Cytundeb Aberconwy
Cytundeb a arwyddwyd rhwng Llywelyn Ein Llyw Olaf ac Edward I, Brenin Lloegr yn 1277 oedd Cytundeb Aberconwy. Rhoddodd Llywelyn ei sêl ar y ddogfen ar 9 Tachwedd, 1277. Trefnwyd y cytundeb yn Abaty Aberconwy gyda Tudur ab Ednyfed a Goronwy ap Heilin yn cynrychioli Tywysog Gwynedd yn y trafodaethau â chynrychiolwyr Edward I.[1]
Enghraifft o'r canlynol | cytundeb heddwch |
---|---|
Dyddiad | 9 Tachwedd 1277 |
Lleoliad | Abaty Aberconwy |
Gwladwriaeth | Cymru |
Cadwodd Llywelyn y teitl Tywysog Cymru, a chafodd ganiatâd i briodi Elinor de Montfort. Ond unig etifeddiaeth Llywelyn oedd Gwynedd Uwch Conwy - bu rhaid iddo ildio'r Berfeddwlad "yn dragwyddol" i Goron Lloegr - a doedd dim ond pump o fân-arglwyddi Cymru i dalu gwrogaeth iddo gan fod y gweddill i dalu gwrogaeth i Edward. Roedd Dafydd ei frawd i gael llywodraethu cantrefi Rhufoniog a Dyffryn Clwyd ac roedd Gruffudd ap Gwenwynwyn i gael Powys.[1]
Er bod y cytundeb yn golygu gostyngiad sylweddol yn safle Llywelyn, a hynny ar ôl llawer o frwydro caled, yr oedd ymhell o fod yr hyn a ddymunai Edward, sef gostyngiad llwyr Gwynedd annibynnol a'i throi'n rhan o deyrnas Lloegr.[1]
Gweler hefyd
golygu- Cytundeb Trefaldwyn, 29 Medi 1267
- Cytundeb Penmachno, 19 Rhagfyr 1294
- Cytundeb Middle, 1234