Caroline Herschel

seryddwr, mathemategydd, canwr (1750-1848)

Roedd Caroline Lucretia Herschel (16 Mawrth 17509 Ionawr 1848) yn seryddwraig Almaenig. Roedd yn chwaer i'r seryddwr enwog William Herschel, ond ni dderbyniodd yr un sylw na chanmoliaeth yn ystod ei gyrfa. Fe'i ganwyd yn Hannover, cafodd deiffoid pan oedd yn ddeg oed, ac ni thyfodd wedyn; ei thaldra oedd pedair troedfedd a thair modfedd.[1]

Caroline Herschel
Ganwyd16 Mawrth 1750 Edit this on Wikidata
Hannover Edit this on Wikidata
Bu farw9 Ionawr 1848 Edit this on Wikidata
Hannover Edit this on Wikidata
Man preswylLloegr Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Hannover Edit this on Wikidata
Galwedigaethseryddwr, mathemategydd, canwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
TadIsaac Herschel Edit this on Wikidata
MamAnna Ilse Moritzen Edit this on Wikidata
Gwobr/auMedal Aur y Gymdeithas Seryddol Frenhinol Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.fembio.org/english/biography.php/woman/biography/caroline-herschel Edit this on Wikidata

Roedd hi'n gyfrifol am ddarganfod wyth o gomedau. Etholwyd hi i'r Gymdeithas Seryddiaethol Brenhinol [Royal Astronomical Society] ym 1835; hi a Mary Somerville, traethodydd ar bynciau gwyddonol o'r Alban, oedd aelodau benywaidd cyntaf y gymdeithas. Ar ei phen-blwyd yn 96 oed, yn 1846, cyflwynwyd Medal Aur dors Wyddoniaeth iddi gan Frenin Prwsia.[2]

Enwir yr asteroid '281 Lucretia' a chrater ar y Lleuad ar ei hôl.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Nysewander, Melissa. Caroline Herschel. Biographies of Women Mathematicians, Atlanta: Agnes Scott College, 1998.
  2. Herschel, Caroline Lucretia (1876). Herschel, Mrs. John (gol.). Memoir and Correspondence of Caroline Herschel. Llundain: John Murray, Albemarle Street.