Carwyn Eckley
Newyddiadurwr o Gymro a Phrifardd
Newyddiadurwr a bardd yw Carwyn Eckley (ganwyd 1996). Enillodd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhondda Cynon Taf 2024, un o'r ieuengaf erioed i gyflawni'r gamp, yn 28 oed.
Carwyn Eckley | |
---|---|
Ganwyd | 1996 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | newyddiadurwr |
Astudiodd gwrs gradd mewn Cymraeg Proffesiynol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae'n gweithio gyda adran Gymraeg ITV Cymru.
Dysgodd gynganeddu mewn gwersi gydag Eurig Salisbury, ac yna gyda Rhys Iorwerth. Enillodd gadair Eisteddfod yr Urdd yn 2020-21. Mae’n aelod o dîm Talwrn y Beirdd Dros yr Aber o Gaernarfon.[1]
Bywyd personol
golyguMagwyd Carwyn ym Mhenygroes, Dyffryn Nantlle. Yn 2024 roedd e'n byw yng Nghaerdydd.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Carwyn Eckley yn ennill Cadair Eisteddfod Rhondda Cynon Taf". newyddion.s4c.cymru. 2024-08-09. Cyrchwyd 2024-08-09.
- ↑ "Carwyn Eckley yn ennill Cadair Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf". BBC Cymru Fyw. 2024-08-09. Cyrchwyd 2024-08-09.