Castell Dolwyddelan
Castell o flaen bwlch yn y mynyddoedd ger pentref Dolwyddelan yn Nyffryn Lledr, Gwynedd, yw Castell Dolwyddelan. Mae'r castell yn sefyll mewn lle strategol, yn amddiffyn y fynediad i Wynedd o'r dwyrain ac o gyfeiriad Conwy. Mae ar restr safleoedd treftadaeth Cadw. Amddynnai rhannau uchaf cwmwd Nant Conwy.
Math | castell, cestyll y Tywysogion Cymreig |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Dolwyddelan |
Sir | Conwy |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 211.3 metr |
Cyfesurynnau | 53.0531°N 3.9083°W |
Rheolir gan | Cadw |
Perchnogaeth | Cadw |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Sefydlwydwyd gan | Llywelyn Fawr |
Manylion | |
Deunydd | siltstone |
Dynodwr Cadw | CN040 |
Hanes
golyguCyn i'r castell presennol gael ei godi roedd y dyffryn yn cael ei amddiffyn gan gastell llai, a adwaenir heddiw fel Tomen y Castell. Ar y safle ceir craig gydag olion aneglur muriau twr amddiffynnol sy'n gorwedd chwarter milltir i'r de-ddwyrain o'r castell presennol.
Codwyd Castell Dolwyddelan gan dad Llywelyn Fawr, Iorwerth Drwyndwn. Mae'n bosibl bod Llywelyn Fawr wedi cael ei eni yma, neu yn Tomen Castell, tua 1173.
Roedd yn safle pwysig iawn i Llywelyn ein Llyw Olaf. Roedd un o'r ddau gastell (Dolbadarn oedd y llall) a etifeddodd. Roedd y tir o'i gwmpas yn safle ar gyfer cadw gwartheg i fwydo'r fyddin, un o gyfres o vaccaria tywysogaidd yn Eryri. Roedd Llywelyn yn cadw rhan o'i drysor yn y castell yn ogystal, er mwyn diogelwch. O bryd i'w gilydd byddai llys ar gylch y tywysog yn cael ei gynnal yno yn ogystal, fel y bu ar 9 Awst, 1275, er enghraifft. Felly tyfodd y castell i fod yn llawer mwy nag amddiffynfa yn unig; chwareai ran bwysig yn economi a gweinyddiaeth Tywysogaeth Gwynedd hefyd.
Cipiwyd y castell gan Edward I a'i luoedd ar y 18 Ionawr, 1283. Roedd y Saeson yn canolbwyntio ar y cestyll ar yr arfordir ac ni ddefnyddiwyd Dolwyddelan ar ôl 1290.
Yr adeilad
golyguMae gan y castell dau dŵr. Codwyd y gorthwr (keep) gwreiddiol ar ddiwedd y 12g neu ar ddechrau'r 13g; yr oedd iddi seler ynghyd â stafell ar y llawr cyntaf gyda grisiau cerrig allanol yn arwain iddi. Roedd y fynedfa i'r gorthwr yn cael ei amddiffyn gan bont godi ac adeilad blaen.
Mae llenfur o gerrig lleol yn amylghynu'r safle heddiw ond mae'n bosibl bod hwnnw wedi disodli palis pren cynharach, efallai yn gynnar yn y 13g.
Ymddengys i'r ail dwr ar y safle gail ei godi gan Llywelyn ap Gruffudd rhywbryd rhwng 1250 a 1270. Mae'n dwr petryal cadarn yng nghornel ogledd-orllewinol y castell ac mae'n wynebu'r gogledd.
Ychwanegwyd llawr arall at y gorthwr gwreiddiol yn y bymthegfed ganrif gan Maredudd ab Ieuan, uchelwr o Ddolwyddelan. Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg cafodd y gorthwr ei atgyweirio'n sylweddol. Y twr hwn yw'r mwyaf amlwg o'r ddau dwr heddiw, ond yn yr Oesoedd Canol buasai'r twr gorllewinol wedi bod yn llawer mwy trawiadol.
Mynediad
golyguMae'r castell yng ngofal Cadw ac ar agor i'r cyhoedd. Ceir maes parcio wrth ymyl yr A470 ar y ffordd i Flaenau Ffestiniog ar ôl gadael Dolwyddelan. Mae llwybr yn dringo o'r maes parcio i'r castell.
Llyfryddiaeth
golygu- Richard Avent, Cestyll Tywysogion Gwynedd (Caerdydd, 1983). ISBN 978-0-11671-134-2
- Paul R. Davies, Castles of the Welsh Princes (Abertawe, 1988). ISBN 978-0-86243-970-5
- J. Beverley Smith, Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru (Caerdydd, 1986). ISBN 978-0-70830-884-4