Yr Hôb
Pentref a chymuned yn Sir y Fflint, Cymru, yw Yr Hôb[1] neu Llangyngar[2] (Saesneg: Hope), sy'n golygu 'tir caeëdig mewn cors' yn yr Hen Saesneg.[3] Mae ganddo boblogaeth o 2,522 (2001).
![]() | |
Math | pentref, cymuned ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir y Fflint ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.1077°N 3.0366°W, 53.11882°N 3.04138°W ![]() |
Cod SYG | W04000193, W04000993 ![]() |
Cod OS | SJ30705723 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Jack Sargeant (Llafur) |
AS/au | Mark Tami (Llafur) |
![]() | |
- Am leoedd eraill o'r enw "Hope", gweler Hope.
Gorwedd y pentref tua 4.5 km o'r ffin â Lloegr (Swydd Gaer), ar lannau Afon Alun. Mae'r Hob yn un o grŵp bychan o bentrefi lleol sy'n perthyn yn agos iawn i'w gilydd, yn cynnwys Caergwrle, Abermorddu a Cefn-y-Bedd. Prif dirffurf yr ardal yw Mynydd yr Hob, i'r gorllewin o'r pentref, gyda chwarel arno sydd wedi cau bellach.
Lleolir Ysgol Uwchradd Castell Alun yn y pentref; ceir ysgol gynradd yn ogystal, sef Ysgol Estyn.
Mae cysylltiadau cludiant da yn cysylltu'r Hôb a lleoedd fel Wrecsam, Caer a'r Wyddgrug, ac mae Reilffordd y Gororau yn ei gysylltu â Lerpwl i'r gogledd-ddwyrain.
Weithiau cyfeirir at Gastell Caergwrle fel "Castell yr Hôb", am ei fod yn gorwedd rhwng y ddau le. Enw'r eglwys leol yw Sant Cynfarch a Sant Cyngar, sy'n cyfeirio at ddau sant: Cynfarch (5g) a Cyngar ap Geraint (6g). Ceir cofeb liwgar a hynafol yn yr eglwys i Sion Trevor (1563–1630), Plas Teg, gwleidydd a mab Sion Trefor (m. 1589), ystad Trefalun.
Pobl nodedig o'r ardalGolygu
- Sion Trevor (1563–1630), Plas Teg, gwleidydd ac archwiliwr llongau
CyfeiriadauGolygu
- ↑ "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
- ↑ Peter Clement Bartrum, A Welsh Classical Dictionary (Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 1993)llgc.org.uk;
- ↑ British Place Names; adalwyd 12 Ionawr 2022
Trefi
Bagillt ·
Bwcle ·
Caerwys ·
Cei Connah ·
Y Fflint ·
Queensferry ·
Saltney ·
Shotton ·
Treffynnon ·
Yr Wyddgrug
Pentrefi
Abermor-ddu ·
Afon-wen ·
Babell ·
Bretton ·
Brychdyn ·
Brynffordd ·
Caergwrle ·
Carmel ·
Cefn-y-bedd ·
Cilcain ·
Coed-llai ·
Coed-talon ·
Cymau ·
Chwitffordd ·
Ewlo ·
Ffrith ·
Ffynnongroyw ·
Gorsedd ·
Gronant ·
Gwaenysgor ·
Gwernymynydd ·
Gwernaffield ·
Gwesbyr ·
Helygain ·
Higher Kinnerton ·
Yr Hôb ·
Licswm ·
Llanasa ·
Llaneurgain ·
Llanfynydd ·
Llannerch-y-môr ·
Maes-glas ·
Mancot ·
Mostyn ·
Mynydd Isa ·
Mynydd-y-Fflint ·
Nannerch ·
Nercwys ·
Neuadd Llaneurgain ·
Oakenholt ·
Pantasaph ·
Pant-y-mwyn ·
Penarlâg ·
Pentre Helygain ·
Pen-y-ffordd ·
Pontblyddyn ·
Pontybotgyn ·
Rhes-y-cae ·
Rhosesmor ·
Rhyd Talog ·
Rhyd-y-mwyn ·
Sandycroft ·
Sealand ·
Sychdyn ·
Talacre ·
Trelawnyd ·
Trelogan ·
Treuddyn ·
Ysgeifiog