Mwnt Dolbenmaen

castell yng Ngwynedd
(Ailgyfeiriad o Castell Dolbenmaen)

Castell mwnt yw Mwnt Dolbenmaen, a leolir ar gwr pentref Dolbenmaen, Gwynedd, ger y rhyd ar Afon Dwyfor.

Mwnt Dolbenmaen
Gwelir y mwnt y tu ôl i'r cwt gwyrdd.
Mathcastell mwnt a beili Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaCylchdaith llys Tywysogion Gwynedd Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 12 g Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.96415°N 4.22498°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH5066043071 Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwCN063 Edit this on Wikidata

Codwyd y castell yn yr Oesoedd Canol. Ychydig a wyddys am ei hanes. Mae'n bosibl iddo gael ei godi yn wreiddiol gan y Normaniaid, yn y cyfnod byr pan feddianwyd rhannau o Wynedd gan yr iarll Hugh d'Avranches ('Huw Flaidd') o Gaer ar ddiwedd yr 11g a dechrau'r ganrif ganlynol. Posiblrwydd arall yw iddo gael ei godi gan dywysogion Gwynedd.

Erbyn y 12g roedd Dolbenmaen yn ganolfan maerdref cwmwd Eifionydd ac yn un o lysoedd brenhinol tywysogion Gwynedd. Yn 1230 symudodd Llywelyn Fawr y llys lleol oddi yno i gastell Cricieth. Dim ond y mwnt sydd i'w weld ar y safle heddiw, ger eglwys Dolbenmaen.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. Frances Lynch, A Guide to Ancient and Historical Wales: Gwynedd (HMSO, Llundain, 1995).