, byddai'r ffilm yn sefydlu priodoleddau'r arddull screwball—er enghraifft, yr ymddiddan ffraeth a chomedi gorfforol amserol sydd yn nodweddu perthynas y cariadon—ac yn gyfrwng i Lombard bortreadu'r archdeip dwyrannol sydd yn diffinio'i gyrfa: merch hardd ac hudolus, ond hefyd yn hwyliog ac hoedennaidd.

Cafodd Lombard ei henwebu am Wobr yr Academi am yr Actores Orau am ei pherfformiad yn My Man Godfrey (1936), ffars am gylchoedd uchaf cymdeithas a ystyrir yn un o'r esiamplau gwychaf o genre y gomedi screwball. Honno oedd ei thrydedd ffilm gyda William Powell, a oedd bellach yn gyn-ŵr iddi. Byddai'n serennu mewn rhannau tebyg yn Nothing Sacred (1937)—ffilm liw a gyfarwyddwyd gan William A. Wellman—a To Be or Not to Be (1942). Yn ogystal â'i pherfformiadau digrif, ymddangosodd mewn sawl rôl ddramataidd, gan gynnwys Vigil in the Night (1940) a They Knew What They Wanted (1940). Un o'i rhannau olaf oedd yn Mr. and Mrs. Smith (1941), un o'r unig ffilmiau comedi a gyfarwyddwyd gan Alfred Hitchcock.

Priododd Carole Lombard â William Powell ym 1931; cawsant ysgariad ym 1933. Ym 1939 priododd hi â Clark Gable, un o'r sêr enwocaf yn y sinema Americanaidd. Yn Ionawr 1942, un mis wedi'r ymosodiad ar Pearl Harbor, ymwelodd Lombard â'i dinas enedigol i ymddangos mewn rali ar gyfer bondiau rhyfel. Wrth iddi a'i mam ddychwelyd i Galiffornia, ar y rhan olaf o ehediad TWA 3 i Burbank, tarodd yr awyren Fynydd Potosi, ar gyrion Las Vegas, Nevada, gan ladd pob un o'r 22 o deithwyr a chriw. Wedi ei marwolaeth, yn 33 oed, rhyddhawyd ei llun olaf, To Be or Not to Be (1942), ffilm ddychanol wrth-Natsïaidd a gyfarwyddwyd gan Ernst Lubitsch.

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Carole Lombard. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 9 Mai 2022.

Darllen pellach golygu

  • Warren G. Harris, Gable and Lombard (Efrog Newydd: Simon and Schuster, 1974).
  • Frederick W. Ott, The Films of Carole Lombard (New Jersey: Citadel, 1972).
  • Larry Swindell, Screwball: The Life of Carole Lombard (Efrog Newydd: Morrow, 1975).