Castell Cymer

adfeilion castell ym Meirionnydd (de Gwynedd)

Castell a godwyd gan un o ddeiliaid teyrnas Powys ym Meirionnydd (de Gwynedd) ar ddechrau y 12g oedd Castell Cymer.

Castell Cymer
Mathadfeilion castell Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadLlanelltud Edit this on Wikidata
SirGwynedd
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr155.2 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.758517°N 3.880803°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II, heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwME150 Edit this on Wikidata

Codwyd y castell gan Uchdryd ab Edwin. Ar ddechrau'r 12g, rhoddwyd tir o gwmpas cymer afonydd Wnion a Mawddach (ger Dolgellau heddiw) iddo gan Cadwgan ap Bleddyn, brenin Powys, ar yr amod ei fod yn ei ddefnyddio i amddiffyn y deyrnas honno. Olynwyd Cadwgan yn 1111 gan ei fab Owain. Ond yn ôl Brut y Tywysogion, pan fu farw Owain yn 1116, hawliodd Uchdryd y tir - Cymer Deuddwr - iddo ei hun. Cododd gastell mwnt a beili yno, ger cymer y ddwy afon, ond daeth meibion Owain Cadwgan i Gymer a'i gipio oddi wrtho.

Llosgwyd y castell pren i'r llawr a meddiannodd meibion Owain dir Uchdryd. Ymddengys na ddefnyddwyd y safle ar ôl hynny. Yn ddiweddarach, yn 1198, sefydlwyd Abaty Cymer tua milltir i'r gorllewin o'r hen gastell.

Heddiw mae olion y castell i'w cael tua milltir i'r gogledd o Ddolgellau, ar lethrau Mynydd Foel Cynwch. Dim ond y mwnt sydd wedi goroesi.

Ffynonellau

golygu
  • Paul R. Davies, Castles of the Welsh Princes (Abertawe, 1988)